Ffôn sydd ar goll neu wedi’i ddwyn

Cyhoeddwyd: 22 Ionawr 2024

Byddai llawer ohonom ar goll heb ein ffôn symudol.

Yn anffodus, mae miloedd o ffonau’n mynd ar goll bob blwyddyn a bydd llawer ohonynt wedi cael eu dwyn.

Os byddwch yn colli eich ffôn, fe allech chi wynebu problem fwy na dim ond gorfod cael ffôn newydd yn ei le.

Mae nifer o ffonau clyfar yn werth cannoedd o bunnoedd ac mae lladron hefyd yn gallu defnyddio ffonau symudol mewn ffordd sy’n arwain yn gyflym at filiau enfawr.

Efallai y byddwch chi’n atebol am yr holl gostau sydd wedi cronni ar eich ffôn hyd nes byddwch chi’n rhoi gwybod i’ch darparwr ei fod ar goll neu wedi’i ddwyn. Cysylltwch â’ch darparwr cyn gynted â phosib er mwyn osgoi wynebu costau uchel oherwydd bod rhywun wedi’i ddefnyddio heb awdurdod.

Os bydd eich ffôn ar goll a chithau gyda Three, Virgin Mobile, Vodafone, EE neu O2, dim ond hyd at uchafswm o £100 y dylech chi orfod ei dalu am unrhyw ddefnydd heb ei awdurdodi y tu hwnt i’ch lwfans - os byddwch chi’n rhoi gwybod iddyn nhw bod eich ffôn ar goll o fewn 24 awr.

Os ydych chi gyda Vodafone ac nad ydych chi’n rhoi gwybod o fewn 24 awr ond rydych chi’n rhoi gwybod bod eich ffôn ar goll o fewn pum diwrnod, dim ond hyd at £500 y dylech chi orfod ei dalu am ddefnydd heb awdurdod y tu hwnt i’ch lwfans.

Dylech drin eich ffôn yr un mor ofalus ag y byddech chi’n trin eich cardiau banc neu gardiau credyd.

Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio eich ffôn mewn lle cyhoeddus a chadwch ef gyda chi bob amser. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cod cyfrin ar eich ffôn a’ch SIM i’w gwneud hi’n fwy anodd i ladron eu defnyddio.

Dilynwch y camau hyn i gadw eich ffôn yn ddiogel ac i atal rhywun rhag ei ddefnyddio heb awdurdod:

  • Cadwch gofnod o rif IMEI eich ffôn yn ogystal â’r gwneuthuriad a rhif y model. Mae’r rhif IMEI yn rhif cyfresol 15 digid unigryw y bydd ei angen arnoch er mwyn rhoi bloc ar eich ffôn. Gallwch weld eich rhif IMEI drwy roi *#06# yn eich ffôn neu drwy edrych y tu ôl i fatri eich ffôn.
  • Dylech ystyried gwahardd galwadau i rifau cyfradd ryngwladol a phremiwm er mwyn gwneud eich ffôn yn llai defnyddiol i ladron.
  • Efallai y bydd rhai polisïau yswiriant ffonau symudol yn rhoi rhywfaint o warchodaeth am ddefnydd heb awdurdod, felly edrychwch ar delerau ac amodau eich polisi presennol, neu wrth ystyried polisi newydd.
  • Lawrlwythwch ap sy’n gallu tracio eich ffôn os bydd ar goll neu wedi’i ddwyn, neu sy’n gallu dileu manylion o bell.
  • Cofrestrwch eich ffôn gyda Immobilise, cronfa ddata sy’n helpu’r heddlu i ganfod perchenogion eiddo, fel ffonau, y maent yn ei ddarganfod.

Mae canllaw Ofcom ar gadw eich ffôn clyfar yn ddiogel yn rhoi cyngor defnyddiol i chi ar sut gallwch chi ddiogelu eich hun rhag troseddau ffôn.

  • Cysylltwch â’ch darparwr cyn gynted â phosib, yn ddelfrydol o fewn 24 awr.
  • Gallant rwystro eich SIM er mwyn atal galwadau rhag cael eu gwneud ar eich cyfrif a hefyd gallant atal rhywun arall rhag defnyddio eich ffôn drwy flocio ei IMEI.
  • Os oes gennych chi yswiriant ffôn symudol, rhowch wybod i’ch yswiriwr cyn gynted â phosib.
  • Os yw findmyiphone/Android Device Manager yn gweithredu ar eich ffôn, mae’n bosib y gallwch chi leoli eich ffôn a dileu’r cynnwys o bell.
DarparwyrGalw o'r DUGalw o dramor
3333 (ffôn Three)
0333 338 1001 (unrhyw ffôn arall)
+44 7782 333 333
EE07953 966 250+44 7953 966 250
Orange (adrodd ar-lein drwy linell gwasanaethau cwsmeriaid EE )07973 100 150 (talu pob mis) 07973 100 450 (PAYG)+44 7973 100 150 (talu pob mis) +44 7973 100 450 (PAYG)
O20344 809 0202  (talu pob mis)
0344 809 0222 (PAYG)
+44 344 809 0202 (talu ppob mis)
+44 344 809 0222 (PAYG)
T-Mobile0845 412 5000+44 7953 966 150
Vodafone03333 040191 +44 7836 191 191
Tesco Mobile4455 (ffônTesco Mobile)
0345 301 4455 (unrhyw ffôn arall)
+44 345 301 4455
Virgin Mobile789 (ffôn Virgin Media)
0345 6000 789 (unrhyw ffôn arall)
+44 7458 333 789
Yn ôl i'r brig