Beth i'w wneud os oes gennych broblem gyda'ch darparwr ffôn

Cyhoeddwyd: 12 Chwefror 2013

Er bod llawer ohonon ni'n defnyddio ein ffonau llinell dir a ffonau symudol heb unrhyw broblemau, weithiau bydd problemau'n codi a fydd yn ein gorfodi i wneud cwyn.

Mewn rhai achosion, pan na ellir datrys cwyn gyda darparwr, mae gennych hawl i ddefnyddio cynllun Datrys Anghydfod Amgen (ADR).

Mae'r canlynol yn esbonio mwy am gynlluniau ADR, beth maen nhw'n ei wneud a phryd y dylech gysylltu â nhw.

Yn y lle cyntaf, mae angen i chi gysylltu ag adran gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr gwasanaeth ac egluro eich problem.

Os na fydd hynny'n datrys y mater, yna gallwch wneud cwyn ffurfiol i'r cwmni.

Dylech ddod o hyd i fanylion sut i wneud hyn ar gefn eich bil ac ar eu gwefan.

Os na allwch ddod o hyd i'r manylion hyn, dylai staff gwasanaeth cwsmeriaid y cwmni ddweud wrthych sut i wneud cwyn ffurfiol.

Y cam nesaf yw mynd â'ch anghydfod at y cynllun ADR priodol.

Mae cynlluniau ADR yn gweithredu fel cyfryngwr annibynnol rhwng y darparwr gwasanaeth a'r cwsmer pan na ellir datrys cwyn gychwynnol.

Maent yn rhad ac am ddim ac yn agored i gwsmeriaid preswyl yn ogystal â busnesau bach gyda hyd at 10 o weithwyr.

Mae enghreifftiau o gwynion y gall y cynlluniau eu hystyried yn cynnwys anghydfod ynghylch taliadau sy'n ymddangos ar fil, hawlio ad-daliadau a'r modd yr ymdriniwyd â chwyn.

Os nad ydych wedi dod i gytundeb gyda'ch darparwr ar ôl wyth wythnos gallwch ofyn i gynllun ADR ystyried yr achos.

Fodd bynnag, gallwch gysylltu â chynllun ADR yn gynharach os yw'ch darparwr gwasanaeth yn cytuno eich bod mewn anghydfod. Os yw hyn yn wir, bydd angen i chi ofyn i'ch darparwr am lythyr cloi sy'n eich galluogi i gyfeirio'r anghydfod at y cynllun ADR. Rhaid i'r cais fod yn llai na 9 mis oed hefyd.

Bydd yn archwilio eich dadleuon, a rhai eich darparwr, ac yn dod i benderfyniad y mae'n credu sy'n deg. Os yw'r cynllun ADR yn cytuno â'ch cwyn, gall orchymyn i'r darparwr gwasanaeth ddatrys y broblem ac, os oes angen, talu iawndal.

Mae dau gynllun ADR ar gael: Communications and Internet Services Adjudication Scheme (CISAS)Communications Ombudsman, a rhaid i bob darparwr gwasanaeth fod yn aelod o un o'r cynlluniau hyn.

Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch chi ddefnyddio ein teclyn gwirio ADR.

Yn ôl i'r brig