Canllaw i gostau galwadau

Cyhoeddwyd: 14 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf: 8 Awst 2023

0800, 0870, 090, 020... oherwydd bod yna gynifer o rifau ffôn gwahanol mae hi’n gallu bod yn anodd cadw llygad ar faint mae’n ei gostio i’w ffonio. Felly beth maen nhw i gyd yn ei olygu?

Er bod llawer o alwadau'n rhan o'r munudau cynhwysol, sy'n rhan o'ch contract – ac felly nid ydynt yn costio mwy – nid yw pob un ohonynt yn rhan o becynnau bwndel ac yn cael eu codi ar sail 'y funud' neu 'fesul galwad'. Gallwch ddarganfod isafswm ac uchafswm taliadau nodweddiadol isod.

Enghreifftiau yn unig ydy’r prisiau a ddylech chi ddim eu defnyddio fel rhestr bendant o gostau galwadau. Bydd y costau go iawn yn dibynnu ar eich darparwr gwasanaeth cyfathrebu a nifer o ffactorau fel cynlluniau ffonio unigol, yr adeg o’r dydd a’r union rif rydych chi’n ei ffonio. Dylech chi holi eich darparwr cyn i chi ddeialu.

Mae’r rhifau hyn yn perthyn i leoliadau penodol yn y DU ac yn cael eu defnyddio ar gyfer cartrefi a busnesau. Er enghraifft, Belfast yw 028, Caerdydd yw 029, Caeredin yw 0131 a 020 ydy Llundain.

Mae galwadau o linellau tir fel rheol yn costio hyd at 16c y funud. Mae nifer o ddarparwyr yn codi ffi gosod galwadau o 23c (neu "ffi cysylltu") ond gall hyn amrywio. Mae  costau galwadau yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig pecynnau galwadau sy’n caniatáu galwadau am ddim ar adegau penodol o’r dydd.

Gall costau galwadau o ffonau symudol amrywio yn dibynnu ar y cynllun galwadau cafodd ei ddewis. Fel arfer, maent yn cael eu cynnwys mewn pecynnau galwadau am ddim. Fodd bynnag, os ydych chi'n galw rhif 01/02 tu allan i funudau cynhwysol, gallant gostio rhwng 3c a 65c y funud.

Mae nifer o sefydliadau'n defnyddio rhifau 03 fel rhifau amgen yn lle'r rhifau 08 fwy costus. Er enghraifft, mae nifer o gyrff sector cyhoeddus wedi symud rhifau 0845 i 0345.

Nid yw galwadau'n costio mwy na galwadau i rifau daearyddol (01 neu 02).

Mae galwadau o linellau tir fel rheol yn costio hyd at 16c y funud. Mae nifer o ddarparwyr yn codi ffi gosod galwadau o 23c (neu "ffi cysylltu") ond gall hyn amrywio. Mae  costau galwadau yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig pecynnau galwadau sy’n caniatáu galwadau am ddim ar adegau penodol o’r dydd.

Gall costau galwadau o ffonau symudol amrywio yn dibynnu ar y cynllun galwadau cafodd ei ddewis. Fel arfer, maent yn cael eu cynnwys mewn pecynnau galwadau am ddim. Fodd bynnag, os ydych chi'n galw rhif 01/02 tu allan i funudau cynhwysol, gallant gostio rhwng 3c a 65c y funud.

Cafodd rhifau Rhadffôn 0500 eu dileu ar 5 Mehefin 2017. Cawson nhw eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau fel marchnata, ymholiadau a llinellau cymorth, gyda'r rhifau 0800 ac 0808 Rhadffôn poblogaidd.

Darllenwch ragor am ein penderfyniad i ddileu rhifau 0500.

Mae llawer o ddarparwyr llinell dir bellach yn cynnwys galwadau i ffonau symudol yn eu lwfansau galwadau, ond lle nad ydynt, codir rhwng 10c ac 20c y funud arnynt fel arfer. Gellir cael ffi sefydlu galwadau hefyd (neu 'dâl cysylltu'), sef 23c fel arfer.

Fel arfer, caiff galwadau rhwng ffonau symudol eu cynnwys mewn pecynnau galwadau am ddim. Fodd bynnag, os cânt eu gwneud y tu allan i unrhyw gofnodion cynhwysol, gallant gostio rhwng 3c a 65c y funud, yn dibynnu ar y cynllun galwadau a ddewiswyd.

Mae'r rhain yn wahanol i rifau symudol, ac mae galwadau iddynt yn ddrutach. Gellir eu defnyddio fel gwasanaeth 'dilyn fi', lle caiff galwadau eu dargyfeirio o rif arall.

Mae rhai cwmnïau ffôn yn cynnwys galwadau i rifau 070 mewn lwfansau galwadau. Fodd bynnag, nid yw pob un yn gwneud, a gall galwadau gostio tua 50c y funud o linell dir neu 86c o ffôn symudol.

Mae nifer o fusnesau a sefydliadau’n defnyddio rhifau Rhadffôn, gan gynnwys rhai llinellau cymorth ac elusennau fel Action on Hearing neu Age UK, yn ogystal â gwasanaethau’r Llywodraeth fel Lwfans Ceisio Gwaith.

Mae’r galwadau am ddim o bob llinell dir a ffôn symudol.

Os ydych chi’n ffonio o ffôn busnes, dylech chi holi eich darparwr a fydd unrhyw ffi am ffonio 0800 neu 0808.

Mae'r rhifau gwasanaethau hyn yn cael eu defnyddio gan sefydliadau ar gyfer llinellau marchnata neu ymholiadau.

Mae dwy ran i’r gost o ffonio 0843, 0844 a 0845: tâl mynediad sy’n mynd i’ch cwmni ffôn chi, a thâl gwasanaeth sy’n cael ei osod gan y sefydliad rydych chi’n ei ffonio.

Mae'r ffi gwasanaeth am alwadau i rifau 084 rhwng 0c a 7c y funud. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich tâl gwasanaeth wedi ei arddangos yn eglur lle bynnag y byddwch chi’n hysbysebu neu hyrwyddo'r rhif hwnnw

Mae'r r tâl mynediad – sy'n ychwanegol i'r ffi gwasanaeth -yn amrywio yn dibynnu ar eich cwmni ffôn, a gall amrywio o 8c i 67c y funud. Dewiswch ddarparwr o’r rhestr isod i gael eich cyfeirio at eu tudalen prisiau.

Darparwr

Pris mynediad (fesul munud)

Pris Gwasanaeth (fesul munud)

Asda Mobile

8c

Rhwng 0c a 7c

BT

Rhwng 0c a 31.41c yn dibynnu ar gynllun galwadau

EE

Rhwng 11c a 67c yn dibynnu ar gynllun galwadau

Giffgaff

25c

Kcom

15c

Lycamobile

23c

O2

65c

Plusnet

9.58c

Post Office

14c

Sky

15c

Talk Mobile

15c

TalkTalk

12.5c o linell dir; 25c ar gyfer symudol

Tesco Mobile

25c

Three

65c

Virgin Media

36c ar gyfer cwsmeriaid talu wrth fynd; 58c ar gyfer cwsmeriaid talu pob mis

Vodafone

45c ar gyfer cwsmeriaid talu wrth fynd; 65c ar gyfer cwsmeriaid talu pob mis

Zen Internet

11c

Mae'r rhifau gwasanaeth hyn yn cael eu defnyddio gan sefydliadau ar gyfer llinellau marchnata neu ymholiadau.

Mae dwy ran i’r gost o ffonio 087: tâl mynediad sy’n mynd i’ch cwmni ffôn chi, a ffi gwasanaeth sy’n cael ei osod gan y sefydliad rydych chi’n ei ffonio.

Mae'r ffi gwasanaeth am alwadau i rifau 087 rhwng 0c ac 13c y funud. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich tâl gwasanaeth wedi ei arddangos yn eglur lle bynnag y byddwch chi’n hysbysebu neu hyrwyddo'r rhif hwnnw

Mae'r tâl mynediad -sydd ar ben y ffi gwasanaeth -yn amrywio yn dibynnu ar eich cwmni ffôn, ac yn gallu bod rhwng 8c a 67c y funud.

Dewiswch ddarparwr o’r tabl isod am ragor o wybodaeth am eu prisiau.

Darparwr

Pris mynediad (fesul munud)

Pris Gwasanaeth (fesul munud)

Asda Mobile

8c

Rhwng 0c a 7c

BT

Rhwng 0c a 31.41c yn dibynnu ar gynllun galwadau

EE

Rhwng 11c a 67c yn dibynnu ar gynllun galwadau

Giffgaff

25c

Kcom

15c

Lycamobile

23c

O2

65c

Plusnet

9.58c

Post Office

14c

Sky

15c

Talk Mobile

15c

TalkTalk

12.5c o linell dir; 25c ar gyfer symudol

Tesco Mobile

25c

Three

65c

Virgin Media

36c ar gyfer cwsmeriaid talu wrth fynd; 58c ar gyfer cwsmeriaid talu pob mis

Vodafone

45c ar gyfer cwsmeriaid talu wrth fynd; 65c ar gyfer cwsmeriaid talu pob mis

Zen Internet

11c

Fel rheol bydd y rhifau cyfradd premiwm hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer cystadlaethau, pleidleisio ar raglenni teledu, horosgopau, llinellau sgwrsio, llinellau oedolion, gwybodaeth wedi’i recordio a gwasanaethau cyngor proffesiynol. Gallwch chi rwystro eich ffôn rhag deialu'r rhifau cyfradd premiwm hyn, yn yr un modd â gallwch chi ei wneud ar gyfer rhifau eraill. Mae’r rhifau hefyd yn cael eu rheoleiddio gan PhonepayPlus*

Mae dwy ran i’r gost o ffonio 09: tâl mynediad sy’n mynd i’ch cwmni ffôn chi, a ffi gwasanaeth sy’n cael ei gosod gan y sefydliad rydych chi’n ei ffonio.

Mae'r ffi gwasanaeth am alwadau i rifau 09 rhwng 1c a £3.60 y funud. Gellir codi cost galwad unwaith ac am byth arnoch rhwng 5c a £6. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich tâl gwasanaeth wedi ei arddangos yn eglur lle bynnag y byddwch chi’n hysbysebu neu hyrwyddo'r rhif hwnnw

Mae'r tâl mynediad -sydd ar ben y ffi gwasanaeth-yn amrywio yn dibynnu ar eich cwmni ffôn, ac yn gallu amrywio o 8c i 67c y funud. Dewiswch ddarparwr o’r tabl isod am ragor o wybodaeth am eu prisiau.

Darparwr

Pris mynediad (fesul munud)

Pris Gwasanaeth (fesul munud)

Asda Mobile

8c














Rhwng 1c a £3.60

BT

Hyd at 31.41c yn dibynnu ar gynllun galwadau

EE

Rhwng 11c a 67c yn dibynnu ar gynllun galwadau

Giffgaff

25c

Kcom

15c

Lycamobile

23c

O2

65c

Plusnet

9.58c

Post Office

14c

Sky

15c

Talk Mobile

15c

TalkTalk

12.5c o linell dir; 25c ar gyfer symudol

Tesco Mobile

55c

Three

65c

Virgin Media

Rhwng 17c i 58c yn dibynnu ar gynllun galwadau

Vodafone

45c ar gyfer cwsmeriaid talu wrth fynd; 65c ar gyfer cwsmeriaid talu pob mis

Zen Internet

11c

*Mae'r 'Phone-paid Services Authority' (PSA) (a elwid gynt yn PhonePayPlus ac ICSTIS) yn rheoleiddio gwasanaethau taliadau ffôn yn y DU. Dyma'r nwyddau a'r gwasanaethau cyfradd premiwm y gallwch eu prynu drwy godi'r gost ar eich bil ffôn a'ch cyfrif rhagdalu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y PSA.

Mae rhifau 116 yn cael eu defnyddio ar gyfer rhai gwasanaethau sydd â gwerth cymdeithasol sydd â’r un rhif chwe digid ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • 000 ar gyfer llinellau cymorth plant sydd ar goll;
  • 111 ar gyfer llinellau cymorth plant; a
  • 123 ar gyfer llinellau cefnogaeth emosiynol.

Mae rhifau 116 yn rhad ac am ddim i'w galw o unrhyw ffôn, boed yn llinell dir neu'n symudol.

Mae cost galw rhifau ymholiadau cyfeiriadur (yn dechrau gyda 118) mewn dwy ran: tâl mynediad sy’n mynd at eich cwmni ffôn a ffi gwasanaeth a osodwyd gan y sefydliad rydych chi’n galw.

Mae'r ffi gwasanaeth yn amrywio yn dibynnu ar y gwasanaeth ymholiadau cyfeiriadur rydych chi'n galw ac mae werth siopa am fargen i gael y pris gorau. Ers 1 Ebrill 2019, mae costau gwasanaeth wedi'u capio, sy'n golygu nid yw cwmnïau 118 yn gallu codi mwy na £3.65 fesul 90 eiliad o'r alwad. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich tâl gwasanaeth wedi ei arddangos yn eglur lle bynnag y byddwch chi’n hysbysebu neu hyrwyddo'r rhif hwnnw

Gall galwadau gynnwys ffi cysylltu untro ac yna cyradd unigol fesul munud-mae hyn hefyd yn amrywio yn dibynnu ar y gwasanaeth. Er enghraifft, gall rai darparwyr godi tua £2.50 fel cost untro ac yna codiad fesul munud o tua 75c y funud.

Byddem yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio'r gwasanaeth ymholiadau cyfeiriadur ar gyfer cysylltu ymlaen i'r rhif y maent wedi gofyn amdano ddim ond pan fydd gwir angen am wneud hyn, gan fod y taliadau'n aml yn uwch na dod â'r alwad i ben a ffonio'n uniongyrchol ar eich ffôn llinell dir neu symudol.

Mae'r tâl mynediad – sy'n ychwanegol at y ffi gwasanaeth - yn dibynnu ar eich cwmni ac yn gallu amrywio o 8c i 67c y funud. Dewiswch ddarparwr o'r tabl isod am ragor o wybodaeth am eu prisiau.

Darparwr

Pris mynediad (fesul munud)

Pris Gwasanaeth (fesul munud)

Asda Mobile

8c

Rhwng 0c a 7c

BT

Rhwng 0c a 31.41c yn dibynnu ar gynllun galwadau

EE

Rhwng 11c a 67c yn dibynnu ar gynllun galwadau

Giffgaff

25c

Kcom

15c

Lycamobile

23c

O2

55c

Plusnet

9.58c

Post Office

14c

Sky

15c

Talk Mobile

15c

TalkTalk

12.5c o linell dir; 25c ar gyfer symudol

Tesco Mobile

25c

Three

65c

Virgin Media

Rhwng 17c i 58c yn dibynnu ar gynllun galwadau

Vodafone

45c ar gyfer cwsmeriaid talu wrth fynd; 65c ar gyfer cwsmeriaid talu pob mis

Zen Internet

11c

Mae rhifau 118 hefyd yn cael eu rheoleiddio gan y Phone-paid Services Authority (PSA) (a elwid gynt yn PhonePayPlus ac ICSTIS), sy'n rheoleiddio gwasanaethau taliadau ffôn yn y DU. Dyma'r nwyddau a'r gwasanaethau cyfradd premiwm y gallwch eu prynu drwy godi'r gost ar eich bil ffôn a'ch cyfrif rhagdalu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y PSA.

Mae rhifau tri digid yn cynnig mynediad at wasanaethau o werth cymdeithasol.

Mae'r galwadau i'r rhifau canlynol am ddim o bob ffôn:

  • 999/112: i ffonio'r Gwasanaethau Brys (heddlu, ambiwlans, y gwasanaeth tân a Gwylwyr y Glannau EM) mewn sefyllfa frys
  • 101: i ffonio'r heddlu gydag ymholiadau nad ydynt yn argyfwng
  • 105: ar gyfer y gwasanaeth toriadau trydan cenedlaethol. Gallwch ffonio 105 i roi gwybod neu gael gwybodaeth am doriadau trydan yn eich ardal leol. Gallwch ffonio 105 hefyd os ydych yn gweld difrod i wifrau ac is-orsafoedd trydan
  • 111: i ffonio'r GIG am ymholiadau nad ydynt yn argyfwng
  • 119: i ffonio'r GIG am help gyda brechiadau a phrofion coronafeirws (COVID-19), a Phasys COVID y GIG

123 ar gyfer y 'Cloc Llafar’: mae pris yr alwad yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr ffôn. Gofynnwch iddynt am fanylion.

159 ar gyfer y 'Llinell gymorth twyll banc’: Gall y rhan fwyaf o gwsmeriaid bancio'r DU ddefnyddio'r rhif hwn i gysylltu'n uniongyrchol â'u banc pan fyddant yn derbyn galwad annisgwyl neu amheus am fater ariannol. Mae prisiau galwadau yn cael eu pennu gan eich darparwr ffôn ac mae'n bosib nad ydynt wedi'u cynnwys yn eich bwndel galwadau. Mewn llawer o achosion, bydd y gost yr un fath â galwad cyfradd genedlaethol. Am fwy o wybodaeth, gofynnwch i'ch darparwr.

Lawrlwythwch ein ffeithlun (PDF, 298.9 KB) i gael gwybodaeth am rifau tri digid a ddefnyddir yn y DU.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig