Heb fedru talu bil?

Cyhoeddwyd: 15 Ionawr 2024

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu bil, peidiwch â’i anwybyddu.

Siaradwch â’ch cwmni ffôn cyn gynted ag sy’n bosibl. Efallai gallan nhw eich helpu.

Holwch eich darparwr am:

  • symud i becyn rhatach
  • talu’r ddyled dros amser
  • lleihau’r taliadau misol i rywbeth y gallwch ei fforddio
  • dileu rhan o’r ddyled os byddwch yn cytuno i dalu’r gweddill cyn pen 14 diwrnod a thalu’r 12 bil misol nesaf yn llawn ac yn brydlon.
  • newid y dyddiad talu neu symud i ddebyd uniongyrchol
  • gwerthu hen ffonau symudol ar gyfer eu hailgylchu
  • manylion asiantaethau sy’n rhoi cyngor am ddyledion

Does dim rhaid i’ch darparwr gynnig unrhyw rai o’r rhain i chi, ond, os byddwch yn esbonio eich amgylchiadau iddynt, dylent allu helpu i ystyried y dewisiadau gyda chi.

I gael cyngor am ddyledion a rheoli arian, mae’n bosibl y bydd gwasanaeth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn gallu helpu.

Mae’n bosibl hefyd yr hoffech gysylltu â’r Llinell Ddyled Genedlaethol neu’r elusen ddyledion StepChange. Os nad ydych yn gallu gwneud dim o’ch ad-daliadau neu eich bod yn wynebu’r bygythiad o achos llys, mynnwch gyngor annibynnol, rhad ac am ddim ar ddyledion yn syth.

Mae’n well osgoi cael eich datgysylltu. Mae rhai darparwyr cyfathrebiadau’n codi ffioedd ailgysylltu ar eu cwsmeriaid sydd wedi cael eu datgysylltu oherwydd dyledion. Mae’r ffioedd hyn ar ben gorfod talu eich dyledion.

Neu, mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid sydd wedi cael eu datgysylltu yn cael eu trin fel cwsmeriaid newydd ac yn gorfod mynd drwy brosesau archwilio credyd ac yn gorfod talu blaendaliadau

Os oes bil heb ei dalu, bydd cwmnïau fel arfer yn cysylltu â’r cwsmer.

Os nad ydych chi’n talu, gall y darparwyr gyfyngu eich cyfrif. Gallai hyn olygu y bydd galwadau a wneir yn cael eu cyfyngu i alwadau brys a galwadau i’r darparwr yn unig, ond heb effeithio ar y galwadau sy’n dod i mewn. Efallai bydd datgysylltiad os ydy’r taliadau yn parhau i gael eu colli.

Mae gan rai gwmnïau reolau’n ymwneud â rhai grwpiau penodol o ddefnyddwyr, er enghraifft y rhai sy’n fregus. Maen nhw’n gwneud rhagor o ymdrech i gysylltu â’r cwsmeriaid hyn cyn y bydd eu gwasanaeth yn cael ei leihau neu ei ddatgysylltu.

Os ydych chi’n anghytuno â’r taliadau ar eich bil, gwiriwch nad oes neb arall yn eich cartref wedi bod yn defnyddio eich ffôn i achosi’r costau ychwanegol.

Os yw’r taliadau’n dal i godi amheuon, cysylltwch â’ch darparwr gwasanaeth. Gall fod yn ddefnyddiol anfon copi o’ch bil atynt, gan ddwyn sylw at y taliadau a’r rhesymau pam yr ydych yn meddwl eu bod yn anghywir.

Os nad yw eich darparwr yn cytuno â chi, gallwch ddilyn ei drefn gwyno ffurfiol. Dylai manylion y drefn hon fod ar gael ar ei wefan neu gan yr adran gwasanaethau cwsmeriaid.

Os byddwch yn dal yn anhapus, neu os yw eich cwyn wedi bod yn cael sylw am fwy nag wyth wythnos, gallwch gyflwyno eich cwyn i gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).

Bydd y darparwr ADR yn ystyried eich dadleuon a rhai'r darparwr cyn dod i benderfyniad sy'n deg yn eu barn nhw.

Mae dau gynllun ADR ar gael: Communications and Internet Services Adjudication Scheme (CISAS)Communications Ombudsman, a rhaid i bob darparwr gwasanaeth fod yn aelod o un o'r cynlluniau hyn. Bydd eich cwmni'n dweud wrthoch chi i ba gynllun mae'n perthyn, neu gallwch ddefnyddio ein teclyn gwirio ADR

Os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at asiantaeth casglu dyledion a chithau’n dal mewn anghydfod â’ch darparwr, dylech gysylltu â’r asiantaeth ac esbonio hyn iddynt.

Er bod gan gwmnïau cyfathrebiadau hawl i fynd ar ôl cwsmeriaid am arian sy’n ddyledus yn eu barn nhw, byddem yn disgwyl i’r darparwr i roi amser i chi ddatrys eich anghydfod. Mae hefyd yn bwysig i chi ddilyn trefn gwyno eich cwmni ffôn.

Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn wael neu eich aflonyddu, naill ai gan gwmni telegyfathrebiadau y mae arnoch arian iddo neu gan asiantaeth casglu dyledion, gallwch gwyno am y ffordd y cawsoch eich trin.

Yn gyntaf, dylech ysgrifennu at y cwmni telegyfathrebiadau neu’r asiantaeth casglu dyledion yn nodi eich cwyn. Gallwch hefyd gwyno wrth gymdeithas fasnach yr asiantaeth casglu dyledion, y Gymdeithas Gwasanaethau Credyd, os yw’r cwmni yn aelod.

Os oes gennych chi anghydfod am fil neu fater yn ymwneud â’ch contract, gallwch gael cyngor gan wasanaeth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Os oes angen cyngor arnoch am gasglu dyledion a delio â’ch dyledion, mae ffynonellau cyngor rhad ac am ddim ar ddyledion ar gael gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.  Mae rhagor o wybodaeth am ddyledion ffôn symudol ar gael gan y Llinell Ddyled Genedlaethol.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig