Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n rhaid bod yn arbennig o wyliadwrus. Felly, dyma gynnig gair o gyngor am rai sgamiau cyffredin i gadw llygad amdanynt fel nad ydych chi’n cael eich twyllo.
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau a chadwch lygad am y tactegau hyn a ddefnyddir gan droseddwyr.
Sgamiau siopa
Gyda Dydd Gwener y Gwario a’r Nadolig ar y gorwel, mae’n gyfnod prysur i siopwyr – ond yn anffodus, mae sgamwyr yn manteisio ar hynny hefyd. Byddwch yn wyliadwrus os ydych chi’n cael cynigion arbennig drwy e-bost, ar-lein ac ar farchnadoedd cyfryngau cymdeithasol - yn enwedig os ydyn nhw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir.
Os ydych chi’n gweld bargen, gwiriwch a yw’r gwerthwr yn adnabyddus ac yn ddibynadwy. Os ydych chi’n amau unrhyw beth, ymchwiliwch ymhellach i wneud yn siŵr nad yw’n ffug. Er enghraifft, ewch i safleoedd manwerthu go-iawn i chwilio am yr eitem os ydych chi’n sylwi bod yr eitem yn cael ei gwerthu am bris amheus o isel. Gallai bargen ffug olygu eich bod yn colli arian neu fod rhywun yn dwyn eich gwybodaeth ariannol.
Sgamiau danfon parseli
Ar yr adeg brysur hon o’r flwyddyn, mae pobl yn danfon ac yn derbyn llawer o barseli. Fel arfer, mae’r sgamiau hyn yn cysylltu â chi, efallai drwy neges destun er enghraifft, ac yn dweud wrthych eich bod wedi methu derbyn parsel.
Mae’r sgâm hwn yn hynod effeithiol ar yr adeg hon o’r flwyddyn oherwydd ein bod yn disgwyl llawer o barseli ac mae’n anodd cadw trefn ar bopeth, felly rydyn ni’n fwy tebygol o gymryd sylw o neges ‘parsel ar goll’.
Byddwch yn cael cyfarwyddiadau i glicio ar ddolen a thalu unrhyw gostau postio ychwanegol er mwyn derbyn eich parsel. Fodd bynnag, gall dolenni twyllodrus fynd â chi i safleoedd sy’n hel eich gwybodaeth ariannol ac yn ei throsglwyddo i droseddwyr.
Sgamiau parcio
Dyma fath o sgam sy’n dod yn fwyfwy cyffredin, gan ddefnyddio dau ddull gwahanol. Y cyntaf yw eich bod yn derbyn neges destun yn dweud wrthych eich bod wedi torri rheolau parcio a bod angen i chi dalu dirwy.
Bydd y neges yn cynnwys dolen sy’n mynd â chi i safle gwe-rwydo sy’n casglu eich gwybodaeth bersonol neu ariannol, neu efallai bydd gofyn i chi ffonio rhif ffôn gyda chostau cyfradd premiwm drud a fydd yn mynd ar eich bil.
Sgam parcio cyffredin arall ar hyn o bryd yw ‘twyll QR’. Mae sgamwyr yn rhoi sticer ar beiriant talu am barcio sy’n cynnwys cod QR. Maen nhw’n ceisio cyfeirio pobl at wefan sydd yn edrych yn hollol ddilys er mwyn talu am barcio. Ond mewn gwirionedd, mae’n wefan gwe-rwydo sy’n cofnodi eich manylion ariannol.
Y cyngor cyffredinol yw y dylech osgoi clicio ar ddolenni rydych chi’n eu cael mewn negeseuon testun neu negeseuon e-bost, a hefyd osgoi ffonio unrhyw rifau anghyfarwydd. Os yw sefydliad yn cysylltu â chi go-iawn, gallwch chwilio am ei fanylion cyswllt ar-lein a chael gafael arno fel hynny.
Os ydych chi’n derbyn neges amheus, tarwch olwg ar ein cyngor ar beth i’w wneud.