A close-up of a mobile phone with an unknown number calling

Mynd i’r afael â galwadau sgam o dramor

Cyhoeddwyd: 29 Gorffennaf 2024
  • Cwmnïau ffôn am rwystro mwy o alwadau o dramor sy’n dynwared rhifau llinell dir y DU o dan ganllawiau cryfach gan Ofcom
  • Mae llawer o bobl yn dal i dderbyn galwadau a negeseuon testun amheus, er y gostyngiad diweddar, felly mae angen gwneud mwy o waith i fynd i’r afael â’r broblem
  • Rheoleiddiwr yn galw am dystiolaeth ar atebion arloesol i darfu ar y broses o gamfeddiannu a ffugio rhifau symudol o dramor a sgamiau negeseuon symudol

Bydd pobl yn cael eu diogelu’n well rhag sgamwyr sy’n ffonio o dramor ac yn dynwared rhifau llinell dir y DU, o dan ganllawiau cryfach ar gyfer y diwydiant a gyflwynwyd gan Ofcom heddiw. 

Tacteg gyffredin a ddefnyddir gan droseddwyr i dwyllo dioddefwyr yw dynwared – neu ‘gamfeddiannu a ffugio’ – rhifau ffôn gan berson, sefydliad neu adran o’r Llywodraeth y gellir ymddiried ynddynt, fel bod eu galwadau’n fwy tebygol o gael eu hateb. Mae twyllwyr dramor yn aml yn camfeddiannu a ffugio rhifau’r DU, gan wybod bod pobl yn fwy tebygol o ateb y galwadau hyn na phe bai rhif rhyngwladol anhysbys yn cael ei arddangos.

Yn dilyn ymgynghoriad, rydym yn cryfhau rhagor ar ein canllawiau yn y maes hwn. Erbyn hyn, bydd rhaid i gwmnïau ffôn ganfod a rhwystro galwadau o dramor sy’n dangos rhif ffôn y DU yn anghywir fel ‘Rhif Cyflwyno’, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o achosion dilys.[1]

Mae tystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein hymgynghoriad yn awgrymu y bydd y mesurau rhwystro hyn yn cael effaith sylweddol ar ddiogelu’r cyhoedd rhag galwadau sgam. O fewn y mis cyntaf  ar ôl rhoi’r mesurau hyn ar waith yn wirfoddol, mae BT eisoes wedi atal hyd at filiwn o alwadau bob dydd rhag ymuno â’i rwydwaith a bydd ein canllawiau’n sicrhau bod hyn yn dod yn arfer safonol ar draws y diwydiant.

Gan adeiladu ar y gwaith hwn, rydym hefyd yn cyhoeddi Cais am Fewnbwn heddiw yn gofyn am safbwyntiau a thystiolaeth ar effeithiolrwydd, costau, risgiau ac amserlenni gwahanol atebion technegol i fynd i’r afael â galwadau sgam o dramor sy’n camfeddiannu a ffugio rhifau symudol y DU. Nid yw ein rheolau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr rwystro pob galwad o dramor gyda rhifau +447 fel nad yw galwadau dilys gan alwyr o’r DU sy’n trawsrwydweithio dramor yn cael eu rhwystro.

Mae profiad o alwadau a negeseuon testun amheus yn gyffredin er bod tystiolaeth o ostyngiad, felly mae mwy o waith i’w wneud. 

Daw’r cyhoeddiad heddiw wrth i ymchwil ddiweddaraf Ofcom ddangos bod llawer o ddefnyddwyr yn dal i gael galwadau a negeseuon testun amheus, ond mae arwyddion o ostyngiad yng nghyfran y bobl sy’n cael galwadau neu negeseuon testun amheus.

Yn 2024, dywedodd ychydig o dan hanner defnyddwyr llinell dir y DU (48%) eu bod wedi cael galwad amheus yn ystod y tri mis diwethaf – i lawr o 56% yn 2021. Dywedodd defnyddwyr ffonau symudol hefyd eu bod wedi cael galwadau amheus, o 45% i 39% dros yr un cyfnod. Defnyddwyr ffonau symudol sydd fwyaf tebygol o gael neges destun amheus, er bod nifer yr achosion hefyd wedi gostwng o 74% yn 2021 i 56% yn 2024.[2]

Ond gwyddom bod sgamwyr yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd o gysylltu â phobl ac osgoi mesurau tarfu sy’n bodoli’n barod.  Er mwyn parhau â’n gwaith ar atal sgamiau negeseuon symudol [3], mae ail Gais am Fewnbwn, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi ein dealltwriaeth o’r farchnad gan gynnwys dadansoddiad newydd o sut mae sgamiau’n cael eu cyflawni ynddi, a thystiolaeth ar faint presennol y broblem – gan gynnwys tynnu sylw at feysydd lle mae bylchau data yn dal i fodoli.

Mae hefyd yn trafod dulliau presennol yn y DU ac yn rhyngwladol i darfu ar sgamiau negeseuon symudol. Rydym yn gwahodd tystiolaeth ar eu heffaith ac yn gofyn ble y gallai fod angen cymryd camau pellach.

Mae troseddwyr sy’n twyllo pobl o arian drwy fanteisio ar rwydweithiau ffôn yn achosi trallod a niwed ariannol enfawr i’w dioddefwyr. Er bod arwyddion calonogol bod nifer y galwadau a negeseuon testun sgam yn gostwng, maen nhw’n dal yn gyffredin ac rydym parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i’r afael â’r broblem.

O dan ein canllawiau cryfach ar gyfer y diwydiant, bydd miliynau yn fwy o alwadau sgam o dramor sy’n defnyddio rhifau llinell dir y DU wedi’u camfeddiannu a’u ffugio yn cael eu rhwystro – gyda chynlluniau tebyg ar waith ar gyfer galwadau sy’n camfeddiannu a ffugio rhifau symudol y DU. Rydym hefyd yn herio’r diwydiant a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddarparu tystiolaeth ar yr atebion gorau i fynd i’r afael â sgamiau negeseuon symudol.

- Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom 


Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae dau rif yn gysylltiedig â galwad sy’n dod i mewn, sef y ‘Rhif Rhwydwaith’, sy’n nodi o ble mae’r alwad yn cael ei gwneud, a’r ‘Rhif Cyflwyno’, sy’n nodi pwy sy’n gwneud yr alwad ac sy’n cael ei ddangos i’r derbynnydd. Mewn rhai sefyllfaoedd gallai galwr fod eisiau dangos rhif gwahanol i’r rhif y mae’r alwad yn cael ei gwneud ohono, fel canolfan alwadau sy’n gwneud galwadau ar ran gwahanol fusnesau, neu fusnesau a allai fod eisiau dangos un rhif ar gyfer galwadau allanol. Mae ein canllawiau sydd newydd gael eu cryfhau yn mynnu bod cwmnïau ffôn yn canfod ac yn rhwystro galwadau o dramor yn ceisio dangos rhif ffôn yn y DU fel Rhif Cyflwyno oni bai eu bod yn bodloni meini prawf defnydd dilys. Mae hyn yn ymestyn ein canllawiau presennol sydd eisoes yn mynnu bod cwmnïau ffôn yn rhwystro galwadau o dramor sy’n defnyddio rhif DU fel ‘Rhif Rhwydwaith’.
  2. Ymchwil a gynhaliwyd gan Yoder Consulting ymysg samplau a gynrychiolir yn genedlaethol o oedolion 16 oed a hŷn yn y DU 2124 (Medi 2021) a 2128 (Ionawr/Chwefror 2024).
  3. Mae hyn yn canolbwyntio ar sgamiau sy’n cael eu hanfon drwy negeseuon SMS traddodiadol ac RCS (Rich Communication Services), gwasanaeth mwy newydd sy’n ceisio moderneiddio SMS gyda swyddogaethau ychwanegol. Rydym o’r farn bod RCS yn debygol o fod ar gael yn fwy eang yn y dyfodol ac felly rydym yn disgwyl y bydd sgamwyr yn ceisio manteisio arno fwyfwy. Felly, rydym yn ceisio casglu tystiolaeth ynghylch sut mae sgamwyr yn ei ddefnyddio ac atebion posibl. Mae defnyddwyr, a sgamwyr felly hefyd, yn defnyddio mwy a mwy o wasanaethau ar-lein ac ar apiau fel WhatsApp a Facebook Messenger. Ar ôl pasio’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae gan Ofcom gyfrifoldebau newydd i helpu i wneud gwasanaethau ar-lein fel y rhain yn fwy diogel i bob defnyddiwr, gan gynnwys goruchwylio sut mae’r gwasanaethau hyn yn cyflawni eu dyletswyddau o ran mynd i’r afael â thwyll ariannol. Bydd gan Ofcom amrywiaeth o adnoddau i sicrhau bod gwasanaethau sy’n dod o fewn eu cwmpas yn bodloni eu dyletswyddau diogelwch ar-lein, gan gynnwys nodi codau ymarfer a chanllawiau ar gyfer darparwyr gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio. Mae Ofcom wedi ymgynghori ar godau ymarfer a chanllawiau, a bydd y rheolau newydd yn dod i rym ar ôl i’r codau a’r canllawiau gael eu cymeradwyo gan y Senedd.
Yn ôl i'r brig