A man watching a plane taking off from inside an airport

Teithio tramor? Peidiwch ag anghofio gwirio'r taliadau crwydro

Cyhoeddwyd: 22 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 22 Chwefror 2024

Os ydych chi'n bwriadu mynd dramor yn fuan, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o unrhyw daliadau y gallech eu hwynebu am ddefnyddio'ch ffôn symudol pan fyddwch chi y tu allan i'r DU.

Ers 31 Rhagfyr 2020, nid yw rheolau'r Undeb Ewropeaidd ar daliadau crwydro symudol bellach yn berthnasol yn y DU. Mae hynny'n golygu nad oes terfyn mwyach ar y tâl y gall eich darparwr symudol ei godi arnoch am ddefnyddio eich ffôn symudol yng ngwledydd yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein.

Nid oes gan Ofcom y pŵer i atal cwmnïau symudol rhag codi tâl ar eu cwsmeriaid am ddefnyddio eu gwasanaethau wrth deithio. Mae gan bob un o ddarparwyr ffonau symudol y DU ddulliau gwahanol o godi ffioedd am grwydo a pholisïau defnydd teg. Mae'n bwysig gwirio gyda'ch darparwr i weld beth yw eu dull gweithredu cyn i chi ddefnyddio'ch ffôn symudol dramor.

Ers 1 Gorffennaf 2022, nid yw'r rheolau crwydrol fel y'u nodwyd yn flaenorol yn neddfwriaeth y DU yn berthnasol mwyach. Roedd y rhain yn ymdrin â phethau fel negeseuon croeso crwydrol a therfynau gwariant crwydrol data. Mae rhai darparwyr wedi cadarnhau y byddant yn dal i ddarparu'r rhain i gyd, neu rai ohonynt, o 1 Gorffennaf ymlaen ar sail wirfoddol.

Mae'r tabl isod yn dangos prisiau crwydro'r darparwyr sy'n berthnasol o Gorffennaf 1 2022.

Yn ôl i'r brig