Mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol wedi dechrau, neu'n paratoi i ddechrau, diffodd eu rhwydweithiau 3G. Wrth iddynt wneud hynny, rydym yn amcangyfrif – ar ben 'mannau digyswllt' presennol – y gallai nifer fach o safleoedd golli mynediad i wasanaeth symudol dibynadwy 3G-yn-unig dan do.
Rydym wedi cyhoeddi rhestr o godau post (isod) a allai gael eu heffeithio unwaith y bydd Vodafone, EE a Three yn diffodd eu rhwydweithiau yn 2024, am ei fod yn bosib na fydd modd bellach i ddyfeisiau 3G yn unig yn yr ardaloedd hynny gysylltu â rhwydwaith symudol 3G. Yn 2025, bydd VM02 yn diffodd ei rwydwaith 3G hefyd.
Diben y data hwn yw helpu darparwyr gwasanaethau (yn enwedig teleofal) i adnabod unrhyw gwsmeriaid a allai golli cysylltedd 3G. Ar gyfer teleofal, gallai colli’r ddarpariaeth 3G hon effeithio ar tua 1-2% o nifer fach o ddyfeisiau sy’n dibynnu ar SIMs crwydro 3G-yn-unig, a gyflenwyd gan ddarparwyr y tu allan i’r DU. Nid yw'r data'n berthnasol i ddyfeisiau 3G a all hefyd gysylltu dros rwydweithiau 2G neu 4G.
Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer y broses ddiffodd hon, rydym hefyd wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer cyflenwyr dyfeisiau Rhyngrwyd Pethau a thrydydd parti i gefnogi gwaith gweithredwyr symudol ac fel y nodir yn ein dogfen Diffodd 3G a 2G: Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr symudol.
- Mae'r rhestr a gyhoeddwyd o godau post yn seiliedig ar ragfynegiadau gweithredwyr rhwydweithiau symudol o'u darpariaeth 3G awyr agored, ac rydym wedi cymhwyso ystod o ragdybiaethau ychwanegol ar golledion i'r signal er mwyn helpu i ragfynegi cryfder tebygol y signal 3G dan do.
- Mae signalau symudol dan do yn amrywio'n aruthrol ar unrhyw safle penodol a rhwng gwahanol adeiladau, ac nid yw darogan derbyniad dan do yn ddibynadwy yn fater hawdd. O ystyried y risgiau penodol sy’n gysylltiedig â theleofal, rydym wedi mabwysiadu ymagwedd fwy ceidwadol at y data darpariaeth na’r hyn a gyhoeddwyd yn Cysylltu'r Gwledydd.
- Nid yw rhai codau post a restrir yn y data yn cynnwys 'adeiladau', fel y'u diffinnir gan Ofcom yn Cysylltu'r Gwledydd.
- Ni ddylid ystyried bod y rhestr yn un derfynol at ddiben adnabod eiddo a fydd yn mynd yn fannau digyswllt 3G unwaith y bydd Vodafone wedi diffodd ei rwydwaith 3G. Yn hytrach, dylid ei defnyddio gyda dangosyddion posibl eraill o golled signal symudol 3G dibynadwy, er mwyn adnabod cwsmeriaid a allai gael eu heffeithio y bydd angen cymorth arnynt i sicrhau parhad gwasanaeth.
- Dim ond i adnabod defnyddwyr presennol dyfeisiau 3G-yn-unig y dylid defnyddio’r data; nid yw'n addas ar gyfer cynllunio at y dyfodol na ddibenion eraill.
- Mae’r data’n arbennig o ddefnyddiol yn achos SIMs crwydro rhwydwaith-3G-yn-unig a gyflenwyd gan weithredwyr rhwydweithiau symudol (MNO) y tu allan i’r DU. Mae’n ategu’r gwaith presennol y mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol y DU yn ei wneud i nodi defnyddwyr trydydd parti eu rhwydweithiau 2G a 3G.
- Bydd angen newid pob SIM 3G-yn-unig cyn i VMO2 ddiffodd ei rwydwaith 3G yn 2025.
Data mannau digyswllt 3G (XLSX, 2.9 MB) (Saesneg yn unig) - data cyfredol
Cyhoeddwyd: 19 Hydref 2023
Data mannau digyswllt 3G (CSV, 3.1 MB) (Saesneg yn unig). Mae'r data hwn a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi cael ei ddisodli gan y ffeil uchod ac wedi'i gadw at ddibenion cyfeirio'n unig.
Cyhoeddwyd 28 Gorffennaf 2023
Data 'mannau digyswllt' arall
Ochr yn ochr â'n Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Haf 2023, gwnaethom gyhoeddi rhestr o godau post lle rydym yn amcangyfrif nad oes modd i rai safleoedd dderbyn signal symudol dibynadwy dan do gan unrhyw weithredwr rhwydwaith symudol. Mae hyn er mwyn helpu darparwyr gwasanaethau cyfathrebu i nodi unrhyw gwsmeriaid sy’n dibynnu ar eu llinell dir, wrth iddynt symud cwsmeriaid i wasanaethau llais digidol newydd.
Mannau digyswllt yn ôl cod post (ZIP, 52.5 KB) (Saesneg yn unig)
Cyhoeddwyd 7 Medi 2023
Rydym yn atgoffa darparwyr o'r arweiniad y gwnaethom ei gyhoeddi yn 2018: mae hwn yn nodi'r camau yr ydym yn disgwyl i ddarparwr eu cymryd i bennu a yw cwsmer yn dibynnu ar ei linell dir ai beidio. Gallai’r data mannau digyswllt hwn helpu gydag un o’r camau hynny.
Nodiadau technegol
- Mae’r data hwn yn seiliedig ar wybodaeth darpariaeth symudol o fis Ebrill 2023.
- Mae'r rhestr yn cynnwys codau post lle rydym wedi barnu na fydd o leiaf un safle o fewn y cod post yn gallu derbyn gwasanaeth llais dibynadwy o unrhyw rwydwaith symudol.
- O ystyried y tybiaethau sydd eu hangen i amcangyfrif darpariaeth dan do, a mapio data darpariaeth symudol ddaearyddol i ardaloedd cod post y DU, mae'n bosibl y bydd safleoedd mewn codau post eraill na allant dderbyn gwasanaeth llais dibynadwy.
- Ar y llaw arall, efallai y bydd safleoedd yn y codau post yr ydym wedi'u rhestru a all dderbyn gwasanaeth llais dibynadwy.
- Felly, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y rhestr yn un pendant at ddibenion nodi eiddo sy'n dibynnu ar linell dir.
Byddwn yn diweddaru'r rhestr o bryd i'w gilydd ac o leiaf unwaith y flwyddyn.