Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi'r tablau cynghrair diweddaraf am y cwynion rydym yn eu derbyn am brif gwmnïau’r DU ar gyfer ffôn cartref, band eang, ffôn symudol a theledu drwy dalu.
Mae’r adroddiad chwarterol yn datgelu nifer y cwynion a gyflwynwyd i Ofcom rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni am ddarparwyr telegyfathrebu a theledu drwy dalu sydd â chyfran o dros 1.5% o’r farchnad. Felly, mae’n cwmpasu’r trydydd cyfnod clo ledled y DU pan oedd yn rhaid i filiynau o bobl weithio gartref a phan fu’n rhaid i lawer o blant ysgol ddilyn eu hastudiaethau ar-lein.
Yn gyffredinol, roedd y cwynion am wasanaethau symudol wedi aros yn weddol sefydlog. Fodd bynnag, roedd y cwynion am fand eang a llinellau tir ar ei uchaf ers tair blynedd, tra bo cwynion am wasanaethau teledu drwy dalu wedi cynyddu yn ystod y chwarter hefyd.
Virgin Media oedd yn gyfrifol am gyfran sylweddol o’r cwynion hyn a’r cwmni hwn hefyd oedd y darparwr band eang, llinell dir a theledu drwy dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano. Prif fyrdwn cwynion cwsmeriaid Virgin Media i Ofcom oedd y ffordd roedd y cwmni wedi delio â’u cwynion yn y lle cyntaf.
Virgin Mobile oedd y cwmni symudol y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano, ynghyd â Three. Ar y llaw arall, Tesco Mobile, Sky Mobile ac EE gafodd y nifer lleiaf o gwynion.
Sky ac EE oedd y darparwyr llinell dir a band eang y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt, a Sky gafodd y nifer lleiaf o gwynion am deledu drwy dalu.
Dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom: “Mae’r ffigurau hyn ar gyfer cwynion yn dod o anterth y pandemig, a oedd yn gyfnod anodd i bawb, gan gynnwys busnesau. Ond mae’n amlwg fod rhai darparwyr yn fwy nag eraill wedi cael trafferth gyda’u gwasanaethau i gwsmeriaid, ac rydym yn sylweddoli pa mor rhwystredig oedd hynny i’w cwsmeriaid ar adeg pan oedd angen y gwasanaethau cyfathrebu arnyn nhw fwyaf.
“Rydyn ni wedi dweud yn glir wrth ddarparwyr ein bod yn disgwyl y bydd y perfformiad nawr yn dychwelyd at o leiaf y lefelau a welsom cyn i’r pandemig daro – neu hyd yn oed yn well.”
Mae’r wybodaeth a gyhoeddwn am gwynion yn helpu pobl i gymharu cwmnïau pan fyddant yn chwilio am ddarparwr newydd ac yn annog cwmnïau i wella eu perfformiad. Mae ein hwb ansawdd gwasanaeth yn cynnig rhagor o wybodaeth am sut y gall pobl ddewis y darparwr gorau.
Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, a gall yr wybodaeth a gawn arwain at lansio ymchwiliadau.
Dylai unrhyw un sy'n cael problemau wneud cwyn i'w darparwr yn gyntaf. Os ydynt yn anfodlon â'r canlyniad, gallant wneud cwyn i ombwdsmon annibynnol, a fydd yn edrych ar yr achos, ac yn dod i benderfyniad ynghylch hynny.
Cwynion ynglŷn â band eang yn y cartref fesul 100,000 o gwsmeriaid
Cwynion ynglŷn â ffôn llinell dir fesul 100,000 o gwsmeriaid
Cwynion ynglŷn â ffonau symudol fesul 100,000 o gwsmeriaid
Cwynion ynglŷn â theledu trwy dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid
Nifer cymharol y cwynion fesul gwasanaeth fesul 100,000 o danysgrifwyr
NODIADAU I OLYGYDDION
- Roedd y gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng nifer y cwynion a gafodd y darparwyr band eang sefydlog canlynol fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag 1, felly dylid ystyried eu canlyniadau’n gyfartal: 1. EE a Sky; a 2. Vodafone a TalkTalk.
- Roedd y gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng nifer y cwynion a gafodd y darparwyr llinell dir canlynol fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag un, felly dylid ystyried eu canlyniadau’n gyfartal: 1. EE a Sky; 2. cyfartaledd y diwydiant a Vodafone; a 3. Vodafone a Plusnet.
- Roedd y gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng nifer y cwynion a gafodd y darparwyr ffonau symudol talu’n fisol canlynol fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag un, felly dylid ystyried eu canlyniadau’n gyfartal: 1. Tesco Mobile, Sky Mobile ac EE; 2. Sky Mobile, EE ac O2; 3. O2, cyfartaledd y diwydiant, a BT Mobile; 4. Vodafone, iD Mobile, a Virgin Mobile; a 5. Virgin Mobile a Three.