Papur Trafod: Gwneud i farchnadoedd cyfathrebiadau weithio’n dda i gwsmeriaid – fframwaith ar gyfer asesu tegwch

Cyhoeddwyd: 17 Mehefin 2019
Ymgynghori yn cau: 12 Awst 2019
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae sicrhau tegwch i gwsmeriaid yn flaenoriaeth barhaus i Ofcom ac mae gennym raglen waith i annog darparwyr i roi tegwch wrth galon eu busnesau. Rydym eisiau i bobl gael eu trin yn deg a chael bargen dda gan eu darparwr. Mae ein fframwaith tegwch yn egluro sut rydym yn debygol o asesu pryderon tegwch pan fyddant yn codi a’r mathau o broblemau a allai sbarduno gweithredu gennym ni.

Ym mis Mehefin 2019, fe wnaethom lunio fframwaith tegwch drafft a cheisio barn ar ein dull gweithredu arfaethedig.  Mae'r ddogfen hon yn crynhoi'r prif bwyntiau a godwyd mewn ymateb i'r papur trafod, yn rhoi ein hymateb iddynt ac yn egluro ein fframwaith terfynol.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Fairness Framework
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig