I gael gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o ddefnyddio ffonau symudol, fe sefydlon ni banel o ddefnyddwyr ffonau symudol a lwythodd ap i lawr i'w ffôn symudol Android. Mae’r ap yn casglu gwybodaeth am y ffordd y maent yn defnyddio’u dyfais, yn mesur perfformiad gwasanaethau’r ap a ddefnyddir, ac yn gofyn i’r defnyddiwr am eu barn am ansawdd y cysylltiad. Mae hyn yn ein galluogi i gael gwybod rhagor am brofiad defnyddwyr o ddefnyddio ffonau symudol a sut mae hyn yn amrywio yn ôl nifer o ffactorau gan gynnwys lleoliad daearyddol, technoleg y rhwydwaith, yr amser o'r dydd, y rhaglenni a’r rhwydwaith symudol a ddefnyddir.
- Dri chwarter yr amser, roedd cysylltiadau data yn cael eu gwneud i rwydwaith wi-fi yn hytrach nag i rwydwaith cellog. Am 75% o'r amser roedd defnyddwyr Android â mynediad i dechnoleg symudol 4G yn defnyddio apiau, roeddynt wedi’u cysylltu i wi-fi. Doedd dim gwahaniaethau sylweddol yn y mesur hwn yn ôl ardal wledig/drefol na gwlad. Roedd defnyddwyr ar rwydweithiau symudol Three ac EE yn treulio cryn dipyn yn llai o amser ar wi-fi na’r rheini ar rwydweithiau symudol 02 neu Vodafone.
- Wrth gael mynediad i rwydwaith cellog, roedd rhwydwaith 4G ar gael ar gyfer defnyddio data am dros 80% o’r amser. Pan oedd defnyddwyr yn defnyddio rhaglen ddata ar rwydwaith symudol, roedd 81% o’r amser hwn yn cael ei dreulio ar rwydwaith 4G, gyda defnyddwyr mewn ardaloedd trefol yn treulio cryn dipyn yn fwy o amser na’r rheini mewn ardaloedd gwledig ar rwydweithiau 4G (83% o’i gymharu â 73%).
- Roedd rhai amrywiadau yn ôl rhwydwaith symudol yn yr amser roedd defnyddwyr yn ei dreulio wedi’u cysylltu i dechnolegau symudol gwahanol. Roedd defnyddwyr ar rwydwaith symudol Three wedi’u cysylltu i 4G am 66% o'r amser, tra oedd defnyddwyr ar rwydwaith symudol EE wedi'u cysylltu i 4G am 92% o’r amser.
- Roedd cysylltiadau data 3G ryw bum gwaith mor debygol o fethu â chysylltiadau data 4G. Roedd defnyddwyr â mynediad i dechnoleg symudol 4G yn gallu cysylltu’n llwyddiannus i rwydwaith 4G ar 98.7% o achlysuron pan wnaethant geisio gwneud hynny. Ond, roedd y gyfradd cysylltu’n llwyddiannus gryn dipyn yn is pan oeddynt yn ceisio defnyddio rhwydwaith 3G (93.1% o achlysuron).
- Roedd cysylltiadau data yn fwy tebygol o fethu yn ystod cyfnodau brig. Roedd cydberthynas gref rhwng nifer y profion cysylltu data fesul awr a chanran y profion a fethodd, ar gyfer defnyddwyr wedi’u cysylltu i rwydweithiau 3G a 4G, gyda chanran y profion a fethodd yn uwch ar rwydweithiau 3G. Ar gyfnodau brig, unwaith iddynt gael eu cychwyn, roedd y gyfradd fethiant ar gyfartaledd ar gyfer cysylltiadau data 4G yn 1.5% ac yn 7.2% ar gyfer cysylltiadau 3G.
- Roedd y cyflymder llwytho i lawr cyfartalog a sicrhawyd yn amrywio’n sylweddol yn ôl rhaglen. Roedd cyflymder cyfartalog cysylltiadau i Chrome, Facebook, Gmail, Twitter a WhatsApp i gyd yn llai na 1Mbit yr eiliad, pa un a oedd y cysylltiad drwy wi-fi, 4G neu 3G. Roedd cysylltiadau YouTube a Google Play Store rhwng 2.7Mbit yr eiliad a 2.9Mbit yr eiliad dros wi-fi a 4G, gyda chysylltiadau 3G gryn dipyn yn arafach. Mae'r cyflymderau cyfartalog hyn i gyd yn ddigon i roi profiad boddhaol i ddefnyddwyr; er enghraifft, y cyflymder sy’n ofynnol i gael yr ansawdd fideo sylfaenol ar YouTube ydy 0.7Mbit yr eiliad sy’n codi i 2.5Mbit yr eiliad ar gyfer eglurder fideo HD 720p.
- Roedd rhai amrywiadau mewn cyflymder yn ôl rhwydwaith symudol. Ar gyfer YouTube a Chrome, roedd y cyflymderau llwytho i lawr cyfartalog (3G a 4G gyda’i gilydd) ar rwydwaith symudol O2 yn sylweddol is nag ar y tri rhwydwaith arall.
- Cafwyd rhai arwyddion o gyflymder yn arafu yn ystod cyfnodau brig. Roedd cydberthynas rhwng nifer y profion a chyflymder llwytho i lawr cyfartalog cysylltiadau data 4G ar gyfer Chrome a YouTube, gyda’r cyflymderau’n arafu yn ystod yr oriau brig. Roedd y cyflymder cyfartalog 28% yn uwch yn ystod yr oriau tawel ar gyfer Chrome, a 34% yn uwch ar gyfer YouTube.
- Unwaith iddynt gael eu cychwyn, roedd llai nag 1% o alwadau llais yn cael eu terfynu yn sgil colli gwasanaeth. Nid oedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl ardal wledig/drefol na gwlad.
- Roedd mwy nag wyth o bob deg o ddefnyddwyr ffonau clyfar Android (84%) yn fodlon â pherfformiad cyffredinol rhwydwaith eu darparwr symudol. Roedd defnyddwyr trefol yn fwy bodlon na defnyddwyr gwledig (86% o’i gymharu â 73%), tra oedd defnyddwyr yn Lloegr yn fwy bodlon na’r rheini yn y gwledydd eraill.
- Pori ar we oedd y gweithgarwch pwysicaf yr oedd pobl yn defnyddio’u ffôn ar ei gyfer, yn cael ei ddilyn gan alwadau llais. At ei gilydd, dywedodd 92% o ddefnyddwyr Android fod pori ar we yn ‘eithriadol o bwysig’ neu’n ‘bwysig iawn’, gyda thri chwarter yn dweud yr un peth am alwadau llais.
Mae'r ymchwil hwn yn rhan o raglen waith ehangach gan Ofcom i ymchwilio ac i ddarparu gwybodaeth am ansawdd ffonau symudol. Mae'r data yn yr adroddiad hwn, sydd ar gael yn Gymraeg, yn berthnasol i berfformiad pan mae'r darpariaeth rhwydwaith ar gael wrth ddarparwr. Fodd bynnag, y penderfynwr pwysicaf o brofiad y defnyddiwr yw argaeledd y signal symudol a'i ansawdd. Mae gwiriwr band eang a symudol Ofcom, sydd ar gael yn Gymraeg, yn darparu gwybodaeth fanwl am ddarpariaeth symudol o'r 4 gweithredwr symudol mwyaf ar draws y DU.
Adroddiad 2018
Y profiad defnyddwyr symudol: Methodoleg Technegol yn Saesneg (PDF, 250.5 KB)
Y profiad defnyddwyr symudol: Methodoleg Ystadegol yn Saesneg (PDF, 205.9 KB)