Close-up of a fibre cable

Miliynau yn rhagor o gartrefi yn elwa o fand eang gwell

Cyhoeddwyd: 19 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf: 19 Mai 2023

Gall mwy na 14 miliwn o gartrefi'r DU elwa o gysylltiadau rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy erbyn hyn wrth i dechnoleg ffeibr llawn barhau i gael ei chyflwyno ar garlam.

Mae diweddariad gwanwyn Cysylltu'r Gwledydd Ofcom yn dangos, ym mis Ionawr 2023, y gallai bron i hanner yr aelwydydd (48%) gael band eang ffeibr llawn, sy'n darparu'r rhyngrwyd dros geblau ffeibr optig. Dyma gynnydd o tua 5.5 miliwn o gartrefi ers diweddariad gwanwyn y llynedd.

Bydd ein diweddariad nesaf, sydd i'w gyhoeddi'n ddiweddarach eleni, yn dangos bod y garreg filltir ffeibr lawn 50% wedi'i phasio, gyda'n dadansoddiad diweddaraf yn nodi bod y garreg filltir hon wedi'i tharo ym mis Mawrth.

Gall cysylltiadau ffeibr llawn – ynghyd รข rhwydweithiau cebl wedi'u huwchraddio – ddarparu cyflymder lawrlwytho o un gigabit yr eiliad neu fwy. At ei gilydd mae band eang cyfradd gigabit a ddarperir dros ystod o dechnolegau bellach ar gael i 73% o'r DU (bron i 22 miliwn o gartrefi), i fyny o 66% yr un pryd y llynedd.

Yn ôl i'r brig