Heddiw, cyfarfu Prif Weithredwr Ofcom, Y Fonesig Melanie Dawes a Phrif Weithredwyr rheoleiddwyr eraill y DU â Jeremy Hunt AS, Canghellor y Trysorlys, i drafod effaith y cynnydd mewn costau byw ar y sectorau a reoleiddiwn. Dyma ein datganiad ar ein gwaith i gefnogi cwsmeriaid telathrebu.
“Pan gawsom ein bwrw gan y pandemig, cydiodd ein diwydiant telathrebu yn yr her o gadw'r cysylltiad i bobl yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus eithriadol. Nawr, mae angen i gwmnïau gamu i'r adwy eto i gefnogi eu cwsmeriaid wrth i aelwydydd ar draws y wlad wynebu argyfwng unwaith mewn cenhedlaeth gyda'u cyllidebau.
“Rydyn ni wedi rhoi pwysau ar ddarparwyr i gynnig tariffau cymdeithasol i'r rhai sydd fwyaf mewn angen, ond dim ond hanner y dasg yw hynny. Nid yw dros hanner yr aelwydydd cymwys yn ymwybodol ohonynt, a dim ond 5% sydd wedi mynd ati newid i un o'r pecynnau rhatach hyn, gan olygu bod miliynau yn dal i golli allan.
“Dyw hi ddim yn ddigon i ddisgwyl i bobl ddarganfod y rhain ar eu pennau eu hunain - mae'n rhaid i ddarparwyr gymryd camau nawr i sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod pa gymorth sydd ar gael. Bydd Ofcom yn annog cwmnïau telathrebu i weithredu ar unwaith i godi ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol ac ysgogi defnyddwyr i fanteisio arnynt, a bydd yn gweithio gyda llywodraeth y DU a chyrff perthnasol eraill i gefnogi ymdrechion y diwydiant.”