5G yw’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg symudol. Mae disgwyl y bydd yn darparu band eang cyflymach a gwell ac yn golygu y bydd modd ei ddefnyddio mewn ffordd fwy chwyldroadol mewn sectorau fel gweithgynhyrchu, trafnidiaeth a gofal iechyd. Gall hyn greu buddion i bobl ac i fusnesau, gan ehangu rôl cysylltedd diwifr yn yr economi a’r gymdeithas. Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU mae gennym rôl i’w chwarae, ochr yn ochr â’r Llywodraeth a’r diwydiant, i alluogi datblygiad 5G, a’i gyflwyno, yn ogystal â sicrhau ei fod yn arwain at fanteision.
Mae Ofcom yn rhannu uchelgais y Llywodraeth, sef bod y DU yn dod ar flaen y gad ar draws y byd o ran 5G. Yn y ddogfen hon, rydym yn cyflwyno’r diweddaraf am y camau y byddwn yn eu cymryd i hwyluso’r broses o gyflwyno 5G yn y DU.
Rydym yn bwriadu rhyddhau gwahanol fathau o fandiau sbectrwm ar gyfer 5G cyn gynted ag sy’n ymarferol. Rydym eisoes yn sicrhau bod trwyddedau treial ac arloesi ar gael er mwyn cynnal treialon 5G, a heddiw rydym yn lansio ein porth treialu ac arloesi, i helpu ymgeiswyr i asesu’r sbectrwm at ddibenion arloesol. Rydym yn gweld cyfleoedd mawr posibl i ddefnyddio’r trwyddedau hyn i brofi cymwysiadau 5G arloesol, gan ddefnyddio sbectrwm amledd uchel, yn arbennig 26GHz, sef y band tonfedd milimetr arloesol ar gyfer 5G.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau’r gwledydd i sicrhau nad yw cynllunio a mynediad at safleoedd yn rhwystro cyflwyno 5G. Byddwn yn sicrhau bod amrywiaeth o atebion ar gael i safleoedd 5G gysylltu â rhwydweithiau telegyfathrebiadau craidd (‘ôl-gludo’). Yn olaf, byddwn yn cydweithio â rheoleiddwyr Ewropeaidd eraill i sicrhau nad yw rheoliadau niwtraliaeth y rhyngrwyd yn rhwystro 5G rhag cael ei ddatblygu.
Byddwn yn gweithio fel hwylusydd, gan weithio ar draws gwahanol sectorau i’w hannog i weithio gyda’i gilydd, a gyda gwledydd eraill er mwyn deall cymwysiadau posibl 5G a sut gallant weithio yn ymarferol yn