![HERO Latest telecoms and pay-TV complaints revealed (1336 × 560px)](/siteassets/resources/images/-news-centre/body-images/2025/latest-telecoms-and-pay-tv-complaints-revealed/hero-latest-telecoms-and-pay-tv-complaints-revealed-1336--560px.png?width=1920&height=577&quality=80)
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf am y cwynion a gawsom am y prif wasanaethau ffôn sefydlog, ffôn symudol, band eang a theledu-drwy-dalu yn y DU.
Mae’r ffigurau hyn yn berthnasol i drydydd chwarter 2024, o fis Gorffennaf i fis Medi.
Y Prif Ganfyddiadau
Yn ystod y chwarter hwn, bu gostyngiad bach yn nifer y cwynion a gawsom wrth gymharu â’r chwarter blaenorol (rhwng mis Ebrill a mis Mehefin). Fodd bynnag, roedd lefel gyffredinol cwynion y diwydiant wedi aros yr un fath fwy neu lai.
- TalkTalk a gynhyrchodd y nifer mwyaf o gwynion am fand eang, gyda mwy o gwynion na’r chwarter blaenorol.
- Sky oedd y darparwr band eang y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdano.
- EE, NOW Broadband a TalkTalk oedd y darparwyr ffôn sefydlog y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt. Er bod EE a NOW Broadband wedi gweld gostyngiad yn nifer y cwynion, roedd cynnydd yn nifer y cwynion am TalkTalk o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.
- Utility Warehouse oedd y darparwr llinell dir y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdano.
- O2 oedd y darparwr gwasanaeth symudol y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano unwaith eto. Roedd cwynion cwsmeriaid yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd yr ymdriniwyd â’u cwynion.
- EE, Sky Mobile a Tesco Mobile oedd y darparwyr ffonau symudol y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
- EE a Virgin Media oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt.
- Sky a TalkTalk oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom:
Mae'n gadarnhaol gweld gostyngiad bach yn nifer y cwynion ar gyfer y chwarter hwn, ac rydym yn awyddus i weld gostyngiadau pellach yn y dyfodol. Fodd bynnag, gallwn weld mai prif achosion cwynion ar gyfer y chwarter hwn oedd delio â chwynion, a namau gyda gwasanaethau neu sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu cysylltu. Mae'r rhain yn agweddau sylfaenol ar wasanaeth i gwsmeriaid a byddem yn disgwyl i ddarparwyr ddelio â nhw’n well er mwyn lleihau anfodlonrwydd a chwynion cwsmeriaid. Rydym yn gobeithio gweld gwelliant yn y maes hwn.
Pam rydym yn casglu’r data hwn
Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, rydym yn casglu’r data cwynion hwn er mwyn i ni allu deall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd ymysg cwsmeriaid yn y sectorau rydym yn eu rheoleiddio. Er nad ydym yn delio â chwynion unigol, mae casglu’r data hwn yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i’r darparwyr gorau ar gyfer eu hanghenion o ran telegyfathrebiadau a theledu-drwy-dalu.
Mae’r siartiau isod yn dangos nifer cymharol y cwynion rydym wedi’u cael am wasanaethau band eang, ffonau sefydlog, ffonau symudol talu’n fisol, a theledu-drwy-dalu.