Pecyn dechreuwyr i fusnesau

Cyhoeddwyd: 31 Hydref 2014

Gall dechrau neu redeg busnes fod yn dasg frawychus, ac o ran cyfathrebiadau mae'n bwysig deall y pethau sylfaenol er mwyn eich helpu i lansio eich busnes.

Ni all pawb fod yn arbenigwr ar gysylltedd a chynhyrchion cyfathrebu, felly bydd y pecyn cychwynnol hwn, sydd wedi'i anelu at fusnesau bach gyda deg gweithiwr neu lai, yn eich helpu i gael rhywfaint o ddealltwriaeth gychwynnol.

I gael gwybod mwy, cliciwch ar y dolenni isod.

Gan ddibynnu ar ba fath o fusnes yr ydych, cyn i chi ddechrau bydd angen i chi gynllunio sut y gall cwsmeriaid gysylltu a rhyngweithio â chi. Ydych chi eisiau cymryd galwadau? Oes angen gwefan, cyfeiriad e-bost, neu gyfleusterau archebu ar-lein arnoch?

Bydd angen i chi drefnu contract gyda darparwr cyn i chi fynd ati, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i sefydlu hyn.

Cofiwch: Ni fydd pob darparwr yn caniatáu i chi ddefnyddio tariff preswyl at ddibenion busnes. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gontractau symudol, felly gwiriwch yn ofalus cyn prynu.

Darganfyddwch fanteision gwasanaethau busnes drwy ein tudalen dewis gwasanaeth ac yn ein canllaw ar ffurf ffeithluniau (Saesneg yn unig).

Llinell dir busnes

Mae llinell sefydlog yn gysylltiad â gwifrau rhwng eich safle busnes a'r gyfnewidfa ffôn agosaf, trwy gabinet stryd. Yr enghraifft fwyaf cyffredin yw eich llinell ffôn safonol (llinell dir).

Mae gan lawer o fusnesau linellau tir ac mae llawer o'r rheiny'n wasanaethau llinell dir traddodiadol a ddarperir dros y Rhwydwaith Cyfnewidfeydd Ffôn Cyhoeddus (PSTN).

Mae gan rai busnesau wasanaeth llinell dir hefyd sy'n cael ei ddarparu dros gysylltiad band eang, yn hytrach na'r PSTN traddodiadol, ac fe'i gelwir yn Llais dros Brotocol Rhyngrwyd (neu VoIP).

Os ydych chi'n ystyried newid eich gwasanaethau llinell dir, ystyriwch eich angen i symud i VoIP. Mae'r diwydiant yn symud i ffwrdd o'r PSTN tuag at VoIP. Yn wir mae BT wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ei PSTN erbyn Rhagfyr 2025. Felly, siaradwch â darparwyr ffôn i weld pa atebion y gallan nhw eu cynnig i chi.

Mae rhagor o wybodaeth am symud i VoIP ar gael ar ein gwefan.

Ffôn symudol busnes

Mae ffonau symudol busnes yn gweithredu yn yr un modd yn union â ffonau symudol preswyl. Fodd bynnag, gall fod manteision mewn prisio a thariffau symudol busnes, ac efallai y darperir cefnogaeth ychwanegol fel rhan o gontract.

Mae ffonau symudol yn debygol o fod yn arbennig o bwysig i'ch busnes os nad oes gennych swyddfa sefydlog, neu os oes angen i chi gadw mewn cysylltiad wrth symud. Mae rhai darparwyr yn cynnig cyfleusterau sy'n eich galluogi i godi galwadau o ffôn eich swyddfa ar eich ffôn symudol (ac i'r gwrthwyneb), ac yn darparu rhif llinell dir lleol ar gyfer eich ffôn symudol.

I helpu chi a'ch gweithwyr i gadw'r cysylltiad wrth symud, mae offeryn rhyngweithiol Ofcom yn eich galluogi i ddod o hyd i'r ddarpariaeth symudol a ragfynegir yn gyflym ar gyfer pob un o'r prif weithredwyr symudol (EE, O2, Three a Vodafone) ar gyfnodau o 100m mewn unrhyw god post yn y DU.

Gallwch wirio:

  • Darpariaeth llais a data (gan gynnwys 5G) yn ôl gweithredwr symudol; a
  • darpariaeth y tu mewn a'r tu allan i adeiladau.

Gall yr offeryn hwn eich helpu i gymharu darparwyr cyn i chi ddewis darparwr sy'n diwallu anghenion eich busnes orau ac ymrwymo i gontract.

Byddwch hefyd yn dod o hyd i ragfynegiadau darllediadau symudol ar wefannau darparwyr, a chyngor pellach ar wneud y mwyaf o ddarllediadau symudol dan do yng nghanllaw penodedig Ofcom.

Ffordd o gysylltu â'r rhyngrwyd yw band eang. Mae'n caniatáu i wybodaeth gael ei gludo i'ch cyfrifiadur personol, gliniadur, llechen, ffôn clyfar, teledu clyfar neu ddyfais arall sy'n medru'r rhyngrwyd.

Mae technoleg band eang yr un fath i ddefnyddwyr preswyl ag i fusnesau; er hynny, efallai na fyddwch bob amser yn cael defnyddio pecyn preswyl ar gyfer gweithgarwch busnes.

Beth yw’r gwahanol fathau o fand eang?

Mae gan Ffeibr i'r Safle (FTTP) neu ffeibr llawn geblau ffeibr optig yn syth i'ch safle, ac yn gyffredinol mae'n darparu cyflymder uwch na band eang Ffeibr i'r Cabinet (FTTC).

Mae gan Ffeibr i'r Cabinet (FTTC) geblau ffeibr optig rhwng y gyfnewidfa a chabinet y stryd, ac yna cebl copr i'ch safle busnes. Fel arfer mae'n gallu darparu hyd at 80Mbit yr eiliad.

Mae Band Eang Cebl yn defnyddio ceblau ffeibr optig a chyfechelog i ddarparu gwasanaethau band eang cyflym iawn, yn ogystal â gwasanaethau teledu a ffôn, yn uniongyrchol i gartrefi.

Yn wahanol i ADSL, mae cyflymderau'n tueddu i beidio â diraddio dros bellter. Gall technoleg cebl ddarparu band eang tra chflym.

ADSL (llinell tanysgrifiwr digidol anghymesur) yw'r math mwyaf cyffredin o fand eang, a gyflwynir trwy wifrau copr eich llinell ffôn. Fel arfer mae'n gallu darparu hyd at 24Mbit yr eiliad

Bydd y cyflymder yn amrywio gan ddibynnu ar ba mor bell yr ydych o'ch cyfnewidfa ffôn agosaf, felly os yw'r pecyn yn cynnwys cyflymder 'hyd at', efallai na fyddwch yn cael cyflymder sydd mor gyflym ag sy'n cael ei hysbysebu. Cofiwch ofyn i'r darparwr am wiriad cyflymder i gael syniad o beth mae'r llinell i'ch safle yn gallu ei ddarparu.

Math o fand eang

Cyflymder

Achosion defnyddio

Technolegau band eang sefydlog a all ddarparu'r gwasanaeth hwn

Digonol

10 Mbit yr eiliad lawrlwytho;  
1 Mbit yr eiliad uwchlwytho

Gwneud galwad fideo manylder uchel gan ddefnyddio cymwysiadau fel Zoom, Teams, WhatsApp neu Facetime. Lawrlwytho pennod deledu HD 1 awr (1GB) mewn bron i chwarter awr.

Copr (ADSL)

FTTC (VDSL)

Cebl HFC

Ffeibr Llawn

Cyflym iawn

O leiaf 30 Mbit yr eiliad lawrlwytho

Un person yn ffrydio fideo 4K /UHD. Lawrlwytho pennod deledu HD 1 awr mewn llai na 4 munud a hanner. Sawl dyfais yn gweithio ar yr un pryd.

FTTC (VDSL)

Cebl HFC

Ffeibr Llawn

Gigabit

Cyflymder lawrlwytho o 1 Gbit yr eiliad ac yn uwch

Mae'n bosib lawrlwytho ffilm 4K lawn (100GB) mewn llai na 15munud. Gellir ei ddarparu dros dechnolegau sy'n rhoi mwy o ddibynadwyedd ac sydd wedi'u cynllunio at y dyfodol wrth i wasanaethau galw uwch gael eu datblygu.

Cebl HFC (wrth gael ei uwchraddio i DOCSIS3.1)

Ffeibr Llawn

Pa fath o fand eang ddylwn i ei gael ar gyfer fy musnes?

Mae ffeibr llawn, FTTC a band eang cebl i gyd yn cynnig cyflymder uwch na gwasanaethau ADSL, ond yn gyffredinol maent yn costio ychydig yn fwy.

Bydd yr angen am ffeibr llawn yn dibynnu ar ba fath o fusnes yr ydych, a beth rydych chi eisiau ei wneud gyda'ch gwasanaethau cysylltu a chyfathrebu. Gweler ein blwch ar y dde am esboniad o ofynion defnyddio. Gallwch wirio a yw ffeibr llawn ar gael yn eich ardal chi o wefannau darparwyr wrth nodi eich cod post, neu ar declyn gwirio Ofcom.

Efallai y byddwch hefyd angen gwahanol fathau o gysylltiadau llais a data, a gallwch ddarganfod manteision cyfathrebiadau busnes yn ein canllaw, ac ar ein tudalen esbonio'r jargon.

Wrth i ddarparwyr gyflwyno rhwydweithiau newydd, mewn llawer o achosion bydd gwasanaethau band eang yn y pen draw yn cael eu symud i ffeibr llawn neu wasanaethau gigabit eraill. Siaradwch â darparwyr i weld beth sydd ar gael os ydych am ddiogelu eich gwasanaeth band eang at y dyfodol.

Mae cysylltedd yn gwella trwy'r amser yn y DU, ond i rai busnesau, er enghraifft y rhai sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd gwledig, efallai y bydd cyfyngiadau o hyd ar y gwasanaethau a'r cynhyrchion busnes sydd ar gael.

Gall y rhan fwyaf o safleoedd yn y DU gael band eang FTTC neu ADSL dros y rhwydwaith copr a weithredir gan Openreach (a KCOM yn Kingston upon Hull)

Mae band eang cebl, a ddarperir dros rwydwaith Virgin Media, a band eang FTTP, a ddarperir dros rwydweithiau Openreach a darparwyr amgen ar gael yn gynyddol i safleoedd y DU.

Mae gwasanaethau ffeibr llawn yn cael eu hymestyn i nifer cynyddol o safleoedd busnes; gallwch ddefnyddio'r adnoddau ar ein tudalen dewis gwasanaeth a darparwr i ddarganfod a allwch chi gael nhw.

Waeth p'un a ydych yn fusnes sy'n sefydlu safle newydd neu'n ystyried symud, mae offeryn rhyngweithiol Ofcom yn eich galluogi i wirio argaeledd gwasanaethau band eang gwahanol mewn ardal benodol dim ond drwy nodi cod post.

Yn yr un modd, os ydych am uwchraddio pecyn band eang presennol eich busnes, gallwch wirio a yw gwasanaethau cyflymach ar gael yn lleol.

Os ydych chi neu eich gweithwyr yn teithio'n rheolaidd ac angen cael mynediad i'r we neu anfon negeseuon e-bost wrth symud o gwmpas, mae'r offeryn hefyd yn dangos darpariaeth band eang symudol 3G, 4G a 5G ar gyfer unrhyw god post yn y DU - gweler 'Business Mobile' uchod.

Yn ein hymchwil diweddaraf i fentrau bach a chanolig, dywedodd 94% o fentrau bach a chanolig fod ganddynt gysylltiad rhyngrwyd. Os nad ydych chi neu'ch busnes yn defnyddio'r rhyngrwyd, neu os nad ydych chi'n teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfathrebu digidol, peidiwch â phoeni, mae amrywiaeth eang o ffyrdd gael help, oddi ar-lein ac ar-lein - mae rhai o'r rhain wedi'u rhestru yn ein hadran dolenni defnyddiol.

Gellir cysylltu â nhw gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ac mae gan rai, er enghraifft Cyngor ar Bopeth a'r Siambrau Masnach, swyddfeydd ar draws y DU.

Lle da i ddechrau dysgu am gyfathrebiadau digidol yw ar wefan Doteveryone. Mae ei dudalen we Sgiliau Digidol yn cynnig adnoddau, arweiniad a chyngor defnyddiol, gan gynnwys gwybodaeth am sut i ddefnyddio gwasanaethau cyfathrebu.

Mae'n bwysig hefyd bod defnyddwyr busnes yn gallu gwneud defnydd o wasanaethau cyfathrebu mewn ffordd ddiogel, yn enwedig os ydych chi'n gwneud neu'n caniatáu i'ch cwsmeriaid wneud trafodion ariannol ar-lein. Gallwch ddysgu mwy am fod yn ddiogel ar-lein drwy dudalennau busnes GetSafeOnline, a gwefan Cyber Aware.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig