Complaints-visual-web

Datgelu’r ffigurau diweddaraf am gwynion ynghylch cwmnïau telegyfathrebiadau a theledu-drwy-dalu

Cyhoeddwyd: 14 Tachwedd 2024

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf am y cwynion a gafwyd am y prif ddarparwyr gwasanaethau ffôn tŷ, ffôn symudol, band eang a theledu-drwy-dalu yn y DU.

Mae’r ffigurau hyn yn berthnasol i’r chwarter rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni.

Yn ystod y chwarter hwnnw, arhosodd y cwynion ar lefel debyg i’r chwarter blaenorol. Gwelwyd gostyngiad bach yn nifer y cwynion am wasanaethau band eang, ffonau tŷ a ffonau symudol, ac arhosodd nifer y cwynion am deledu-drwy-dalu yr un fath.

Y Prif Ganfyddiadau

  • NOW Broadband a gafodd y nifer mwyaf o gwynion am wasanaethau band eang, er bod nifer y cwynion am y darparwr wedi gostwng o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Roedd y cwynion yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd roedd wedi delio â chwynion gan gwsmeriaid.
  • Sky oedd y darparwr band eang y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdano.
  • EE oedd y darparwr ffonau tŷ y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano, gyda nifer y cwynion wedi cynyddu ers y chwarter blaenorol. Roedd cwsmeriaid yn cwyno’n bennaf am namau, gwasanaethau a sefydlu eu cysylltiadau.
  • Utility Warehouse a gafodd y nifer lleiaf o gwynion yn ymwneud â ffonau tŷ.
  • O2 oedd y darparwr ffonau symudol cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano. Roedd cwynion cwsmeriaid yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd roedd O2 wedi delio â’u cwynion.
  • EE, Tesco Mobile a Vodafone oedd darparwyr ffonau symudol y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
  • EE a Virgin Media oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt, a Sky a TalkTalk oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.

Dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Polisi Ofcom: “Er bod nifer y cwynion fwy neu lai wedi aros yr un fath yn ystod y chwarter hwn, rydym yn falch o weld gostyngiad bach yn nifer y cwynion am rai o’r gwasanaethau sy’n cael sylw yn y ffigurau hyn.

“Mae gwasanaethau cyfathrebiadau bellach yn rhan hanfodol o’n bywydau bob dydd ac mae cwsmeriaid yn haeddu gwasanaeth o safon uchel. Rydym yn galw ar ddarparwyr i wella eu perfformiad mewn meysydd lle nad ydynt yn cyrraedd y nod ar hyn o bryd.”

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r Deyrnas Unedig, mae'r ffigurau hyn am gwynion yn ein helpu i ddeall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd cwsmeriaid ar draws y gwasanaethau hyn. Er nad ydym yn delio â chwynion unigol, mae cyhoeddi’r ffigurau hyn yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i’r darparwr gorau ar gyfer eu hanghenion.

Mae’r tablau isod yn dangos nifer y cwynion rydym wedi’u cael am wasanaethau band eang, ffonau tŷ, ffonau symudol talu’n fisol, a theledu-drwy-dalu.

Yn ôl i'r brig