Mae miliynau o bobl allan o gontract, a gallent fod yn cael gwell bargen ar eu contractau ffôn, band eang a theledu drwy dalu – ydych chi’n un o’r bobl yma?
Tri cham i gael bargen well
Yn ôl ein hymchwil ni, mae 20 miliwn o gwsmeriaid y tu allan i gyfnod eu contract cychwynnol, ac mae llawer o’r rhain yn talu llawer mwy am eu gwasanaethau nag sydd raid iddynt.
Rydyn ni wedi newid ein rheolau ar gyfer contractau band eang, ffôn a theledu drwy dalu. O 15 Chwefror ymlaen, rhaid i'ch darparwr ddweud wrthych chi pan fydd eich contract yn dod i ben – yn ogystal â nodi’r cynigion gorau mae’n eu cynnig.
Os ydych chi eisoes allan o gontract, mae’n rhaid i chi gael eich atgoffa eich bod allan o gontract, a chael gwybod am fargeinion gorau eich cwmni bob blwyddyn.
Ond does dim rhaid i chi aros i glywed ganddyn nhw. Drwy siopa o gwmpas a siarad â’ch darparwr, gallech arbed oddeutu £100 y flwyddyn ar fand eang yn unig.
Gallwch gymryd tri cham syml i gael gwell bargen.
1. Gwiriwch a ydych chi mewn contract neu allan o gontract.
Ydych chi’n gwybod a ydych chi mewn contract neu allan o gontract? Mae’n bwysig eich bod yn gwybod hyn oherwydd bydd darparwyr yn aml yn cynnig gostyngiad i gwsmeriaid am gyfnod eu contract cychwynnol. Rydych chi’n cofrestru ar gyfer hyn wrth brynu eich gwasanaeth, ac fel arfer mae’n golygu eich bod wedi ymrwymo i 12, 18 neu 24 mis.
Gallwch gael gwybod a ydych chi’n dal mewn contract drwy ofyn i’ch darparwr, neu gallwch edrych ar eich cyfrif drwy wefan neu ap eich darparwr. Os nad ydych chi wedi siarad â’ch darparwr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n debyg eich bod chi allan o gontract.
Os ydych chi mewn contract, mae hynny'n iawn. Ond dylech gadw llygad ar statws eich contract a chadw llygad am hysbysiadau gan eich darparwr.
2. Dewch o hyd i'r bargeinion gorau yn y farchnad.
Mae’n hawdd cael gwybod a oes bargen well ar gael i chi. Mae gwefannau cymharu prisiau’n rhoi gwybodaeth am y bargeinion gorau sydd ar gael.
Mae Ofcom yn achredu nifer o wefannau cymharu prisiau, sy’n golygu y gallwch fod yn siŵr eu bod yn cynnig gwybodaeth gywir a chlir. Os ydych chi’n dod o hyd i fargen wych yn rhywle arall, a’ch bod chi’n fodlon newid darparwr, ewch amdani – mae newid darparwr yn haws nag erioed.
Gallwch newid rhwydwaith symudol gyda neges destun syml, a chanslo eich contract band eang os nad ydych chi’n cael y cyflymderau a gafodd eu haddo i chi pan wnaethoch chi gofrestru.
I gael gwybod mwy, edrychwch ar ein canllaw ar gyfer newid.
3. Gofynnwch i’ch darparwr presennol a yw’n fodlon cynnig yr un fargen.
Os ydych chi allan o gontract, mae’n debyg eich bod yn talu gormod, ac mae’n bryd siarad â’ch darparwr. Efallai y bydd eich darparwr yn gallu cynnig yr un bargeinion â’r rhai rydych chi wedi’u gweld yn rhywle arall, neu fargen well hyd yn oed.
Rydyn ni’n deall y byddai’n well gan rai pobl beidio â siarad â’u darparwr. Efallai nad ydyn nhw’n gwybod beth i’w ddweud, neu eu bod yn poeni am gael eu darbwyllo i brynu rhywbeth nad oes ei angen arnyn nhw.
Ond cofiwch – drwy dreulio cyn lleied â phum munud ar y ffôn gyda’ch darparwr, gallech chi arbed cannoedd o bunnau.
Beth ddylwn i ei ofyn i’r darparwr?
Os nad ydych yn siŵr beth ddylech chi ei ofyn i’ch darparwr, dylai’r cwestiynau canlynol helpu:
- Ydw i’n dal o fewn cyfnod fy nghontract cychwynnol?
- Faint ydw i’n ei dalu?
- Beth ydw i’n ei gael am y pris hwnnw?
- Alla i gael gwasanaeth gwell, a faint fydd hwnnw’n ei gostio?
- Pa mor hir fyddai’r contract hwnnw?
- A oes angen i mi dalu unrhyw ffioedd i gael bargen newydd?
- Beth fydd yn digwydd pan ddaw’r contract hwnnw i ben?
Beth ddylech chi chwilio amdano mewn darparwr newydd?
Pan fyddwch chi’n dewis cynnyrch newydd, dylech ystyried a fyddech chi’n hapusach gyda’r gwasanaeth y gallai darparwr newydd ei gynnig. Rydyn ni’n ymchwilio i ansawdd y gwasanaeth a gynigir gan brif ddarparwyr ffonau symudol, band eang a ffonau cartref y DU.
Rydyn ni wedi edrych ar foddhad cwsmeriaid gyda’u darparwyr a rhai o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar hynny, er enghraifft, a oedd ganddyn nhw reswm dros gwyno, sut yr ymdriniwyd â’u cwynion, a faint o amser a gymerwyd i ateb eu galwad.
Rhaid i gwmnïau ddweud wrth gwsmeriaid am eu bargeinion gorau
Mae ein rheolau newydd yn golygu bod rhaid i gwmnïau ffôn, band eang a theledu drwy dalu gysylltu â chi rhwng 10 a 40 diwrnod cyn i'ch contract ddod i ben. Bydd yr hysbysiadau hyn yn cael eu hanfon drwy neges destun, neges e-bost neu lythyr, ac mae’n rhaid iddyn nhw gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- pryd mae eich contract yn dod i ben;
- y pris rydych chi wedi bod yn ei dalu tan nawr, a beth fyddwch chi'n ei dalu pan fydd eich contract yn dod i ben;
- unrhyw gyfnod hysbysu ar gyfer gadael eich darparwr; a
- bargeinion gorau eich darparwr, gan gynnwys unrhyw brisiau sydd ar gael i gwsmeriaid newydd yn unig.
Os byddwch yn dewis aros gyda’ch darparwr heb ymrwymo i gontract newydd, rhaid i’ch darparwr anfon nodyn atgoffa atoch chi bob blwyddyn am y bargeinion gorau sydd ar gael i chi.