- Nawr mae’n rhaid i ddarparwyr ddweud wrthych chi pryd bydd eich contract yn dod i ben, a beth yw eu bargeinion gorau
- Mae 20 miliwn o gwsmeriaid allan o gontract gyda llawer ohonynt yn talu gormod
- Ofcom yn lansio ymgyrch #MewnNeuMas i helpu pobl i leihau eu biliau heddiw
Rhaid rhybuddio cwsmeriaid gwasanaethau ffôn, band eang a theledu drwy dalu pan fydd eu contract presennol yn dod i ben, a beth gallent ei arbed drwy ymrwymo i gytundeb newydd, o dan reolau Ofcom sy’n dod i rym yfory (15 Chwefror).
Mae tua 20 miliwn o gwsmeriaid eisoes allan o gontract – yn cynnwys 8.8 miliwn o gwsmeriaid band eang - ac mae llawer yn talu mwy nag sydd raid.
Yn ôl ymchwil Ofcom, mae 25,000 o gwsmeriaid band eang yn dod i ddiwedd eu contract bob dydd – sydd fel arfer yn arwain at gynnydd awtomatig mewn prisiau.
Sut bydd yr hysbysiadau newydd yn gweithio?
Gall pobl arbed cryn dipyn ar eu biliau misol os byddant yn manteisio ar y gostyngiadau sydd ar gael pan fyddant yn ymrwymo i gytundeb newydd. Ond nid yw 16% o gwsmeriaid band eang yn gwybod a ydynt mewn contract ai peidio ac mae’r ganran yn codi i 21% ymhlith pobl dros 55 oed.
Felly mae Ofcom yn cyflwyno rheolau i sicrhau bod pobl yn gallu gweld a ydynt yn cael y fargen orau. Bydd rhaid i gwmnïau ffôn, band eang a theledu drwy dalu rybuddio cwsmeriaid rhwng 10 a 40 diwrnod cyn i'w contract ddod i ben.[1] Rhaid i'r hysbysiadau hyn - a anfonir drwy neges destun, e-bost neu lythyr - nodi:
- pryd mae eich contract yn dod i ben;
- beth rydych chi wedi bod yn ei dalu tan nawr, a beth fyddwch chi'n ei dalu pan fydd eich contract yn dod i ben;
- unrhyw gyfnod hysbysu ar gyfer gadael eich darparwr; a
- bargeinion gorau eich darparwr, yn cynnwys unrhyw brisiau sydd ar gael i gwsmeriaid newydd yn unig.
Rhaid hefyd atgoffa unrhyw un sydd eisoes allan o gontract eu bod allan o gontract, a rhoi gwybod iddynt bob blwyddyn am fargeinion gorau eu cwmni.
Faint gallai pobl ei arbed drwy ymrwymo i gytundeb newydd?
Y llynedd, gwelsom y gallai cwsmeriaid band eang allan o gontract arbed tua £100 y flwyddyn, ar gyfartaledd, drwy ymrwymo i gytundeb newydd gyda’u darparwr presennol. Gallai rhai arbed £150 neu fwy, yn dibynnu ar eu darparwr. Ac nid yw hyn yn cynnwys arbedion y gallai pobl eu gwneud ar eu pecyn teledu hefyd.
Bydd llawer o bobl yn talu prisiau tecach yn dilyn yr ymrwymiadau mae Ofcom wedi’u sicrhau gan weithredwyr ffonau symudol a darparwyr band eang i leihau prisiau ar gyfer cwsmeriaid allan o gontract. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain ar waith erbyn hyn, gyda rhai ymrwymiadau band eang yn dod cyn bo hir.
Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Mae miliynau o bobl allan o gontract ar hyn o bryd ac yn talu mwy nag sydd raid. Mae’r rheolau newydd hyn yn ei gwneud hi’n haws cael bargen well.
“Ond does dim angen i chi aros i glywed gan eich darparwr. Gallai ychydig funudau o’ch amser arbed cannoedd o bunnoedd i chi heddiw.”
Ydych chi #MewnNeuMas?
Mae Ofcom wedi lansio ymgyrch newydd sy'n annog pobl i wirio os ydyn nhw mewn neu allan o gontract, ac sy'n eu helpu i gael bargen well.
Mae ein porth cyngor pwrpasol yn egluro'r broses syml a hawdd i gwsmeriaid iddynt gael gwirio nad ydynt yn talu mwy na sydd angen -gan eu helpu i wneud arbedion sylweddol mewn tri cham syml:
Mae newid eich cytundeb yn haws nag erioed
Nid yw tua 30% o gwsmeriaid ffonau symudol a band eang yn hyderus wrth lywio drwy’r farchnad ac nid ydynt wedi newid mewn o leiaf ddwy flynedd. Mae’r ganran honno’n codi i tua 40% ymhlith pobl dros 55 oed. Felly i helpu pobl i gael y fargen iawn iddyn nhw, mae Ofcom wedi gwneud pethau’n haws nag erioed i chwilio am y fargen orau a newid darparwr.
Y llynedd, rhoesom fesurau diogelu ychwanegol ar waith ar gyfer cwsmeriaid band eang – sy’n golygu eu bod yn gallu gadael eu contract heb gosb os bydd cyflymderau’n gostwng islaw’r lefel a addawyd. Fe wnaethom hefyd gyflwyno diwygiadau mawr sy’n caniatáu i gwsmeriaid ffonau symudol newid gweithredwr drwy anfon neges destun am ddim.
Mae hyn yn rhan o’n rhaglen barhaus Tegwch i Gwsmeriaid, sy’n helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg gan eu darparwr bob amser.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Dyma enghraifft o hysbysiad diwedd contract a anfonwyd drwy neges destun:
2. Gallai bron 400,000 o gwsmeriaid ffonau symudol sydd allan o gontract arbed mwy na £15 y mis. Ac ystyried bod y rhan fwyaf o’r cwsmeriaid hyn allan o gontract am lai na blwyddyn, y swm blynyddol cyfartalog y gallai’r grŵp hwn o bobl ei arbed yw £150. Ffynhonnell: Adolygiad 2019 Ofcom o gontractau ffôn symudol (data Tachwedd 2018).