Ansawdd gwasanaeth i fusnesau

Cyhoeddwyd: 13 Hydref 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Ar ddechrau 2021, roedd tua 5.5 miliwn o MBaCh (â llai na 249 o weithwyr). Mae hyn yn cyfrif am 99% o holl fusnesau'r DU.

Mae mentrau bach a chanolig yn hanfodol i lwyddiant economi'r DU, ac mae gwasanaethau cyfathrebu'n allweddol bwysig i'r fath fusnesau.

O'i gymharu â busnesau mwy, gall mentrau bach a chanolig wynebu heriau penodol wrth ymgysylltu â gwasanaethau cyfathrebu, yn enwedig os nad ydynt yn cyflogi arbenigwyr technegol. Gallant ei chael hi'n anodd deall rhywfaint o'r dechnoleg dan sylw ac i ddeall pa gynhyrchion a gwasanaethau sy'n fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion.  Nid yw rhai hefyd yn ymwybodol o lefel ansawdd y gwasanaeth y mae eu darparwr yn ei chynnig.

Mae ein hadroddiad ansawdd gwasanaeth yn cymryd anghenion a phrofiadau mentrau bach a chanolig i ystyriaeth. Darllenwch y bennod ar brofiadau MBaCh o ansawdd gwasanaeth (PDF, 206.3 KB).

Ym mis Tachwedd 2017, bu i ni roi rheolau newydd (PDF, 169.0 KB) ar waith i ddiogelu buddiannau MBaCh drwybennu gofynion tryloywder (PDF, 1.6 MB) ar gyfer darparwyr mewn perthynas â'r CLG a'r iawndal y maent yn ei gynnig. Daeth y rheolau hyn i rym ym mis Mai 2018.

Rydym yn gwneud ymchwil ar argaeledd gwasanaethau cyfathrebu i fentrau bach a chanolig, yn ogystal â'u profiadau o'r gwasanaethau hynny. Gweler ein gwaith diweddaraf.

Yn ôl i'r brig