Dyma'r diweddariad dros dro cyntaf i'n hadroddiad Cysylltu'r Gwledydd 2022. Mae'n seiliedig ar argaeledd darpariaeth symudol a band eang sefydlog ar draws y DU ym mis Ionawr 2023.
Rydym hefyd yn cynnwys diweddariad ar ddarpariaeth i fusnesau bach a chanolig, y gwnaeth adrodd arni ddiwethaf ym mis Ionawr 2021.
Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gwanwyn 2023 (PDF, 370.0 KB)
Rydym wedi cyhoeddi fersiwn ryngweithiol o'r adroddiad hefyd.
Lawrlwytho'r data
Rydym wedi darparu rhywfaint o'r data y mae'r adroddiad Cysylltu'r Gwledydd yn seiliedig arno i'w lawrlwytho. Casglwyd y data hyn hyd at fis Ionawr 2023.
Gweler ein telerau defnyddio ar gyfer ein hamodau trwydded. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar y data rydym wedi'i ddarparu, gyrrwch e-bost i open.data@ofcom.org.uk
Mae'r data isod ar gael yn Saesneg.
*Darperir y fersiynau hŷn o'r ffeiliau hyn (heb 5G ar gyfer y diweddariad hwn yn unig, i alluogi dadansoddi gyda diweddariadau blaenorol. Yn y dyfodol, byddwn ond yn darparu'r ffeiliau hyn yn y fformat newydd (gyda 5G).