Cysylltu'r Gwledydd ac adroddiadau seilwaith

Cyhoeddwyd: 19 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 24 Ebrill 2024

Adroddiadau am seilwaith cyfathrebu'r DU, gan gynnwys darpariaeth a pherfformiad band eang sefydlog a rhwydweithiau symudol.

Cysylltu'r Gwledydd

Mae ein hadroddiadau Cysylltu'r Gwledydd yn olrhain esblygiad seilwaith cyfathrebu'r DU, a'n cynnydd tuag at fod yn wledydd sy'n wirioneddol gysylltiedig. Rydym yn cyhoeddi dau ddiweddariad llai bob blwyddyn, sy'n canolbwyntio ar y newidiadau allweddol mewn darpariaeth ers ein hadroddiad diwethaf.

Cysylltu'r Gwledydd 2023

Mae adroddiadau Cysylltu'r Gwledydd 2023 yn tracio cynnydd gwasanaethau sefydlog a symudol yn y DU ac yn crynhoi rôl Ofcom wrth helpu i'w gwella ymhellach.

Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gosodiadau rhwydwaith cynlluniedig 2023

Dyma ein hail adroddiad yn edrych tuag at y dyfodol am osodiadau rhwydwaith cynlluniedig i gefnogi gwasanaethau band eang cyflymder uchel iawn yn y Deyrnas Unedig sydd, ar gyfer pob rhwydwaith sefydlog yr ydym wedi'u harchwilio, i gyd bellach yn seiliedig ar dechnoleg ffeibr llawn.

Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Haf 2023

Mae'r diweddariad dros dro hwn yn rhoi cipolwg ar ddarpariaeth symudol ar draws y DU ym mis Ebrill 2023 ac argaeledd band eang sefydlog ym mis Mai 2023.

Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gwanwyn 2023

Mae'r diweddariad dros dro hwn yn rhoi cipolwg ar ddarpariaeth symudol ar draws y DU ym mis Ionawr 2023.

Mae adroddiad Cysylltu'r Gwledydd Cymru 2022 yn tracio cynnydd mewn gwasanaethau sefydlog a symudol yn y DU ac yn crynhoi'r rôl y mae Ofcom yn ei chwarae wrth helpu i wella nhw ymhellach.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn dilyn cynnydd gwasanaethau sefydlog a symudol y DU ac yn crynhoi'r rhan mae Ofcom yn chwarae i helpu i'w gwella.

Cysylltu'r Gwledydd Cymru 2021

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn olrhain cynnydd gwasanaethau sefydlog a symudol yn y DU ac yn crynhoi'r rôl y mae Ofcom yn ei chwarae wrth helpu gwella nhw ymhellach.

Cysylltu'r Gwledydd 2020

Mae 'r adroddiad blynyddol hwn yn dilyn y cynnydd yng ngwasanaethau symudol a sefydlog Cymru ac yn rhoi crynodeb o waith Ofcom yn helpu eu gwella.

Cysylltu'r Gwledydd Cymru 2019

Mae ein hadroddiad Cysylltu'r Gwledydd 2018 yn bwrw golwg ar y systemau cyfathrebiadau ar draws y DU a'u cenhedloedd. Dyma adroddiad Cymru:

Cysylltu'r Gwledydd: Cymru 2018

Data am 'fannau digyswllt'

O bryd i'w gilydd, rydym yn cyhoeddi data am 'fannau digyswllt': rhestrau o godau post lle yr amcangyfrifwn na all rai safleoedd dderbyn signal symudol dibynadwy dan do gan unrhyw ddarparwr rhwydwaith.

Adroddiadau hŷn

Mae adroddiadau hŷn ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Yn ôl i'r brig