Datganiad: Iawndal Awtomatig

Cyhoeddwyd: 24 Mawrth 2017
Ymgynghori yn cau: 6 Mehefin 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Yn y datganiad hwn, rydym yn nodi ein casgliad bod angen cynllun iawndal awtomatig i ddiogelu defnyddwyr preswyl sy'n dioddef methiannau ansawdd gwasanaeth penodol gyda'u gwasanaethau llinell dir a/neu fand eang. Dylai hyn fod yn berthnasol pan fyddant yn profi oedi wrth atgyweirio ar ôl colli gwasanaeth, oedi wrth osod a cholli apwyntiadau.

Rydym hefyd yn nodi ein penderfyniad ynglŷn â'r ffordd y dylid gweithredu'r cynllun er mwyn diwallu'r angen hwn.

Yn olaf, rydym yn cyflwyno Amod Cyffredinol newydd ar dryloywder a gofynion gwybodaeth i helpu cwsmeriaid sy'n fusnesau bach a chanolig (BBaCH). Bydd hyn yn sicrhau, wrth ddewis gwasanaethau (ac yn ddiweddarach os ydynt yn profi methiannau o ran ansawdd gwasanaethau), fod gan BBaCh well gwybodaeth, mewn fformat clir a hygyrch, am ba lefel o ansawdd gwasanaeth i'w ddisgwyl.

Mae ein penderfyniad yn rhan o raglen o fesurau i sicrhau ansawdd gwasanaeth llawer gwell, y nodwyd y byddem yn ei chyflwyno yn ein Hadolygiad Strategol o Gyfathrebu Digidol y llynedd.

Diweddariad: 1 Ebrill 2021

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi diwygiadau i'r Cod Ymarfer Gwirfoddol ar gyfer cynllun iawndal awtomatig. Mae'r Cod Ymarfer wedi'i ddiwygio i nodi y bydd y symiau iawndal a restrir yn cynyddu'n flynyddol yn unol â chwyddiant wrth symud ymlaen. Rydym hefyd wedi ychwanegu enghraifft ychwanegol at baragraff 40a i roi mwy o eglurder ynghylch pryd y gallai'r eithriad hwn i rwymedigaethau i dalu iawndal fod yn berthnasol.

Ymatebion

Yn ôl i'r brig