Perfformiad band eang cartref y DU, cyfnod mesur Mawrth 2021
Mae cysylltedd band eang dibynadwy o ansawdd da yn rhan hanfodol o fywyd i'r rhan fwyaf o bobl yn y DU. Mae'r defnydd cynyddol o weithgareddau sy'n llyncu data fel ffrydio fideo, a lefelau uwch o weithio a dysgu gartref yn ystod y pandemig Covid-19, yn golygu na fu'r angen erioed wedi bod yn fwy.
Mae ein Hadroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu 2021 yn dangos bod 86% o aelwydydd y DU yn cymryd band eang cartref sefydlog. Er mwyn deall sut mae'r gwasanaethau hyn yn perfformio, bu i ni gomisiynu SamKnows i sefydlu panel o bobl a gysylltodd uned fonitro â'u llwybrydd band eang. Mae data gan y panel hwn, ynghyd â rhywfaint o ddata gan ddarparwyr band eang, yn ein galluogi i fesur perfformiad gwasanaethau band eang yn y cartref ac asesu sut maent yn amrywio yn ôl technoleg, pecyn, lleoliad ac amser o'r dydd.
Dogfennau cefnogol
Perfformiad Band Eang Cartref y DU – Trosolwg (PDF, 910.4 KB)
Perfformiad Band Eang Cartref – Atodiadau (cyhoeddwyd Medi 2021) (PDF, 397.2 KB) (Saesneg yn unig)
Perfformiad Band Eang Cartref – Data mewn siartiau (cyhoeddwyd Medi 2021) (CSV, 24.3 KB) (Saesneg yn unig)
Data gan banelwyr band eang cartref (data Mawrth 2021) (CSV, 2.2 MB) (Saesneg yn unig)