- 1.3 miliwn o ddefnyddwyr band eang yn cael gwell bargen ers cyflwyno’r awgrym i siopa o gwmpas
- Mae gordalu gan gwsmeriaid ffonau symudol wedi gostwng £100m, ar ôl i gwmnïau ymrwymo i ostwng prisiau pan ddaw contractau cychwynnol i ben
- Mae gan gwsmeriaid band eang sy’n agored i niwed fwy o warchodaeth rhag prisiau uwch ar ôl i’w contractau ddod i ben
Yn dilyn newidiadau i reolau Ofcom, mae mwy o gwsmeriaid band eang a symudol yn siopa o gwmpas ac yn llwyddo i gael gafael ar fargeinion gwell – gan arbed miliynau o bunnoedd.
Y llynedd, roedd tua dwy ran o dair (62%) o gwsmeriaid band eang a oedd yn dynesu at ddiwedd eu contract naill ai wedi ymrwymo i gynllun newydd gyda’u darparwr presennol neu wedi newid i ddarparwr newydd ar ôl i’w contract ddod i ben. Yn 2019, dim ond 47% o gwsmeriaid oedd wedi gwneud hyn.
At hynny, roedd nifer y cwsmeriaid band eang sydd allan o gontract wedi gostwng o 8.7 miliwn (40%) yn 2019 i 7.4 miliwn (35%) yn 2020. Ar gyfartaledd, mae’r cwsmeriaid hyn sydd allan o gontract yn talu tua £5.10 y mis yn fwy nag sydd raid.
Hysbysiadau diwedd contract yn annog cwsmeriaid i weithredu
Y llynedd, daeth rheolau newydd i rym gan Ofcom a oedd yn mynnu bod darparwyr ffôn, band eang a theledu drwy dalu yn anfon hysbysiad at gwsmeriaid pan fydd eu contract presennol ar fin dod i ben. Roedd gofyn iddyn nhw hefyd ddangos yr arbedion o ymrwymo i gynllun newydd.[2] Gwnaethom hefyd sicrhau ymrwymiadau gan gwmnïau telathrebu mawr i leihau biliau nifer o gwsmeriaid sydd allan o gontract.
Mae tystiolaeth yn dangos bod y negeseuon amserol hyn gan ddarparwyr yn gweithio. Yn ein hymchwil, roedd dwy ran o dair o gwsmeriaid a gafodd hysbysiad diwedd contract yn cofio cael un. O’r rheini, roedd 90% yn teimlo ei fod yn ddefnyddiol a dywedodd un o bob pump eu bod wedi cael eu hysgogi i gymryd camau na fyddent wedi’u cymryd fel arall.
Cwsmeriaid band eang yn well eu byd
Roedd nifer y cwsmeriaid band eang a oedd allan o gontract yn 2020 wedi disgyn tua 1.3 miliwn o’r flwyddyn flaenorol. Roedd y gostyngiad hwn yn bennaf oherwydd bod pobl wedi sicrhau contract newydd gyda’u darparwr presennol, yn hytrach na newid darparwr. Roedd prisiau cyfartalog am fand eang hefyd wedi gostwng dros yr un cyfnod, o £39 yn 2019 i £38.10 yn 2020 tra bod cyflymderau cyfartalog wedi parhau i gynyddu.
Mae ein dadansoddiad hefyd yn dangos bod gan rai darparwyr gyfran uwch o gwsmeriaid allan o gontract nag eraill. Roedd dros hanner cwsmeriaid Virgin Media (52%) allan o gontract yn 2020 – er hynny, roedd yn llai nag ydoedd yn 2019 (61%). EE oedd â’r gyfran isaf sef 21% (i lawr o 24% yn 2019). Ymysg cwsmeriaid Plusnet y gwelwyd y gostyngiad mwyaf o un flwyddyn i’r llall yng nghyfran y cwsmeriaid a oedd allan o gontract – o 42% i 31%.
Cwsmeriaid ffonau symudol yn arbed £100m
Mae cwsmeriaid ffonau symudol ar gontractau wedi’u bwndelu (yn talu am eu ffôn a’u defnydd mewn un swm) yn arbennig o debygol o ymrwymo i gynllun newydd pan fydd eu contract presennol yn dod i ben, gyda dim ond 11% o’r cwsmeriaid hyn allan o gontract. Ac mae ein hymchwil yn awgrymu bod ymgysylltiad cwsmeriaid â’r farchnad yn cynyddu.
Ers i’r ymrwymiadau a sicrhawyd gennym ddod i rym, roedd dros dri chwarter (76%) o gwsmeriaid ffonau symudol a oedd yn dynesu at ddiwedd eu contract ar dariffau wedi’u bwndelu wedi cymryd camau i chwilio am fargen newydd ac wedi ymrwymo i un – i fyny o 70% yn 2019.
Hefyd, mae symiau’r gordaliadau gan gwsmeriaid symudol sydd allan o gontract wedi’i fwndelu, o’i gymharu â chwsmeriaid ar gynlluniau tebyg am SIM yn unig, wedi mwy na haneru – o £182m yn 2018 i £83m yn 2020.
Amddiffyn cwsmeriaid agored i niwed
Hefyd o ganlyniad i’r ymrwymiadau rydym wedi’u sicrhau gan ddarparwyr, darperir mwy o warchodaeth rhag prisiau uwch i gwsmeriaid agored i niwed sy’n derbyn gwasanaethau band eang ar ôl i’r contract ddod i ben.
Ar gyfartaledd, mae’r cwsmeriaid hyn bellach yn talu tua £2.30 y mis yn fwy na phris cyfartalog eu darparwr ar gyfer eu gwasanaeth, sy’n ostyngiad sylweddol o £4.40 yn 2019.
Mae hysbysiadau atgoffa gan ddarparwyr nawr yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Mae'n wych gweld mwy o bobl yn siopa o gwmpas ac yn arbed arian ers i ni gymryd y camau hyn.
Ond mae miliynau o gwsmeriaid yn dal i dalu mwy o bosib nag sydd ei angen. Erbyn hyn, mae'n haws dod o hyd i fargen well, felly mae'n werth treulio ychydig funudau i weld beth sydd ar gael.
Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Telathrebu Ofcom
A ydych chi’n dal mewn contract neu allan o gontract?
Does dim rhaid i gwsmeriaid sydd allan o gontract aros i glywed gan ddarparwyr cyn chwilio am fargen well. Mae gan Ofcom dri cham gweithredu syml i helpu pobl ddod o hyd i’r cynigion gorau ar y farchnad.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r ffigurau ar gyfer cwsmeriaid band eang a symudol sydd bron â chyrraedd diwedd eu contract, sydd naill ai wedi ymrwymo i gynllun newydd gyda’u darparwr presennol, neu wedi newid i un newydd, yn cyfeirio at fis Medi 2020 a mis Medi 2019.
- Daeth hysbysiadau diwedd contract i rym ar 15 Chwefror 2020. Gellir eu hanfon drwy neges destun, e-bost neu lythyr – rhwng 10 a 40 diwrnod cyn i gontract ddod i ben – a rhaid iddynt gynnwys:
- pryd mae eich contract yn dod i ben;
- beth rydych chi wedi bod yn ei dalu tan nawr, a beth fyddwch chi'n ei dalu pan fydd eich contract yn dod i ben;
- unrhyw gyfnod hysbysu ar gyfer gadael eich darparwr; a
- bargeinion gorau eich darparwr, gan gynnwys unrhyw brisiau sydd ar gael i gwsmeriaid newydd yn unig.
- Cynhaliodd Ofcom ymchwil ymysg sampl o gwsmeriaid pum darparwr symudol a thri darparwr band eang, a oedd wedi cael hysbysiad diwedd contract am wasanaeth a oedd yn dod i ben ym mis Medi 2020.
- Mae prisiau cyfartalog band eang yn seiliedig ar ddata cwsmeriaid chwe darparwr y cawsom ddata ganddynt (BT, EE, Plusnet, Sky, TalkTalk a Virgin Media).