Esbonio'r jargon

Cyhoeddwyd: 16 Ionawr 2023

Mae mynd i'r afael â thelathrebu'n gallu bod yn anodd pan fyddwch hefyd yn ceisio rhedeg busnes, ac efallai y byddwch chi'n dod ar draws geiriau, termau ac ymadroddion sy'n anodd eu deall.

Mae ein tudalen esbonio'r jargon yn helpu i egluro beth mae llawer o'r termau hyn yn ei olygu er mwyn i chi wneud dewis gwybodus am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a allai helpu eich busnes.

Tâl cysylltu

Dyma'r tâl neu'r ffi sy'n gysylltiedig â gosod neu ailgysylltu'r llinell(au) ffôn neu geblau ar gyfer band eang ar eich safle.

Diderfyn (lawrlwytho)

Yn cyfeirio at y terfynau ar faint o GB o ddata y gallwch eu lawrlwytho bob mis. Defnyddir 'lawrlwytho diderfyn' i hysbysebu pecynnau band eang sydd heb derfyn defnyddio. Er hynny, bydd cysylltiadau amhenodol a chystadleuol yn aml yn dal i fod yn destun polisi defnydd teg.

'Hyd at'

Yn cyfeirio at y cyflymder lawrlwytho uchaf sy'n bosib o becyn band eang a hysbysebir. Gall eich cyflymder gwirioneddol fod yn wahanol oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys pellter o'r gyfnewidfa agosaf.

Mbit yr eiliad

Uned fesur yw 'Megabit-yr-eiliad' sy'n cyfeirio at ba mor gyflym y mae data'n symud ar draws rhwydwaith. Mae rhif uwch yn golygu cyflymder uwch.

CLI

Mae 'adnabod llinell y galwr' (CLI) yn cyfeirio at wasanaethau sy'n eich galluogi i adnabod rhif neu hunaniaeth y galwr.

IP

'Protocol rhyngrwyd' (IP) yw'r dechnoleg a ddefnyddir i gludo data dros y rhyngrwyd.

IP Statig

Rhif sy'n cael ei neilltuo i gyfrifiadur neu ddyfais ar gyfer cysylltu â'r rhyngrwyd yw cyfeiriad IP. Gellir neilltuo cyfeiriadau IP pryd mae dyfeisiau'n cysylltu â'r rhyngrwyd ac wrth iddynt gysylltu fel bod gwahanol gyfeiriadau'n cael eu defnyddio gan ddyfais ar wahanol adegau.  Mae cyfeiriad IP statig yn un a neilltuir i ddyfais benodol ar sail barhaol. Mae IP statig yn ddefnyddiol i fusnesau gan ei fod yn caniatáu rhedeg gweinyddion a chynnal gwefannau.

NGN

'Rhwydwaith y genhedlaeth nesaf' (NGN), rhwydwaith sy'n defnyddio technoleg IP yn y craidd ac wrth ôl-drosglwyddo data i ddarparu nifer o wasanaethau dros un lwyfan.

M2M

'Mae 'peiriant-i-beiriant' (M2M) yn cyfeirio at gysylltiadau rhwng peiriannau i greu rhwydwaith integredig. Er enghraifft, gellir cymhwyso M2M mewn busnes ar gyfer cynnal a chadw a monitro o bell, adborth amser real, a thracio.

Mae ein tablau isod yn helpu i esbonio'r mathau o wasanaethau y gallwch eu prynu. Mae amrywiaeth eang o gynhyrchion ac atebion wedi'u teilwra eraill ar gael.

Cynhyrchion a gwasanaethau sefydlog

Llinell dir PSTN safonol

Cysylltiad ffôn llinell dir safonol.

ISDN2/2e

Gwasanaeth llais a data sy'n cynnig dwy sianel ffôn a chysylltiadau data cyflymder isel.

ISDN30/30e

Gwasanaeth llais a data sy'n caniatáu rhwng wyth a 30 o gysylltiadau.

Band eang ADSL

Cysylltiad rhyngrwyd safonol a ddarperir dros linell ffôn copr.

Band eang ffeibr

Yn gyffredinol dyma ryngrwyd cyflymach a ddarperir naill ai drwy gebl ffeibr optig i gabinet stryd (a elwir yn 'FTTC'), neu'n uniongyrchol i'r safle (a elwir yn 'FTTP’). Gall cyflymder cysylltiad FTTC gael ei effeithio gan ba mor bell yr ydych o'r gyfnewidfa.

Ffeibr i'r Cabinet

Mae ffeibr i'r cabinet ('FTTC') yn defnyddio ceblau copr i gysylltu o'r cabinet i safle'r defnyddiwr.

Mae FTTC yn defnyddio technoleg llinell tanysgrifwyr digidol cyflym iawn (VDSL) ac yn gyffredinol mae ganddo uchafswm cyflymder lawrlwytho o hyd at 80 Mbit yr eiliad. Fel gydag ADSL, mae'r cyflymder gwirioneddol yn lleihau gyda phellter o'r cabinet, gall tywydd gwael effeithio ar y rhwydwaith ac mae'n agored i ddiffygion.

Ffeibr i'r Safle

Mae Ffeibr i'r Safle ('FTTP') yn defnyddio cysylltiadau o'r gyfnewidfa i'r safle a ddarperir yn gyfan gwbl dros ffeibr optegol. Yn gyffredinol, nid yw'r pellter i'r safle yn effeithio ar y cyflymder a ddarperir. Mae ffeibr llawn yn llai agored i ddiffygion ac nid yw'n cael ei effeithio gan dywydd gwael fel arfer. Yn gyffredinol, gall ddarparu cyflymder uwch na band eang ffeibr i'r cabinet. Cyfeirir ato weithiau fel ffeibr llawn.

Band eang cebl

Cysylltiad rhyngrwyd a ddarperir i'r cartref drwy gebl cyfechelog.

Llinell ar les

Cysylltiad preifat penodedig, cymesur ac anghystadleuol heb ei oruchwylio rhwng dau leoliad a ddefnyddir i gludo llais, fideo a data. Caiff ei ddefnyddio'n aml gan fusnesau ar gyfer cysylltiadau â chanolfannau data ac i'r rhyngrwyd.

Ethernet

Technoleg a ddefnyddir mewn rhwydwaith ardal leol ('LAN') i gysylltu rhwng cyfrifiaduron, cludo gwasanaethau llais neu ddata'n fewnol, ac a all ddarparu cysylltiad penodedig i'r rhyngrwyd.

Ethernet P2P

Technoleg a werthir gan lawer o ddarparwyr busnes, gan gynnig cysylltiadau ffeibr 'pwynt i bwynt' penodedig gyda chyflymder cymesur penodedig. Fe'i defnyddir yn aml gan fusnesau i gysylltu nifer o safleoedd, ac mae modd ei ehangu.

EFM

‘Ethernet yn y filltir gyntaf' (EFM), cysylltiad Ethernet o safle cwsmer i'r rhwydwaith, gan ddefnyddio parau copr. Mae uchafswm capasiti EFM drwy linellau copr wedi'i gyfyngu, o'i gymharu â llinellau Ethernet ar les sy'n defnyddio ffeibr.

Mynediad Ethernet Generig

Gwasanaeth band eang a ddarperir fel arfer dros FTTC (ond gellir ei ddarparu hefyd dros FTTP).

SIP

‘Mae 'Protocol a gychwynnir gan sesiwn' (SIP) yn brotocol sy'n caniatáu i wasanaethau VoIP a ffrydio fideo gael eu darparu dros gysylltiadau band eang. Gall ddisodli gwasanaeth PSTN traddodiadol.

Prif rwydwaith SIP (SIP trunking)

Mae prif rwydwaith SIP yn caniatáu i fusnesau newid eu gwasanaeth teleffoni presennol, yn enwedig llinellau ISDN30. Gall gwasanaethau prif rwydwaith SIP ganiatáu i fusnes ddefnyddio VoIP yn hytrach na gwasanaethau teleffoni traddodiadol trwy gysylltu ei gyfnewidfa gangen breifat (PBX) dros linell Ethernet ar les i ddarparwr gwasanaeth.

Telerau am gysylltiadau

Penodedig

Cedwir cysylltiad penodedig ar gyfer un defnyddiwr trwy'r amser. Mae'n cynnig lled band sefydlog gyda chyflymder a warantir, heb gael ei effeithio ar adegau prysur. Fel arfer maent yn rhan o CLG uwch.

Cymesur

Mae gan gysylltiadau cymesur gyflymderau uwchlwytho a lawrlwytho cyfartal.

Anghystadleuol

Golyga 'anghystadleuol' na chaiff eich cysylltiad uniongyrchol ei rannu â defnyddwyr eraill, gan ganiatáu i chi gyrchu lled band cyfan y llinell i'r gyfnewidfa.

Cynhyrchion a gwasanaethau symudol

Ffôn clyfar

Setiau llaw sy'n cynnig nodweddion mwy soffistigedig, y gallwch gael mynediad i'r rhyngrwyd, gweld e-byst, a lawrlwytho ffeiliau ac apiau yn rhwydd arnynt.

Ffôn symudol safonol

Set llaw gyda galluoedd sylfaenol megis galluogi defnyddwyr i ffonio a gyrru negeseuon testun.

Band eang symudol

Yn galluogi dyfeisiau fel llechi, gliniaduron a ffonau symudol i gysylltu â'r rhyngrwyd.

SIM yn unig

Tariffau lle gwerthir y gwasanaeth ar ei ben ei hun heb set llaw.

PAC

Mae 'cod awdurdodi cludo' (PAC) yn god y mae'n rhaid i ddarparwyr symudol ei roi ar gais sy'n eich galluogi i newid eich gwasanaeth symudol a chadw eich rhif presennol.

Technolegau eraill

VPN

‘Rhwydwaith preifat rhithwir' (VPN), rhwydwaith preifat diogel a grëir gan ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd, i gysylltu nifer o ddefnyddwyr (e.e. cyflogeion cwmni)

Fideo-gynadledda

Gwasanaeth sy'n eich galluogi i ffonio rhywun arall dros ffrwd fideo ar yr un pryd.

Softphone

Darn o feddalwedd sy'n caniatáu i'r defnyddiwr wneud galwadau ffôn dros y rhyngrwyd o gyfrifiadur safonol.

VoIP

‘Llais dros brotocol rhyngrwyd' (VoIP)technoleg sy'n caniatáu i ddefnyddwyr wneud galwadau llais gan ddefnyddio'r rhyngrwyd, naill ai dros gysylltiad sefydlog neu symudol.

Systemau a datrysiadau ffôn

Gellir eu defnyddio i ddarparu cyfathrebiadau a swyddogaethau mewnol neu allanol megis cynadledda i'ch gweithwyr.

Gwasanaethau cwmwl

Mae 'cyfrifiadura cwmwl' yn cyfeirio at wasanaethau a ddarperir ar-alw dros y rhyngrwyd gan ddarparwyr cyfrifiadura cwmwl. Gellir defnyddio gwasanaethau cwmwl i storio ac ategu data a nodweddion o bell, a chaniatáu mynediad atynt ar draws ystod o ddyfeisiau a lleoliadau.

CLG (SLA)

Mae 'cytundebau lefel gwasanaeth' yn rhan o gontractau masnachol ac yn nodi ymrwymiad cyflenwr i ddarparu gwasanaethau yn unol â safon y cytunwyd arni, e.e. o fewn cyfnod penodedig. Efallai y bydd gennych hefyd 'warant lefel gwasanaeth' (GLG) sy'n pennu eich hawl i iawndal os na fodlonir y CLG.

ETC

'Tâl terfynu cynnar' (ETC), tâl a godir ar ddefnyddwyr sy'n dod â'u contract i ben cyn diwedd unrhyw isafswm cyfnod contract (neu isafswm cyfnod contract dilynol). Cyfeirir atynt weithiau fel 'ffioedd terfynu cynnar'.

ARC

'Mae 'contractau sy'n adnewyddu'n awtomatig' (ARC) yn gontractau lle, ar ddiwedd yr isafswm cyfnod contract, boed yn gyfnod cychwynnol neu ddilynol, mae'r contract yn cael ei adnewyddu'n awtomatig i gyfnod contract newydd yn ddiofyn, oni bai bod y cwsmer yn hysbysu eu darparwr yn rhagweithiol nad yw am i hyn ddigwydd. Mae ARC wedi'u gwahardd ar gyfer busnesau sydd â llai na deg o weithwyr.

Isafswm cyfnod contract

Cyfnod amser penodol y mae cwsmer yn ymrwymo i gymryd gwasanaethau gan ddarparwr cyfathrebu. Gellir cyfeirio ato fel 'MCP', 'cyfnod cyflenwi cychwynnol', 'cyfnod ymrwymo', neu 'isafswm tymor'.

Taliadau ychwanegol

Symiau ychwanegol o arian, uwchben y prisiau pennawd, y mae'n rhaid i chi eu talu. Gallai'r rhain fod ar gyfer gwasanaethau ychwanegol neu wasanaethau ansafonol, er enghraifft: biliau wedi'u eitemeiddio'n llawn, taliadau nad ydynt yn ddebyd uniongyrchol, ETC.

Gordaliadau

Ffurf ar dâl ychwanegol yn benodol mewn perthynas ag unrhyw daliadau ychwanegol a godir am beidio â thalu trwy ddull safonol y darparwyr (debyd uniongyrchol fel arfer).

Cyfnod rhybudd

Nifer y dyddiau o rybudd y mae'n rhaid i chi ei roi i'ch darparwr i'w hysbysu eich bod yn bwriadu canslo neu newid eich gwasanaethau.

Openreach

Yr adran o BT sy'n gosod ac yn cynnal cysylltiadau ffôn a band eang. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich darparwr yn cysylltu ag Openreach ar eich rhan chi.

Lletya (telathrebu)

Yn cyfeirio at wasanaethau ffôn a data sy'n cael eu lletya o bell ar safle'r darparwr, gan leihau'r angen am fuddsoddiad cychwynnol a chynnal a chadw ar y safle.

Cyfathrebiadau unedig

Fe'i defnyddir fel arfer i gyfeirio at sefyllfa lle mae busnes yn integreiddio llawer o fathau o gynhyrchion a gwasanaethau cyfathrebu i rwydwaith, gan ganiatáu ar gyfer gweithrediad a rheolaeth unedig, ochr yn ochr â rhyngwyneb cyson i ddefnyddwyr.

Amser ymlaen (Uptime)

Yr amser pan fydd rhwydwaith neu beiriant, e.e. gweinydd neu lwybrydd, yn weithredol.

Slamio

Mae slamio yn ffurf eithafol ar gam-werthu sy'n digwydd pan newidir eich gwasanaethau ffôn/band eang - neu pan wneir ymgais i'w newid - i ddarparwr arall heb eich gwybodaeth a/neu ganiatâd.

ADR

'Datrys anghydfod amgen' (ADR), yw cynlluniau (ar gyfer unigolion a busnesau sydd â llai na deg o weithwyr) sy'n gweithredu fel cyfryngwr annibynnol rhwng y darparwr gwasanaeth a'r cwsmer pan na ellir datrys cwyn gychwynnol.

PostRS

Mae'r gwasanaeth datrys anghydfod post annibynnol yn gorff annibynnol y mai ei rôl yw datrys anghydfodau rhwng gweithredwyr post wedi'u rheoleiddio a'u cwsmeriaid. Mae'n cael ei redeg a'i reoli'n annibynnol gan Centre for Effective Dispute Resolution.

OTS (Newid Un Cam)

Mae Newid Un Cam yn broses newydd y diwydiant a arweinir gan y darparwr caffael ar gyfer newid cwsmeriaid llinell dir a band eang waeth pwy fo'u darparwr, neu beth fo'r dechnoleg neu rwydwaith a ddefnyddir gan eu darparwr. Bydd y broses newydd hon yn disodli'r trefniadau newid darparwr presennol o 3 Ebrill 2023.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig