Elderly lady with a concerned look listening to a call on her home telephone

Amddiffyn cwsmeriaid wrth symud i linellau tir digidol

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 23 Ionawr 2024

Bydd y dechnoleg a ddefnyddiwn ar hyn o bryd i wneud galwadau ffôn llinell dir yn cael ei diffodd dros y blynyddoedd nesaf.

Yn draddodiadol, mae galwadau ffôn llinell dir wedi'u darparu dros rwydwaith sydd wedi'i adwaen fel y Rhwydwaith Cyfnewidfeydd Ffôn Cyhoeddus (PSTN). Mae'r rwydwaith hwn yn hen ac yn mynd yn fwyfwy anodd a drud i'w gynnal a chadw, felly mae cwmnïau telathrebu wedi penderfynu bod angen iddo gael ei newid. Mae'r newid yn digwydd ar draws y byd a bydd yn sicrhau ein bod ni'n parhau i gael gwasanaethau ffôn cartref dibynadwy.

Bu rhai pryderon ynghylch sut y gallai’r broses hon effeithio ar gwsmeriaid – yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed.

Rydym wedi bod yn glir gyda darparwyr telathrebu bod yn rhaid iddynt darfu cyn lleied â phosibl ar gwsmeriaid a nodi, amddiffyn a chefnogi'r rhai sy'n agored i niwed yn ystod y broses o symud o linellau tir analog i ddigidol. Rydym wedi bod yn cadw llygad barcud ar gynnydd, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau i’r diwydiant a chamu i’r adwy i atgoffa cwmnïau o’u rhwymedigaethau. Yn fwyaf diweddar, gwnaethom ofyn am sicrwydd pendant gan gwmnïau fis diwethaf ynghylch sut y byddant yn cefnogi pobl sy'n dibynnu ar larymau teleofal.

Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda diwydiant ar y mater hwn. Ni fyddwn yn oedi cyn lansio camau gorfodi yn erbyn unrhyw ddarparwr sy'n methu â chyflawni ei rwymedigaethau i gwsmeriaid.

Y camau rydym wedi'u cymryd i helpu amddiffyn defnyddwyr

Rydym wedi cymryd camau i helpu sicrhau bod cwsmeriaid yn wynebu cyn lleied o aflonyddwch â phosibl a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.

  • Gwnaethom gyhoeddi canllawiau ar ddiogelu mynediad cwsmeriaid at wasanaethau brys yn ystod toriad trydan. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddarparu o leiaf awr o gydnerthedd trydan i ddefnyddwyr pe bai toriad yn y cyflenwad. Os oes angen i ddefnyddwyr ddefnyddio eu llinell dir i ffonio'r gwasanaethau brys, rhaid darparu hwn yn rhad ac am ddim.
  • Rydym wedi nodi ein disgwyliadau o ddarparwyr gwasanaethau cyfathrebu mewn perthynas â phontio o PSTN. Roedd hwn yn nodi sut y dylent gefnogi ac amddiffyn cwsmeriaid, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed, ac yn cynnwys darpariaethau penodol ar gyfer cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis dyfeisiau teleofal.
  • Gwnaethom gyhoeddi egwyddorion arfer gorau ar gyfer y broses uwchraddio gyda gofynion manwl, gan gynnwys cymorth i gwsmeriaid agored i niwed, a batri wrth gefn.
  • Rydym wedi darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr ar ein gwefan, sy'n cael ei diweddaru'n barhaus.

Darpariaeth ehangach ar gyfer cwsmeriaid agored i niwed

At hynny, mae amddiffyn cwsmeriaid agored i niwed yn flaenoriaeth i Ofcom. Felly, mae ein disgwyliadau ar gyfer darparwyr mewn perthynas â chwsmeriaid agored i niwed hefyd yn berthnasol i ddiffodd PSTN. Mae'r rheolau ar gyfer darparwyr yn ei gwneud hi'n ofynnol iddynt 'sefydlu, cyhoeddi a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau clir ac effeithiol er mwyn trin cwsmeriaid y gallai eu hamgylchiadau eu gwneud yn agored i niwed mewn modd teg a phriodol’.

Bu i ni gyhoeddi ein canllaw Trin Cwsmeriaid Agored i Niwed yn Deg yn 2020 hefyd, a’i ddiweddaru ym mis Medi 2022. Mae’r canllaw hwn yn awgrymu mesurau y gall darparwyr telathrebu eu mabwysiadu i sicrhau eu bod yn trin cwsmeriaid agored i niwed yn deg, ac mae’r disgwyliadau hyn hefyd yn berthnasol i’r broses diffodd PSTN.

Monitro ac adrodd ar gynnydd

Yn ogystal â gosod safonau, ers 2019 rydym wedi monitro cynnydd darparwyr o ran newid i PSTN yn agos. Rydym yn casglu data gan bob darparwr ac yn cwrdd â phob un ohonynt bob chwarter i drafod eu cynnydd.

Yn ôl i'r brig