Anxious woman on phone

Ymgynghoriad: Defnyddwyr i allu uwchgyfeirio cwynion telegyfathrebiadau er mwyn datrys anghydfodau yn gynt, o dan gynlluniau Ofcom

Cyhoeddwyd: 15 Ionawr 2025

Dim ond chwe wythnos, yn hytrach nag wyth wythnos, y byddai’n rhaid i ddefnyddwyr aros cyn gallu uwchgyfeirio eu cwynion telegyfathrebiadau heb eu datrys i gynllun dulliau amgen o ddatrys anghydfod, o dan gynlluniau a gyflwynwyd gan Ofcom heddiw.

Mae cynlluniau Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yn cael eu darparu gan gyrff annibynnol sy’n cynnal asesiadau diduedd o gwynion heb eu datrys rhwng cwsmer a’i ddarparwr cyfathrebiadau. Mae’r broses hon wedi’i llunio i helpu i sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn deg ac yn effeithiol, ac mae’n grymuso defnyddwyr yn eu perthynas â’u darparwr.

Ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom lansio adolygiad o ba mor effeithiol mae’r system ADR bresennol yn gweithio, gan gynnwys cynnal ymchwil ymysg defnyddwyr i ddeall eu profiadau. Er i ni ganfod bod rheolau ADR yn gweithio'n dda ar y cyfan, rydym o'r farn bod angen gwneud newidiadau wedi'u targedu.

Yn benodol, rydym o’r farn nad yw’r amser y mae’n rhaid i ddefnyddwyr aros cyn gallu uwchgyfeirio cwynion i ADR yn gweithio’n effeithiol mwyach.

Hwyluso mynediad cyflymach at ADR

O dan y rheolau presennol, rhaid i ddarparwyr roi gwybod i ddefnyddwyr am eu hawl i gael mynediad at ADR os na fydd cwyn wedi cael ei datrys yn foddhaol ar ôl wyth wythnos, neu cyn hynny, os bydd y gŵyn wedi mynd yn sefyllfa ddiddatrys.

Rhwng mis Ionawr 2022 a 2024, cafodd mwyafrif sylweddol (79%) o’r cwynion a ddaeth i law’r prif ddarparwyr eu datrys mewn llai nag wythnos, gyda 94% yn cael eu datrys o fewn chwe wythnos.

O blith y 700,000 o achwynwyr a oedd yn weddill, llwyddodd cyfran gymharol fach (tua 19%) i gael datrys eu problem, neu i gael eu cyfeirio at ADR erbyn diwedd y terfyn presennol o 8 wythnos. Mae hyn yn awgrymu bod nifer sylweddol o ddefnyddwyr wedi cael eu gadael gyda’u cwyn heb ei datrys – ac unrhyw niwed cysylltiedig – am bythefnos arall cyn gallu cael mynediad at ADR.

Er mwyn gwasanaethu defnyddwyr yn well a helpu i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar ADR yn brydlon, rydym yn cynnig lleihau’r amser cyn y gall defnyddwyr uwchgyfeirio eu cwyn i ADR – o wyth wythnos i chwe wythnos.

Ailgymeradwyo’r Ombwdsmon Cyfathrebiadau a CISAS

Mae Ofcom hefyd yn cynnig bod yr Ombwdsmon Cyfathrebiadau (a elwid gynt yn Wasanaethau’r Ombwdsmon) a Chynllun Dyfarnu’r Gwasanaethau Cyfathrebiadau a’r Rhyngrwyd (CISAS) yn cael eu hailgymeradwyo. Mae ein hadolygiad wedi dod i’r casgliad eu bod yn gweithio’n dda ac yn parhau i fodloni’r meini prawf asesu statudol o dan y Ddeddf Cyfathrebiadau.

Er nad yw’r ailgymeradwyo yn amodol ar hyn, rydym yn argymell bod y ddau gynllun yn cyflwyno proses adolygu well i fonitro ansawdd llythyrau penderfyniad er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod o safon uchel.

O dan ein cynigion, rydym hefyd yn cynnig bod rhai o ddangosyddion perfformiad allweddol y cynlluniau yn cael eu haddasu i adlewyrchu eu lefelau perfformiad yn fwy cywir, i gymell gwelliant parhaus ac i wella ein goruchwyliaeth.

Rydym yn gofyn am adborth ar y cynigion hyn ac mae’n rhaid ei gyflwyno erbyn 12 Mawrth 2025. Disgwylir i’n penderfyniad terfynol gael ei gyhoeddi yn ystod Haf 2025.

Yn ôl i'r brig