Datganiad wedi'i gyhoeddi: 27 Tachwedd 2017
Cyhoeddwyd ymchwil pellach: 19 Chwefror 2019
Mae'r broses a elwir yn Ddulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yn rhan bwysig o’r amddiffyniad sydd ar gael i ddefnyddwyr sydd â chwynion am eu darparwr cyfathrebiadau. Mae’n rhaid i ddarparwyr cyfathrebiadau sy’n cynnig gwasanaethau i unigolion ac i fusnesau bach fod yn aelod o Gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod. Mae’r broses hon yn galluogi pobl i uwchgyfeirio eu cwynion i gorff annibynnol, fydd yn ystyried yr achos and yn cyrraedd dyfarniad teg a diduedd.
O dan y pwerau yn Neddf Cyfathrebiadau 2003 (y ‘Ddeddf’), mae Ofcom ar hyn o bryd yn cymeradwyo dau Gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod: Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebiadau (‘OS’) a’r Communications and Internet Services Adjudication Scheme (‘CISAS’). Mae’n rhaid i ni adolygu’r naill gymeradwyaeth a'r llall yn rheolaidd.
Rydyn ni hefyd wedi cymeradwyo’r ddau Gynllun o dan Reoliadau Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod ar gyfer Anghydfod Defnyddwyr (‘Rheoliadau Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod’) ac mae’n rhaid adolygu’r gymeradwyaeth hon bob dwy flynedd.
Ym mis Mawrth 2017 roedden ni wedi cyhoeddi Cais am Fewnbwn a oedd yn lansio ein hadolygiad diweddaraf. Mae’r datganiad hwn yn cwblhau ein hadolygiad. Rydyn ni o'r farn bod perfformiad y ddau Gynllun yn diwallu’r meini prawf angenrheidiol ac rydyn ni’n ail gadarnhau ein cymeradwyaeth i OS a CISAS o dan y Ddeddf a’r Rheoliadau Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod.
Mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o gynlluniau amgen o ddatrys anghydfod (ADR).
Yn ystod ein hadolygiad yn 2017, mynegodd nifer o Ddarparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu bryderon fod y Cynlluniau’n derbyn achosion a oedd, yn eu barn nhw, y tu allan i gwmpas ADR. Roedd y rhain yn cynnwys achosion a oedd yn ymddangos yn flinderus iddyn nhw, neu a oedd yn cael eu cyflwyno gan fusnesau na ddylai fod wedi bod yn defnyddio ADR (hynny yw, busnesau â mwy na 10 o weithwyr). Mynegodd rhai Darparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu eu bod yn credu bod modelau ariannol y Cynlluniau yn eu cymell i dderbyn achosion a oedd y tu allan i'w cwmpas.
Mae’r Rheoliadau ADR yn nodi’n glir ar ba sail y gall Cynllun wrthod derbyn cwyn. Er bod rhai Darparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu wedi rhoi enghreifftiau anecdotaidd o achosion yr oedden nhw’n credu a oedd y tu allan i gwmpas cylch gorchwyl y Cynlluniau, doedd y dystiolaeth brin hon ddim yn awgrymu bod problem systemig. Fodd bynnag, oherwydd y teimladau cryf ymhlith rhanddeiliaid y diwydiant, ymrwymodd Ofcom i gomisiynu corff allanol i adolygu sampl o achosion yr oedd y Darparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu yn honni eu bod y tu allan i’r cwmpas. Roedden ni’n teimlo y byddai astudiaeth o’r fath o fudd i ddefnyddwyr, a byddai’n helpu i sicrhau bod y Cynlluniau’n darparu gwasanaeth effeithlon a’u bod yn derbyn achosion sydd o fewn eu cwmpas.
Fe wnaethom benodi Mott MacDonald, cwmni ymgynghori annibynnol i wneud y canlynol:
- adolygu sampl o achosion y Cynlluniau yr oedd Darparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu wedi mynegi pryderon yn eu cylch oherwydd eu bod y tu allan i gylch gorchwyl y Cynlluniau, a mynegi barn annibynnol ynghylch a ddylai pob achos yr edrychwyd arnyn nhw fod wedi bod o fewn neu oddi allan i gwmpas ADR;
- nodi tueddiadau a ffactorau cyffredin achosion sy’n cael eu derbyn/gwrthod o fewn/oddi allan i gwmpas; a
- chyflwyno cynigion ynghylch sut gellid rhoi sylw i unrhyw faterion a ddaw i'r amlwg.
Prif ddogfennau
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA