Datganiad: Canllaw arfer da i helpu atal camddefnyddio rhifau a is-ddyrennir ac a aseinir

Cyhoeddwyd: 23 Chwefror 2022
Ymgynghori yn cau: 20 Ebrill 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 15 Tachwedd 2022

Mae diogelu defnyddwyr rhag niwed yn flaenoriaeth i Ofcom ac rydym yn pryderu am broblem gynyddol sgamiau a hwylusir gan alwadau a negeseuon testun.

Tacteg gyffredin yw i sgamwyr gysylltu â phobl gan ddefnyddio galwad, gan honni'n aml eu bod o sefydliadau dilys er mwyn twyllo eu dioddefwr i ddarparu manylion personol neu wneud taliad. Mae defnyddio rhif ffôn dilys yn golygu bod y sgam yn edrych yn ddilys.

Mae Ofcom yn gyfrifol am weinyddu rhifau ffôn y DU. Dyrennir rhifau ffôn gan Ofcom i ddarparwyr telathrebu, a all wedyn drosglwyddo'r rhifau i fusnesau neu unigolion eraill. Mae gennym reolau sy'n nodi'r cyfrifoldebau ar y rhai sy'n trosglwyddo ac yn defnyddio rhifau. Fodd bynnag, rydym wedi nodi anghysondebau a bylchau yn yr arferion presennol, yn enwedig yn y gwiriadau y mae darparwyr yn eu gwneud ar gwsmeriaid sy'n gofyn am rifau a'u hymateb pan fyddant yn cael gwybod am y defnydd o'r rhifau hynny ar gyfer sgamiau.

Ym mis Chwefror 2022, bu i ni ymgynghori ar ganllaw arfer da arfaethedig fu'n nodi'r camau rydym yn disgwyl i ddarparwyr eu cymryd i helpu i atal rhifau ffôn dilys rhag cael eu camddefnyddio, gan gynnwys i hwyluso sgamiau. Mae'r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniadau mewn perthynasâ'r canllaw arfer da, ac yn cynnwys copi o'r canllaw llawn.

Yn ôl i'r brig