Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’n hadolygiad parhaus o rifau ffôn (Adolygiad Dyfodol Rhifau).
Mae Ofcom yn gyfrifol am weinyddu rhifau ffôn yn y DU, gan sicrhau'r defnydd gorau ac annog effeithlonrwydd ac arloesedd at y diben hwnnw. Rydym yn cyhoeddi’r Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol (y Cynllun Rhifau), ein llyfr rheolau ar gyfer rhifau ffôn yn y DU, sy'n nodi'r rhifau a ddarperir i'w defnyddio a'r rheolau ar gyfer sut y gellir defnyddio'r rhifau hynny.
Mae'r rheolau rhannu refeniw presennol yn y Cynllun Rhifau wedi datblygu mewn modd ad hoc, gan arwain at rai anghysondebau. Mae'r Cynllun Rhifau'n gwneud darpariaeth benodol ar gyfer rhannu refeniw ar ystodau penodol (er enghraifft 084 a 087) ond mewn achosion eraill nid yw'n pennu a ganiateir rhannu refeniw ai beidio. Efallai bod hyn yn ymddangos fel y byddai'n caniatáu rhannu refeniw mewn ffyrdd a allai achosi niwed i ddefnyddwyr. Yng ngoleuni ein dyletswyddau, a nodau ein Hadolygiad o Ddyfodol Rhifau, rydym felly yn cynnig darparu eglurhad o ran y rheolau hyn.
Rydym yn gwahodd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn erbyn 2 Chwefror 2024. Bwriadwn gyhoeddi datganiad sy'n nodi ein penderfyniad yn ail chwarter 2024.
Prif ddogfennau
Ymatebion
Manylion cyswllt
Networks & Communications Group
Ofcom
Quartermile One
15 Lauriston Place
Edinburgh EH3 9EP