Defnyddio apiau’n ddiogel

Cyhoeddwyd: 13 Awst 2019

Mae apiau’n ffordd bwysig o gyfathrebu a mynd ar y rhyngrwyd drwy ein ffonau, dyfeisiau tabled a’r teledu.

Er bod apiau’n darparu ffordd syml o gael mynediad at gynnwys a gwasanaethau, mae’n bwysig gwybod sut i’w defnyddio’n ddiogel. Dyma ambell i awgrym i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r apiau ar eich dyfais a sut i’w defnyddio’n hyderus. Mae’r canllaw hwn wedi’i gynhyrchu gan Ofcom ar y cyd â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, PhonepayPlus a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Fe allai rhai apiau gam-fanteisio ar eich dyfais symudol. Mae hyn yn fwy tebygol os yw’r ap yn dod o ffynhonnell (anhysbys) sy’n llai dibynadwy.
Er enghraifft, gallai rhywun gymryd ap poblogaidd y talwyd amdano, ychwanegu eu helfennau niweidiol eu hunain ac yna ei gynnig yn rhad ac am ddim ar ‘fyrddau bwletin’ neu rwydweithiau ‘cymar-wrth-gymar’.

Unwaith y bydd rhywun wedi gosod yr ap hwn, gallai haciwr gymryd rheolaeth dros y ffôn gan wneud galwadau, cronni bil mawr heb eich caniatâd neu anfon a mynd i mewn i negeseuon SMS a phost llais. Efallai na fyddwch chi’n gwybod bod rhywbeth o’i le nes y bydd yn rhy hwyr.
Dylech lawrlwytho apiau o siopau apiau swyddogol ac osgoi apiau o ffynonellau heb eu hawdurdodi.  Mae’n syniad da ymchwilio i apiau a darllen yr adolygiadau cyn eu lawrlwytho.

Mae rhai apiau’n darparu sgoriau cynnwys. Mae’r rhain yn eich helpu i benderfynu a yw ap yn briodol i blant.

Mae’r sgoriau hyn yn rhoi canllawiau ar y cynnwys a pha mor ddwys yw’r themâu fel trais, iaith sarhaus, cynnwys rhywiol a chyfeiriadau at gyffuriau. Mae gan bob siop apiau ei pholisi ei hun ar gyfer sgorio cynnwys. Mae hyn yn golygu y bydd sgoriau’n amrywio.

Mae’r sgoriau hyn yn ymwneud â’r cynnwys yn yr ap ei hun. Os byddwch chi’n defnyddio apiau sy’n eich galluogi chi neu’ch plentyn i gysylltu â’r rhyngrwyd a chael mynediad at gynnwys y tu hwnt i’r ap, efallai fod angen mwy o fesurau diogelwch, hidlyddion neu opsiynau chwilio diogel arnoch o ran y ddyfais neu’r rhwydwaith.

Mae rhagor o fanylion am y rhain ar gael ar wefan allanol Saesneg Internet Matters.

Pan fyddwch chi’n lawrlwytho ap, bydd yn aml yn gofyn i chi am ganiatâd i gael mynediad at systemau neu ddata penodol ar eich dyfais.  
Er enghraifft, gallai apiau llywio ofyn am ganiatâd i ddefnyddio eich lleoliad presennol i ddarparu cyfarwyddiadau a gwybodaeth am y lleoliad. Gallai apiau golygu lluniau ofyn am fynediad at eich lluniau er mwyn i chi allu golygu lluniau rydych chi’n eu tynnu drwy’r ap.

Dim ond data a nodweddion sy’n bwysig i wneud i’r ap weithio y dylai datblygwyr apiau ofyn amdanynt. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai apiau’n gofyn am ganiatâd diangen, ychwanegol.

Er mwyn diogelu eich gwybodaeth bersonol, darllenwch y ceisiadau am ganiatâd yn ofalus.  Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n hapus gyda’r wybodaeth rydych chi’n caniatáu i’r ap ei defnyddio.

Os nad ydych chi’n hapus gyda’r caniatâd y gofynnwyd amdano, dylech wrthod y cais neu chwilio am ap arall.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio ein ffonau clyfar i reoli ein harian.

Mae llawer o fanteision i fancio symudol: mae apiau’n cynnig ffordd fwy syml a chyfleus o fancio wrth symud o le i le ac mae hyn yn arbed amser ac arian i chi.

Ond mae yna beryglon hefyd. Cofiwch wneud y pethau sylfaenol hyn:

  • allgofnodi o’ch ap bancio pan nad ydych chi’n ei ddefnyddio;
  • lawrlwytho apiau bancio o siopau apiau swyddogol yn unig;
  • peidio â newid y gosodiadau diogelwch ffatri ar eich ffôn; a
  • diogelu eich ffôn gyda chyfrinair.

Mae defnyddio apiau’n defnyddio mwy o ddata symudol. Os nad ydych chi’n monitro eich defnydd o ddata’n ofalus, fe allech chi fynd dros eich lwfans a thalu mwy. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig apiau neu offer ar-lein er mwyn i chi allu gwirio eich defnydd yn hawdd.

At hyn, gall defnyddio apiau dramor arwain at filiau uwch. Dylech ystyried diffodd eich cyfleuster crwydro symudol pan fyddwch chi dramor er mwyn helpu i osgoi unrhyw sioc biliau. I gael rhagor o fanylion am sut mae defnyddio’r apiau hyn yn ddiogel dramor, darllenwch ein canllaw ar grwydro symudol.

Mae llawer o apiau, rhai rhad ac am ddim a rhai y talwyd amdanynt, yn cynnig opsiynau ychwanegol dewisol am gost.  Gelwir hyn yn ‘brynu pethau mewn apiau’. Er enghraifft, efallai fod rhaid i chi brynu rhywbeth mewn ap er mwyn parhau i chwarae gêm ar ôl lefel benodol, neu i gyflymu’r gêm.
Gall y nodwedd prynu pethau mewn apiau beri pryder i rieni, oherwydd gall plant sy’n defnyddio’r ddyfais fynd i gostau mawr heb yn wybod i’w rhieni. Os hoffech chi reoli’r gallu i brynu pethau mewn apiau, gallwch ddefnyddio nifer o offer sydd ar gael yn y prif siopau apiau. Er enghraifft, mae rhai systemau gweithredu’n eich galluogi i ofyn am god cyfrin cyn prynu neu lawrlwytho unrhyw beth.

Mae rhai ffonau symudol yn gadael i chi ddiffodd y nodwedd prynu pethau mewn apiau yn gyfan gwbl.

Sawl ap sydd gennych chi ar eich dyfais nad ydych chi’n eu defnyddio mewn gwirionedd? Yn ôl ein hymchwil, nid yw bron hanner yr apiau sy’n cael eu lawrlwytho yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.

Gall llenwi eich dyfais ag apiau di-ri effeithio ar ei pherfformiad. Yn ogystal â chymryd lle, mae rhai apiau’n rhedeg yn y cefndir drwy’r amser ac fe all hyn arafu eich dyfais a llyncu’r batri. Ewch drwy eich apiau a chael gwared ar unrhyw rai nad ydych chi’n eu defnyddio mwyach.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n diweddaru’r apiau rydych chi’n eu defnyddio’n rheolaidd - fe allai hyn ddatrys unrhyw broblemau o ran diogelwch neu berfformiad.

Os ydych chi’n penderfynu rhoi, ailwerthu neu ailgylchu hen ffôn, cofiwch ddileu unrhyw ddata ac apiau sydd arno yn gyntaf. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, gall unrhyw un sy’n berchen arno ar eich ôl gael mynediad atynt. Fe ddylai fod opsiwn ailosod ffatri yng ngosodiadau eich dyfais hefyd, er na fydd hyn o reidrwydd yn dileu eich gwybodaeth bersonol i gyd.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig