Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gwanwyn 2024

Cyhoeddwyd: 24 Ebrill 2024

Dyma ddiweddariad dros dro i'n hadroddiad blynyddol Cysylltu’r Gwledydd, diwethaf, fu'n seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mis Medi 2023. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar argaeledd band eang sefydlog a darpariaeth symudol yn y DU ym mis Ionawr 2024.

Rydym hefyd wedi defnyddio’r data a gasglwyd ar gyfer yr adroddiad hwn i ddiweddaru ein teclyn gwirio darpariaeth band eang a symudol.

Yn nes ymlaen eleni rydym yn bwriadu cyhoeddi ein hadroddiad ar gynlluniau gweithredwyr i ddefnyddio rhwydweithiau capasiti uchel iawn (VHCN) dros y tair blynedd nesaf. Disgwylir i’n hadroddiad Cysylltu’r Gwledydd blynyddol nesaf gael ei gyhoeddi ddiwedd 2024.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

    • Mae nifer y cartrefi a all dderbyn band eang gigabit-alluog wedi codi i 24.0 miliwn o gartrefi (80% o holl gartrefi'r DU), i fyny o 23.2 miliwn (78%) ym mis Medi 2023.
    • Mae darpariaeth ffeibr llawn bellach mewn 18.7 miliwn o gartrefi (62%). Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 5 pwynt canrannol yn y pedwar mis rhwng Medi 2023 ac Ionawr 2024.
    • Mae darpariaeth band eang cyflym iawn ledled y DU yn gyffredinol yn parhau ar 97%.
    • Mae’r eiddo nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang digonol (>10Mps lawrlwytho), wrth ystyried rhwydweithiau diwifr sefydlog a llinellau sefydlog, wedi gostwng o 61,000 i 57,000 a nid oes disgwyl i tua 47,000 o'r rhain gael eu cwmpasu gan gynlluniau wedi eu ariannu'n gyhoeddus o fewn y deuddeg mis nesaf.
    • Mae darpariaeth symudol yn parhau i fod yn sefydlog o ran 4G, gyda thua 93% o fàs tir y DU wedi'i ddarogan i dderbyn darpariaeth 4G awyr agored dda gan o leiaf un gweithredwr. Mae'r arwynebedd hwn yn cynnwys bron pob safle yn y DU.
    • Mae darpariaeth 5G hefyd wedi parhau i fod yn sefydlog dros y 4 mis blaenorol  gyda thua 92% o safleoedd yn gallu derbyn signal 5G yn yr awyr agored, gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol (ffigurau wedi'u hadrodd gyda lefel uchel o hyder).

    Fel gyda diweddariadau blaenorol, rydym wedi cyhoeddi:

      • adroddiad rhyngweithiol (Saesneg yn unig) sy'n cynnwys y data diweddaraf a hanesyddol;
      • tablau cryno (Saesneg yn unig) ar gyfer band eang sefydlog, symudol 4G, symudol 5G, y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, llais a negeseuon testun.

      Lawrlwytho'r data

      Rydym wedi darparu rhywfaint o'r data y mae'r adroddiad Cysylltu'r Gwledydd yn seiliedig arno i'w lawrlwytho. Casglwyd y data hyn hyd at fis Ionawr 2024.

      Gweler ein telerau defnyddio ar gyfer ein hamodau trwydded. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar y data rydym wedi'i ddarparu, gyrrwch e-bost i open.data@ofcom.org.uk

        Data Am y data
      Sefydlog - cod post Data darpariaeth sefydlog unedau cod post (ZIP, 35.4 MB) Ynghylch y data hwn: Data darpariaeth sefydlog (PDF, 180.7 KB)
      Sefydlog - ardal allbwn Data darpariaeth sefydlog ardaloedd allbwn y cyfrifiad (ZIP, 9.8 MB)
      Sefydlog - etholaeth San Steffan Data darpariaeth sefydlog etholaethau San Steffan (ZIP, 102.1 KB)
      Sefydlog - awdurdod lleol ac unedol Data darpariaeth sefydlog awdurdodau lleol ac unedol (ZIP, 62.6 KB)
      Sefydlog - Y Deyrnas Unedig a'r Gwledydd Darpariaeth sefydlog - Y Deyras Unedig a'r Gwledydd (ZIP, 4.8 KB)
      Symudol - etholaeth San Steffan*

      Darpariaeth symudol, ardaloedd etholaethau San Steffan (gyda 5G) (ZIP, 90.0 KB)

      Darpariaeth symudol, ardaloedd etholaethau San Steffan (ZIP, 132.7 KB)

      Ynghylch y data hwn: Darpariaeth symudol (PDF, 176.4 KB)

      Symudol - awdurdod lleol ac unedol*

      Darpariaeth symudol, data awdurdodau lleol ac unedol (gyda 5G) (ZIP, 57.3 KB)

      Darpariaeth symudol, data awdurdodau lleol ac unedol data (ZIP, 85.9 KB)

      Symudol - Y Deyrnas Unedig a'r Gwledydd Darpariaeth symudol Y Deyrnas Unedig a'r Gwledydd (ZIP, 8.9 KB)
      Yn ôl i'r brig