Dyma'r ail ddiweddariad dros dros i'n hadroddiad Cysylltu'r Gwledydd 2023. Mae'n seiliedig ar ddarpariaeth symudol ar draws y DU ym mis Ebrill 2023 ac argaeledd band eang sefydlog ym mis Mai 2023.
Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Haf 2023 (PDF, 306.7 KB)
Rydym hefyd wedi cyhoeddi fersiwn rhyngweithiol o'r adroddiad.
Lawrlwytho'r data
Rydym wedi darparu rhan o'r data sy'n sail i'r adroddiad Cysylltu'r Gwledydd i'w lawrlwytho.
O'r diweddariad hwn ymlaen, byddwn yn darparu dwy ffeil data agored newydd sy'n cynnwys data darpariaeth sefydlog a symudol ar gyfer y Deyrnas Unedig a'r Gwledydd. Mae'r ffeiliau'n cynnwys detholiadau o'r adroddiad rhyngweithiol mewn fformat sy'n haws ei ddefnyddio.
Gweler ein telerau defnyddio ar gyfer ein hamodau trwydded. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar y data rydym wedi'i ddarparu, gyrrwch e-bost i open.data@ofcom.org.uk.
Noder bod y ffeiliau data isod yn Saesneg.
*Gwnaethom gyflwyno ffeiliau darpariaeth symudol mewn fformat newydd (gyda 5G) ar gyfer diweddariad Gwanwyn 2023. Byddwn yn parhau i ddarparu'r ddau fersiwn tan adroddiad Cysylltu'r Gwledydd 2023.