Dolenni defnyddiol a sefydliadau eraill

Cyhoeddwyd: 21 Hydref 2014

Mae cyfathrebiadau digidol yn newid yn gyflym, a gall cadw i fyny â datblygiadau fod yn heriol i fusnesau bach.  

Efallai y bydd gwahanol fusnesau'n elwa o dechnolegau gwahanol felly bydd angen i chi asesu eich anghenion eich hun a'r atebion sydd fwyaf priodol i'w diwallu. Mae amrywiaeth o sefydliadau yn cynnig cymorth a chyngor, ac mae llawer ohonynt yn darparu gwasanaethau a chyngor diduedd yn rhad ac am ddim. Rhestrir rhai o'r rhain isod, ond mae eraill ar-lein ac oddi ar-lein hefyd.

Peidiwch ag anghofio bod gan wefan Ofcom nifer o adnoddau ar gyfer busnesau a gallai rhywfaint o'n cyngor ar gyfer defnyddwyr fod o fudd i chi hefyd.

  • Webwise yw canllaw dechreuwyr y BBC i ddefnyddio cyfrifiaduron, y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol. Mae'n cynnwys canllaw fesul cam ar gyfer y rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r we, ac yn cynnig cyrsiau ar-lein.
  • Mae Doteveryone yn wefan sy'n annog ac yn helpu cwmnïau bach i fynd ar-lein ac ymgyfarwyddo â sut i wneud busnes yn ddigidol.
  • Mae Cyber Aware yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth busnesau sy'n llai cyfarwydd â diogelwch digidol.
  • Corff y DU sy'n hyrwyddo buddiannau busnesau bach yw'r Ffederasiwn Busnesau Bach. Fe'i ffurfiwyd ym 1974, ac erbyn hyn mae ganddi 200,000 o aelodau ar draws 33 rhanbarth a 194 o ganghennau.
  • Mae Siambrau Masnach Prydain (BCC) yn cynrychioli buddiannau dros 100,000 o fusnesau drwy rwydwaith o dros 50 o siambrau achrededig ar draws y DU.
  • Mae'r Ffederasiwn Gwasanaethau Cyfathrebu (FCS) yn gymdeithas fasnach nid-er-elw yn cynrychioli darparwyr sy'n cynnig cynhyrchion cyfathrebu i ddefnyddwyr.
  • Mae'r Gymdeithas Rheoli Cyfathrebiadau (CMA) yn sefydliad aelodaeth i fusnesau sy'n darparu gwasanaethau ar-lein.
    yn hyrwyddo buddiannau busnesau trwy ymgyrchu a lobïo, ac yn rhoi cyngor i'w haelodau.
    yn ystyried materion sy'n berthnasol i fusnesau bach, yn enwedig ar gyfer grwpiau agored i niwed a'r rhai sydd ag anableddau.
  • Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn cynrychioli cyfarwyddwyr busnesau o bob maint, ac yn rhoi arweiniad a gwybodaeth wedi'i theilwra i aelodau.
  • Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu arweiniad a chyngor ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys ffonau, y rhyngrwyd, teledu a chyfrifiaduron.
    Mae Scottish Enterprise, Highlands and Islands Enterprise a  Business Gateway yn darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes yn Yr Alban.
  • Mae Busnes Cymru a Busnes mewn Ffocws yn darparucyngor, hyfforddiant, gwybodaeth a chymorth i fusnesau yng Nghymru.
  • Mae Invest NI, rhan o'r Adran dros Fenter, Masnach a Buddsoddi (DETI), a NI Business Info yn darparu gwybodaeth am sefydlu a rhedeg busnes yng Ngogledd Iwerddon.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig