Ymchwil dulliau amgen o ddatrys anghydfod (ADR): neges i gyfranogwyr

Cyhoeddwyd: 22 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 22 Chwefror 2024

Diolch am eich diddordeb yn yr ymchwil hon. Mae eich barn yn bwysig i ni a hoffem glywed mwy am eich profiad.

Cefndir

Mae cynlluniau amgen o ddatrys anghydfod (ADR) yn gyrff annibynnol sy’n cynnal asesiad diduedd o gwynion rhwng cwsmer a’u darparwr gwasanaeth cyfathrebu, ac yna’n dod i benderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynir gan y ddau barti. Mae'r cynlluniau hyn yn rhad ac am ddim i'w defnyddio.

Gallwch fynd â’ch cwyn at gynllun ADR os:

  • ydych eisoes wedi ei godi gyda'ch darparwr a'i bod dal heb ei datrys; ac
  • os yw lleiafswm o wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi wneud y gŵyn gychwynnol i’ch darparwr neu os nad ydych wedi llwyddo i ddod i gytundeb â nhw a’ch bod wedi derbyn llythyr anghydfod llwyr.

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau yn y DU, gwaith Ofcom yw sicrhau bod cynlluniau ADR yn cynnig gwasanaeth hygyrch, teg ac effeithlon. Yr ydym newydd ddechrau adolygiad ffurfiol o’r ddau gynllun a gymeradwyir, sef yr Ombwdsmon Cyfathrebu (CO) a'r Cynllun Dyfarnu Gwasanaethau Cyfathrebu a Rhyngrwyd (CISAS)​. I helpu ein hadolygiad, bydd yr ymchwil hon yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o brofiad cwsmeriaid o ddefnyddio cynlluniau ADR.

Pam y gofynnwyd i mi gymryd rhan?

Mae eich cwyn i’ch darparwr gwasanaethau cyfathrebu wedi’i derbyn yn ddiweddar gan gynllun ADR. Bydd y cynllun sydd wedi derbyn eich achos wedi eich gwahodd i gymryd rhan. Daeth y gwahoddiad hwn naill ai yn yr e-bost derbyn achos neu'r llythyr a dderbynioch, neu yn yr alwad a gawsoch gyda nhw.

Sut mae'n gweithio?

Mae Ofcom yn gweithio gyda Jigsaw (asiantaeth ymchwil farchnad annibynnol) a'u partner Take Part in Research ar gyfer y prosiect hwn.

Bydd Jigsaw yn gofyn i chi olrhain eich cynnydd wrth i'r cynllun ADR ymdrin â'ch cwyn. Bob hyn a hyn, byddant yn gofyn i chi am eich barn ar y profiad. Bydd eich atebion yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd eich darparwr yn gallu eich adnabod chi.

Mae'r ymchwil hon yn cael ei chyflawni'n unol â Chod Ymddygiad MRS. Drwy gymryd rhan yn yr ymchwil hwn, rydych yn cytuno i hysbysiadau preifatrwydd Ofcom, Jigsaw a Take Part in Research.

Beth os oes gennyf fwy o gwestiynau?

Os hoffech wybod mwy am yr ymchwil a sut y bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio, gyrrwch e-bost i marketresearch@ofcom.org.uk (gan ddyfynnu 'Ymchwil ADR Ofcom' yn eich llinell pwnc).

Yn ôl i'r brig