Ymgynghoriad:Cymeradwyo Cod Ymarfer yr Awdurdod Gwasanaethau Ffôn â Thâl (pymthegfed rhifyn)

Cyhoeddwyd: 30 Ebrill 2021
Ymgynghori yn cau: 11 Mehefin 2021
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad a gyhoeddwyd 20 Hydref 2021

Mae amrywiaeth o wasanaethau rhyngweithiol y gall defnyddwyr eu cyrchu trwy ei ffonau llinell dir a symudol, cyfrifiaduron a theledu digidol.

Pan godir tâl am y gwasanaethau hyn trwy fil ffôn neu gyfrif talu-ymlaen-llaw y cwsmer, maent yn cael eu galw'n wasanaethau ffôn â thâl neu wasanaethau cyfradd bremiwm (PRS). Maent yn cynnwys rhoddion i elusennau trwy neges destun, ffrydio cerddoriaeth, cymryd rhan mewn cystadlaethau darlledu, pleidleisio ar sioeau doniau ar y teledu a phrynu o fewn apiau.

Mae gan Ofcom gyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod defnyddwyr wedi'u diogelu trwy sicrhau bod rheolau priodol yn cael eu rhoi ar waith a'u gorfodi. I gyflawni hyn rydym wedi dynodi'r Awdurdod Gwasanaethau Ffôn â Thâl (PSA) i reoleiddio'r gwasanaethau cyfradd bremiwm hyn ar sail bob dydd.

Mae'r PSA yn rheoleiddio'r gwasanaethau hyn ar ffurf Cod Ymarfer.

O bryd i'w gilydd, mae'r PSA yn adolygu ei God Ymarfer i sicrhau ei fod yn parhau i weithredu er budd defnyddwyr ac yn darparu cyfundrefn reoleiddio deg a chymesur ar gyfer diwydiant. Mae gennym bwerau i gymeradwyo'r Cod ar yr amod ei fod yn bodloni rhai profion cyfreithiol.

Ar ôl ymgynghori ac ystyried yr ymatebion a ddaeth i law, mae'r ddogfen hon yn nodi penderfyniad Ofcom i gymeradwyo pymthegfed Cod Ymarfer y PSA. Daw'r Cod i rym ar 5 Ebrill 2022.

Diweddariad 25 Ebrill 2022 – Newidiadau i God 15

Rydyn ni wedi cymeradwyo mân newidiadau i Ofyniad 3.13 o bymthegfed Cod Ymarfer y PSA. Mae Datganiad y PSA yn nodi'r newidiadau hyn yn fanwl.

How to respond

Yn ôl i'r brig