Strategaeth symudol

Cyhoeddwyd: 11 Mai 2021
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r cylch gorchwyl ar gyfer adolygiad strategol Ofcom o'i hymagwedd at farchnadoedd sy'n cyflwyno gwasanaethau symudol.

Diben yr adolygiad hwn yw sicrhau bod marchnadoedd sy'n cyflwyno gwasanaethau symudol yn gweithio'n dda i bobl a busnesau dros y pump i 10 mlynedd nesaf, wrth i dechnolegau ddatblygu ac i'r farchnad newid.

Bydd yr adolygiad yn ystyried sut mae defnydd pobl a busnesau o wasanaethau symudol yn debygol o esblygu, gan gynnwys pa newidiadau newydd a allai fod yn bosib o ganlyniad i newidiadau yn y dechnoleg. Bydd yn ymdrin â sut y gallai'r gadwyn werth newid (yn fertigol ac yn llorweddol) ac effaith bosib y newidiadau hynny. Bydd yr adolygiad yn ystyried a oes unrhyw rwystrau a allai atal y farchnad rhag cyflwyno deilliannau da dros y blynyddoedd nesaf, a pha un a allai fod angen diwygio unrhyw reoleiddio sydd eisoes yn bodoli i helpu sicrhau cyflwyniad y deilliannau hynny.

Rydym yn bwriadu llunio barn gyfannol am sut mae'r farchnad symudol yn gweithredu a'r ffordd orau i Ofcom gyfrannu at gyflwyno deilliannau da ar gyfer pobl a busnesau.

Bydd o leiaf dau brif gam i'r adolygiad. Bydd y cam cyntaf yn canolbwyntio ar gywain tystiolaeth a deall defnydd pobl a busnesau o gysylltedd digidol, yr effaith y mae newidiadau i'r gadwyn werth symudol yn ei chael ar y farchnad ac i ba raddau y mae'r farchnad yn debygol o gyflwyno deilliannau da. Bydd yr ail gam yn dod i gasgliadau cychwynnol ac yn amlinellu unrhyw gamau nesaf.

Rydym yn rhagweld cwblhau cam cyntaf yr adolygiad a chyhoeddi papur trafod i gywain barn rhanddeiliaid yn Ch3 2021/22, a'r ail gam yn Ch1 2022/23.

Strategaeth symudol – Cylch gorchwyl (PDF, 203.4 KB) (Saesneg yn unig)

Yn ôl i'r brig