Mae Ofcom wedi mabwysiadu’n ffurfiol y cyfrifoldeb dros reoleiddio gwasanaethau cyfradd premiwm (PRS), a oedd yn arfer cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn (PSA).
Hyd yma, roedd Ofcom a’r PSA yn gweithio gyda’i gilydd i oruchwylio’r farchnad PRS. Y PSA oedd yn gyfrifol am reoleiddio o ddydd i ddydd, ac Ofcom yn goruchwylio’n gyffredinol i sicrhau bod y sector yn cael ei reoleiddio’n effeithiol.
Mae’r trosglwyddiad heddiw yn dilyn cyfnod lle rydyn ni wedi gweithio gyda’r PSA i sicrhau bod cyfrifoldebau rheoleiddio’n cael eu trosglwyddo’n ddidrafferth.
Beth yw gwasanaethau cyfradd premiwm?
Gall pobl gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau rhyngweithiol drwy eu ffonau cartref a symudol, cyfrifiaduron a setiau teledu digidol. Pan fyddant yn talu am y gwasanaethau hyn drwy eu bil ffôn, maen nhw’n cael eu galw’n wasanaethau ‘talu dros y ffôn’ neu ‘wasanaethau cyfradd premiwm'.
Mae’r gwasanaethau hyn yn gallu cynnwys rhoddion i elusennau drwy negeseuon testun, ffrydio cerddoriaeth, cystadlaethau ar ddarllediadau, ymholiadau rhifau ffôn, pleidleisio ar sioeau talent ar y teledu a phrynu mewn apiau.
Beth mae newyddion heddiw yn ei olygu i ddefnyddwyr?
Wrth i ni ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn, rydyn ni’n cyflwyno ein set ein hunain o reolau o dan y Ddeddf Cyfathrebiadau.
Yn hollbwysig, ychydig iawn o newid fydd i ddefnyddwyr o dan y system newydd, gan gynnwys:
- safonau diogelu defnyddwyr ac, yn benodol, gofynion sy’n ymwneud â thryloywder, tegwch, gofal cwsmeriaid, defnyddwyr bregus ac atal niwed a thramgwydd;
- safonau sefydliadol ac, yn benodol, gofynion sy’n ymwneud â chofrestru, diwydrwydd dyladwy, ac asesiadau risg a systemau; a
- chyfrifoldebau a rhwymedigaethau eraill, gan gynnwys cyllid, gofynion gwybodaeth a chadw cofnodion.