Defnyddio eich ffôn symudol tramor

Cyhoeddwyd: 20 Gorffennaf 2023

Ers 31 Rhagfyr 2020, ni fu rheolau'r UE ar daliadau crwydro yn berthnasol mwyach yn y DU. Mae hynny'n golygu, fel gyda lleoliadau eraill, nad oes terfyn mwyach ar y tâl y gall eich darparwr symudol ei godi arnoch am ddefnyddio eich ffôn symudol yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd, Norwy, Gwlad yr Iâ na Liechtenstein.

Mae gan bob un o ddarparwyr symudol y DU ymagwedd wahanol at daliadau crwydro a pholisïau defnydd teg. Mae'n bwysig gwirio gyda'ch darparwr i gael gwybod ei ymagwedd cyn i chi ddefnyddio'ch ffôn symudol dramor.

Ers 1 Gorffennaf 2022, nid yw'r rheolau crwydro fel y'u nodwyd yn flaenorol yn neddfwriaeth y DU yn berthnasol mwyach. Roedd y rhain yn ymdrin â phethau fel negeseuon croeso i grwydro a therfynau gwariant ar ddata crwydro. Bydd rhai darparwyr yn dal i ddarparu'r gwasanaethau hyn o 1 Gorffennaf ymlaen, ar sail wirfoddol. Mae Ofcom bellach yn edrych ar opsiynau ar gyfer mesurau diogelu crwydro i gwsmeriaid. Nid oes gennym y pŵer i atal darparwyr symudol rhag codi tâl ar gwsmeriaid am ddefnyddio eu gwasanaethau wrth deithio, felly ni fydd y gwaith hwn yn edrych ar lefel y prisiau crwydro.

I gael cyngor cyffredinol ar grwydro, ac i'ch helpu i ddeall y mesurau diogelu sy'n parhau'n weithredol ar hyn o bryd, rydym wedi ateb rhai cwestiynau cyffredin.

O dan reolau Ofcom, mae'n rhaid i ddarparwyr gyhoeddi manylion eu tariffau safonol, gan gynnwys taliadau crwydro safonol, ar eu gwefan. Fodd bynnag, os ydych yn ei chael yn anodd ddod o hyd iddynt neu'n pryderu am y costau, siaradwch â'ch darparwr cyn i chi deithio er mwyn deall y taliadau ar gyfer y wlad rydych yn ymweld â hi ac unrhyw becynnau neu gyfraddau gostyngol y gallai eu cynnig.

Pan fyddwch yn mynd i wlad arall, efallai y bydd rhai darparwyr yn anfon neges awtomatig atoch (oni bai eich bod wedi dewis i beidio â derbyn y fath negeseuon) yn eich hysbysu o wybodaeth brisio sylfaenol. Mae'n bwysig gwirio gyda'ch darparwr i weld beth yw eu hymagwedd cyn i chi gynllunio i ddefnyddio'ch ffôn symudol dramor.

Gall darparwyr ffôn newid telerau eich contract gyda nhw ond mae'n rhaid iddynt roi o leiaf un mis o rybudd i chi a hawl i adael y contract heb gosb os nad yw'r newid o fudd i chi. Fodd bynnag, ni fydd gennych yr hawl i adael y contract os yw'r newid sy'n cael ei wneud:

  1. dim ond er budd i chi, er enghraifft uwchraddio cyflymder;
  2. yn weinyddol yn unig a heb unrhyw effaith negyddol arnoch chi, er enghraifft newid cyfeiriad neu fanylion banc eich darparwr; neu
  3. wedi'i bennu'n uniongyrchol gan y gyfraith, er enghraifft, newid yn y gyfradd TAW.

Mae gan rai darparwyr gontractau sy’n nodi y bydd y prisiau misol rydych yn eu talu’n cynyddu ar rai adegau yn ystod y contract, er enghraifft cynyddu yn unol â chwyddiant bob blwyddyn. Dylai hyn gael ei egluro i chi pan fyddwch yn llofnodi'r contract fel eich bod yn gwybod beth fydd yn rhaid i chi ei dalu ar wahanol adegau yn y contract. Os gwnaed hyn yn glir ar yr adeg y gwnaethoch ymrwymo i'r contract, ni fydd gennych yr hawl i adael heb gosb pan fydd y cynnydd yn digwydd.

Mae gennym gyngor i gwsmeriaid ar sut mae'r rheolau hyn yn gweithio

Gosod terfyn ar eich bil

Dylai eich darparwr gynnig yr opsiwn i chi osod terfyn ar eich bil neu wariant pan fyddwch yn dechrau neu'n adnewyddu contract. Neu gallwch ofyn am un, diwygio neu dynnu un sy'n bodoli eisoes, ar rybudd rhesymol ar unrhyw adeg.

Mae terfyn ar eich bil yn eich galluogi i osod terfyn gwariant misol. Unwaith y bydd y terfyn bil hwn wedi'i osod, mae'n rhaid i'ch darparwr eich hysbysu pan fydd y terfyn yn debygol o gael ei gyrraedd, a dim ond gyda'ch caniatâd datganedig y gellir mynd y tu hwnt iddo.

Gweler ein canllaw am ragor o awgrymiadau ar sut i osod terfynau ar filiau symudol.

Mae'n ofynnol i ddarparwyr roi'r wybodaeth ddiweddaraf am filio i gwsmeriaid. Dylai eich darparwr eich hysbysu hefyd pan fydd y cyfan o wasanaeth sydd wedi'i gynnwys yn eich cynllun tariff wedi'i ddefnyddio. Dylai'r rhybudd hwn gynnwys gwybodaeth am y taliadau y bydd angen i chi eu talu os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Efallai y bydd rhai darparwyr hefyd yn cynnig terfynau data crwydro ar sail wirfoddol. Er enghraifft, gall darparwyr barhau i ddefnyddio terfyn o £45 y mis (ac eithrio TAW) ar ddata waeth ble rydych chi'n teithio yn y byd.

Efallai y bydd eich darparwr hefyd yn anfon rhybudd i'ch dyfais symudol pan fyddwch yn cyrraedd 80% ac yna 100% o'r terfyn data crwydro cytunedig a stopio codi tâl am ddata ar y pwynt 100%, oni bai eich bod yn cytuno i barhau i ddefnyddio data. Mae'n bwysig gwirio gyda'ch darparwr i weld beth yw eu hymagwedd cyn i chi gynllunio i ddefnyddio'ch ffôn symudol dramor.

.

Diffodd data crwydro

I’ch helpu i reoli pryd y mae eich ffôn yn defnyddio data, gallwch ddiffodd data crwydrol ar eich ffôn.

Defnyddiwch wifi pan fydd ar gael

Os ydych am bori'r we ar eich ffôn yn rheolaidd, defnyddiwch boethfannau di-wifr lleol yn lle cysylltiad rhyngrwyd symudol eich ffôn.

Fel arfer gallwch gael mynediad i wi-fi mewn lleoliadau fel caffis, bwytai a gwestai, weithiau am ddim, neu gallwch dalu i gael mynediad i'r rhyngrwyd am gyfnod penodol o amser. Gall rhai apiau ffôn chwilio am rwydweithiau di-wifr a'ch annog i gysylltu â nhw fel nad oes rhaid i chi wneud hyn â llaw.

Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer lawrlwytho mapiau, gwirio e-byst neu bori rhwydweithiau cymdeithasol – y byddent oll fel arall yn cronni taliadau data'n gyflym dros gysylltiad rhyngrwyd symudol. Cofiwch, nid oes angen i 'ddata crwydro' fod ymlaen er mwyn cael mynediad i wi-fi. Ond mae hyn yn golygu y bydd angen i chi aros o fewn ardal ddarpariaeth y wi-fi er mwyn osgoi colli eich cysylltiad. Os nad ydych wedi diffodd data crwydro wrth ddefnyddio wi-fi ac mae'r signal wi-fi yn methu, efallai y bydd eich ffôn yn chwilio'n awtomatig am rwydwaith symudol i gadw'r cysylltiad, gan olygu o bosib y codir taliadau data arnoch.

Cyngor cyffredinol

Os nad ydych yn defnyddio wi-fi, ceisiwch osgoi gweithgareddau sy'n defnyddio llawer o ddata fel gwylio fideos, diweddaru cyfryngau cymdeithasol gyda lluniau neu lawrlwytho cerddoriaeth. Hefyd, os ydych chi'n gwirio e-byst, ceisiwch osgoi agor atodiadau mawr. Fel arall, efallai y byddai'n werth ystyried prynu cerdyn SIM ar gyfer y wlad rydych chi'n ymweld â hi.

Gweler ein canllaw am ragor o awgrymiadau ar osgoi sioc filiau.

Os ydych yn byw mewn ardaloedd ar y ffin rhwng dwy wlad fel yng Ngogledd Iwerddon, efallai y byddwch yn profi 'crwydro anfwriadol’. Dyma pryd mae signal symudol mewn rhanbarth ar y ffin yn gryfach o'r wlad dros y ffin., Iwerddon er enghraifft

Efallai y bydd rhai darparwyr yn dewis parhau i gynnig tariffau 'crwydro fel gartref' a allai atal crwydro anfwriadol rhag cronni taliadau ychwanegol, neu gynnig ad-daliadau neu gymorth arall i gwsmeriaid yr effeithir arnynt gan grwydro anfwriadol.

Os oes gennych unrhyw bryderon am grwydro anfwriadol, byddai Ofcom yn eich annog i siarad â'ch darparwr.

Efallai na fydd ffonau symudol a ddefnyddir mewn ardaloedd arfordirol neu ar y môr yn gallu cysylltu â rhwydweithiau 2G, 3G, 4G neu 5G ar y tir ac yn hytrach efallai y byddant yn chwilio am gysylltiad lloeren y llong. Gall taliadau fod yn uwch, felly, nag ar gyfer crwydro arferol.

Os credwch y bydd angen i chi ddefnyddio'ch ffôn pan fyddwch ar y môr, gwiriwch gyda'ch darparwr cyn i chi deithio i weld faint y bydd yn ei gostio i ddefnyddio'ch ffôn drwy gysylltiad lloeren. Gallech ystyried dewis rhwydwaith a ffafrir â llaw ar eich ffôn pan fyddwch ar y bad/llong er mwyn osgoi cysylltiadau lloeren ond gall signalau amrywio ac mae hyn yn golygu na fyddwch yn derbyn galwadau neu negeseuon testun pan fyddwch y tu hwnt i gyrraedd darpariaeth y rhwydwaith a ddewisir.

Byddwch yn ofalus iawn wrth fynd â'ch ffôn dramor gan fod lladron yn aml yn targedu twristiaid.

Dylech fod yn ofalus wrth ddefnyddio'ch ffôn yn gyhoeddus, gwnewch yn siŵr ei fod yn eich meddiant trwy'r amser.

Nid yn unig y mae llawer o ffonau clyfar yn werth cannoedd o bunnoedd, ond gall lladron godi biliau enfawr ar ffonau sydd wedi'u dwyn yn gyflym.

Mae'n bosib y byddwch yn atebol am yr holl daliadau a godir ar eich ffôn os caiff ei golli hyd nes i chi roi gwybod i'ch darparwr ei fod ar goll neu wedi'i ddwyn.

Os bydd eich ffôn yn mynd ar goll a'ch bod gyda Three, Virgin Media O2, Vodafone neu EE ar gyfer gwasanaethau symudol, dim ond am daliadau hyd at uchafswm o £100 y dylech fod yn gyfrifol yn achos unrhyw ddefnydd anawdurdodedig y tu hwnt i'ch lwfans - os byddwch yn rhoi gwybod bod eich ffôn ar goll o fewn 24 awr.

Os ydych gyda Vodafone a'ch bod yn colli'r 24 awr ond yn rhoi gwybod bod eich ffôn ar goll o fewn pum niwrnod, dim ond am dalu hyd at £500 am ddefnydd anawdurdodedig y tu hwnt i'ch lwfans y dylech fod yn gyfrifol. Gweler cyhoeddiad Llywodraeth y DU.

Felly, os byddwch yn colli eich ffôn pan fyddwch dramor, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch darparwr cyn gynted â phosib er mwyn osgoi taliadau mawr o ganlyniad i ddefnydd anawdurdodedig. Hyd yn oed os oes siawns fach efallai y byddwch yn dod o hyd i'ch ffôn, mae'n werth holi eich darparwr a ellir gosod gwaharddiad dros dro ar eich cyfrif.

Ar ôl i chi roi gwybod bod eich ffôn ar goll neu wedi'i ddwyn, gall eich darparwr wahardd eich SIM i atal galwadau rhag cael eu gwneud ar eich cyfrif. Gall eich darparwr hefyd atal unrhyw un arall rhag defnyddio'ch ffôn drwy rwystro ei IMEI, rhif cyfresol 15 digid unigryw. Gallwch gael eich rhif IMEI drwy ddeialu *#06# ar eich set llaw neu drwy edrych y tu ôl i fatri eich ffôn. Gwnewch gofnod o'r rhif hwn, yn ogystal â gwneuthuriad a model eich ffôn a'i gadw mewn lle diogel.

Gallwch hefyd lawrlwytho ap – fel findmyiphone ac Android Device Manager - a all olrhain eich ffôn os caiff ei golli neu ei ddwyn a'ch galluogi i ddileu manylion o bell.

Efallai y bydd rhai polisïau yswiriant symudol yn darparu rhywfaint o yswiriant ar gyfer defnydd anawdurdodedig felly mae'n werth gwirio telerau ac amodau eich polisi presennol, neu wrth i chi ystyried polisi newydd.

Cofiwch, os byddwch yn penderfynu cael yswiriant ffôn symudol, efallai y bydd yn rhaid i chi roi gwybod i'ch yswiriwr os caiff eich ffôn ei golli neu ei ddwyn o fewn amserlen benodol hefyd.

Dylech ddal i roi gwybod i'ch darparwr symudol hefyd.

Cofiwch sicrhau eich bod yn rhoi cod cyfrin ar eich set llaw a'ch SIM i'w gwneud yn anoddach i ladron ei ddefnyddio.

Mae canllaw'r Heddlu Metropolitan ar ddiogelu eich ffôn hefyd yn ffynhonnell ddefnyddiol o gyngor ar sut y gallwch ddiogelu eich hun rhag dioddef trosedd ffôn.

I roi gwybod bod eich ffôn wedi cael ei ddwyn/ar goll

DarparwrDeialu o’r DUDeialu o Dramor
3 333 (ffôn Three) 0333 373 3333 (unrhyw ffôn arall) +44 7782 333 333
EE07953 966 25044 7953 966 250
O2 0344 809 0202 (talu’n fisol), neu 0344 809 0222 (talu wrth ddefnyddio) +44 344 809 0202 (talu’n fisol), +44 344 809 0222 (talu wrth ddefnyddio)
Vodafone03333 040191 +44 7836 191 191 (talu'n fisol) +44 7836 191 919 (talu wrth ddefnyddio)
Tesco Mobile 4455 (ffôn Tesco) 0345 301 4455 (unrhyw ffôn arall) +44 845 3014455
Virgin Mobile 789 (ffôn Virgin Media) 0345 6000 789 (unrhyw ffôn arall) +44 7953 967 967

Mae hyn yn dibynnu ar y math o ffôn sydd gennych, y trefniadau sydd gan eich darparwr symudol gyda'r rhwydweithiau yn y wlad rydych yn ymweld â hi, ac a yw'r rhwydweithiau 2G a 3G ar gael o hyd yn y wlad honno.

Mae rhai gwledydd wedi dechrau diffodd eu rhwydweithiau 2G a 3G; gallai hyn effeithio ar eich profiad crwydro. Mewn rhai achosion, efallai na fyddwch yn gallu gwneud galwadau na chael mynediad at ddata oni bai eich bod wedi'ch cysylltu â Wi-Fi (yn enwedig os oes gennych fodel ffôn hŷn).

Mae gan bob gwlad amserlen wahanol ar gyfer diffodd 3G. Mae UDA, er enghraifft, eisoes wedi diffodd ei holl rwydweithiau 3G. Mae'n bwysig siarad â'ch darparwr cyn i chi deithio.

Rydym wedi cyhoeddi mwy o gyngor ar ddiffodd 3G yn y DU.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig