Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i wirio a gwella eich signal ffôn symudol, waeth p'un a ydych yn ddefnyddiwr neu'n gwsmer busnes.
Defnyddio teclyn gwirio darpariaeth symudol Ofcom
Gallwch ddefnyddio ein teclyn gwirio darpariaeth i wirio darpariaeth symudol dan do ac awyr agored ar gyfer gwasanaethau ffôn, 3G a 4G gan bob prif ddarparwr. Gallwch hefyd wirio argaeledd awyr agored gwasanaethau 5G.
Gallwch gyrchu'r teclyn gwirio trwy borwr rhyngrwyd. Bydd angen i chi nodi cod post, neu ganiatáu i'r teclyn gwirio ganfod eich lleoliad yn awtomatig, i weld y canlyniadau. Mae'r teclyn gwirio'n darparu crynodeb o'r gwasanaethau yn eich ardal ar gip, a byddwch hefyd yn cael yr opsiwn i weld yr ardal rydych wedi'i dewis ar fap rhyngweithiol.
Darperir yr wybodaeth yn y teclyn gwirio gan y gweithredwyr symudol, ac fe'i diwedderir yn rheolaidd. Mae'n seiliedig ar ragfynegiadau o ddarpariaeth a gynhyrchir gan ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol sy'n efelychu'r ffordd y mae signalau symudol yn teithio. Er bod y modelau hyn fel arfer yn gywir, mae'n bosib na fyddant bob amser yn cynrychioli darpariaeth wirioneddol yn y fan a'r lle. Mae Ofcom hefyd yn ymgymryd â'n mesuriadau ein hunain i asesu cywirdeb y data a ddarperir.
Mae rhai darparwyr rhwydwaith symudol hefyd yn cynnig eu teclynnau gwirio darpariaeth eu hunain ar gyfer eu gwasanaethau, y gallwch ddod o hyd iddynt ar-lein. Mae gan bob gweithredwr ddull ychydig yn wahanol o ragfynegi a dangos darpariaeth. Gan fod map Ofcom yn dwyn yr holl ddata hwn ynghyd mewn un lle ac yn ei ddal i un safon annibynnol, mae'n bosib y bydd ein map yn dangos lefelau gwahanol o ddarpariaeth i'r rhai ar wefannau'r darparwyr.
Gwneud y mwyaf o'ch signal symudol
- Mae teclynnau gwirio darpariaeth yn rhoi syniad o'r ddarpariaeth debygol mewn lleoliad sefydlog. Dylech hefyd wirio darpariaeth yn y lleoedd rydych chi'n ymweld â nhw'n rheolaidd, fel eich gweithle neu fannau ar eich taith gymudo.
- Gall lleoliad a nodweddion eiddo effeithio ar signal symudol y tu mewn iddo. Gall waliau trwchus, fframiau ffenestr metel, nenfydau, colofnau, neu ystafelloedd islawr i gyd amharu ar ddarpariaeth. Gall y signal gael ei rwystro hefyd os yw'r eiddo yng 'nghysgod' bryn neu adeilad mawr. Yn yr un modd, gall signalau symudol ddiraddio o fewn cerbyd.
- Yn ogystal â defnyddio teclyn gwirio darpariaeth, siaradwch â phobl rydych chi'n eu hadnabod am eu profiadau o wneud a derbyn galwadau yn eich ardal.
- Gofynnwch i weithredwyr am ansawdd posib y ddarpariaeth. Mae manylion cyswllt darparwyr ar gael ar ddiwedd y canllaw hwn.
- Mae gallu ffonau i godi signal symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eu dyluniad a'r antenâu ynddynt. Os ydych chi'n byw mewn ardal sydd â signal gwael, gallai'r dewis o ffôn symudol effeithio ar eich darpariaeth. Er enghraifft, os oes angen gwasanaeth ffôn a neges destun arnoch yn bennaf, efallai y bydd ffôn mwy sylfaenol yn rhoi darpariaeth well na ffonau clyfar. Gofynnwch am gyngor wrth i chi ddewis ffôn symudol. Mae rhai teclynnau gwirio darpariaeth a gynigir gan ddarparwyr rhwydwaith symudol yn awr yn gadael i chi nodi pa ffôn rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio, fel y gallwch ddarganfod a yw'n debygol o roi gwasanaeth da i chi.
- Gall y signal hefyd gael ei heffeithio gan y ffordd y mae pobl yn dal y ffôn wrth ei ddefnyddio. Rydych yn debygol o gael gwell signal ar gyfer galwadau ffôn os byddwch yn defnyddio'ch ffôn gyda darn clust ar wahân sydd wedi'i gysylltu â'r ffôn dros Bluetooth, yn hytrach na dal y ffôn i fyny i'ch clust.
- Mae rhai darparwyr ffôn symudol hefyd yn cynnig ffordd o wneud galwadau gan ddefnyddio cysylltiad di-wifr. Gall hyn fod yn ateb da os oes gan eich cartref neu weithle ddarpariaeth symudol wael ond cysylltiad di-wifr da. Mae rhai rhwydweithiau yn caniatáu i chi wneud hyn yn awtomatig gan ddefnyddio 'ffonio dros wi-fi', tra bod eraill yn gofyn i chi lwytho ap penodedig. Fodd bynnag, nid yw pob ffôn symudol yn gydnaws â ffonio dros wi-fi. Gwiriwch gyda'r gweithredwr os ydych chi am ei ddefnyddio.
- O dan reoliadau contract defnyddwyr, mae'n bosib y bydd gennych yr hawl i ganslo eich contract yn ddi-dâl o fewn y 14 diwrnod calendr cyntaf o gofrestru. Felly, gwiriwch eich signal symudol yn ystod y 14 diwrnod cyntaf hwn i sicrhau ei fod yn foddhaol – os nad yw, gallwch adael y contract. Mae rhai gweithredwyr yn darparu gwarantau ychwanegol y tu hwnt i'r 14 diwrnod cyntaf – gwiriwch cyn i chi brynu. Gallwch hefyd brofi'r ddarpariaeth gan wahanol ddarparwyr heb gael eich cloi i mewn i gontract hirdymor drwy roi cynnig ar gontract misol SIM yn unig neu dalu-wrth-ddefnyddio.
Os ydych chi'n anfodlon ar eich rhwydwaith symudol, ni fu erioed yn haws newid darparwr.
Gartref
Mae sawl ffordd o wella eich signal symudol yn y cartref gan ddefnyddio cysylltiad band eang.
- Drwy gysylltu eich ffôn â'ch wi-fi byddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaethau data ar eich ffôn (bydd hyn hefyd yn osgoi defnyddio lwfans data misol eich contract ffôn).
- Gallwch wneud a derbyn galwadau ffôn gan ddefnyddio apiau fel WhatsApp, FaceTime a Skype – ond nid yw'r rhain fel arfer yn defnyddio'ch rhif ffôn symudol.
- Mae gweithredwyr hefyd yn cynnig dyfeisiau i'r cartref a all chwyddo signalau symudol (EE Signal Box, O2 Boostbox, Three Home Signal, Vodafone Sure Signal). Mae'r rhain yn gweithio drwy gysylltu â llwybrydd a gyrru traffig dros y rhwydwaith band eang i gynyddu'r signal symudol.
Gallech hefyd brynu a gosod troswr ffôn symudol. Mae troswyr yn defnyddio signalau symudol o’r tu allan i adeilad i wella’r ddarpariaeth y tu mewn i’r adeilad. Maent yn gweithio orau pan fydd signal awyr agored cryf.
Mae mwy o wybodaeth am droswyr ffôn symudol ar gael ar ein gwefan.
Ar y trên
- Gwiriwch beth sydd ar gael gan y gweithredwr trenau. Mae rhai cwmnïau trenau'n gweithio gyda gweithredwyr ffonau symudol i osod offer ar gerbydau i wella'r signal. Ar rai trenau, efallai y bydd gennych yr opsiwn i gael mynediad at gysylltiad di-wifr. Mae rhai gweithredwyr trenau hefyd yn ystyried cynnwys opsiynau ffonio dros wi-fi fel rhan o'u gwasanaeth di-wifr.
Yn y car
- Cofiwch ei fod yn anghyfreithlon i ddefnyddio dyfais symudol llaw wrth yrru cerbyd yn y DU oni bai bod gennych fynediad di-ddwylo. Mae hefyd yn anghyfreithlon defnyddio dyfais symudol llaw wrth oruchwylio gyrrwr sy'n dysgu.
- Mae dyluniad y cerbyd yn effeithio ar y ddarpariaeth a dderbynnir ynddo. Er enghraifft, gallai maint y ffenestri a'r deunyddiau adeiladu i gyd effeithio ar y signal. Gall safle'r ffôn y tu mewn i'r cerbyd effeithio ar y ddarpariaeth hefyd. Rydych yn fwy tebygol o gael signal gwell os ydych yn cadw eich ffôn yn y crud ar y dangosfwrdd yn hytrach nag yn y consol canol, a gall y signal fod yn wael os byddwch yn cadw eich ffôn yn y troedfan.
- Mae gan rai ceir erialau allanol sy'n gallu cysylltu â ffôn symudol y tu mewn i'r car. Mae hyn yn caniatáu i'r ffôn gael cryfder signal sy'n debyg i'r lefel y tu allan i'r car. Gall cerbyd sy'n defnyddio erial allanol gael darpariaeth dda yn y cerbyd ar hyd at 20% yn fwy o rwydwaith ffyrdd y DU o'i gymharu â cherbyd heb erial allanol.
Tramor
- Os ydych chi'n teithio dramor yn aml, gall SIM crwydro byd-eang fod yn ateb da. Gwiriwch brisiau gyda'ch darparwr.
- Os oes angen signal symudol arnoch mewn gwahanol leoliadau lle mae gwahanol ddarparwyr yn gweithredu'n annibynnol ar ei gilydd, efallai y byddwch am ddefnyddio datrysiad dau gerdyn SIM. Defnyddiwch teclynnau gwirio darpariaeth darparwyr i helpu gyda hyn. Mae ffonau SIM deuol ar gael yn y DU ac yn osgoi'r angen i gadw dau ffôn ar wahân wedi'u gwefru neu i newid y SIM drosodd.
Ar gyfer eich busnes
- Efallai y bydd yn werth ystyried ffonau lloeren ('Satphone') os yw ffôn symudol yn hanfodol i'ch busnes. Mae chwe gweithredwr yn y DU ac mae setiau llaw lefel mynediad yn costio £300-£500 gyda thariffau ar gael o tua 50c y funud.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, siaradwch gyda'ch darparwr:
BT Mobile | 0800 100 400 |
---|---|
EE | 0800 956 6000 |
Lebara Mobile | 0870 075 5588 |
Lycamobile | 0207 132 0322 |
O2 | 0344 809 0202 |
TalkTalk Mobile | 0800 542 9427 |
Tesco Mobile | 0345 301 4455 |
Three | 0333 338 1001 |
Virgin Mobile | 0345 454 1111 |
Vodafone | 0333 304 0191 |