Dyma'r ail ddiweddariad dros dro cyntaf i'n Hadroddiad Cysylltu'r Gwledydd a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2021. Mae'n seiliedig ar ddarpariaeth symudol ac argaeledd band eang sefydlog ar draws y DU ym mis Mai 2022.
Adroddiad
Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Hydref 2022 (PDF, 276.4 KB)
Diweddariad Cysylltu'r Gwledyd: Hydref 2022 - Adroddiad rhyngweithiol
Atodiad 1: Methodoleg (PDF, 393.8 KB) (Saesneg yn unig)
Data
Rydym wedi sicrhau bod rhywfaint o'r data sy'n sail i adroddiad Cysylltu'r Gwledydd ar gael i'w lawrlwytho. Casglwyd y data hwn hyd at fis Mai 2022 ac mae'n ein galluogi i wneud cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn o gyflwr seilwaith cyfathrebu'r DU.
Gweler telerau defnyddio ein hamodau drwyddedu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch y data rydym wedi'i ddarparu, cysylltwch â ni drwy e-bostio open.data@ofcom.org.uk. Mae'r wybodaeth isod ar gael yn Saesneg.
Data | Ynghylch y data | |
---|---|---|
Cod Post sefydlog | 202205_fixed_pc_coverage_r01 (ZIP, 28.85 MB) | About this data: Fixed coverage postcode unit data (PDF, 181.2 KB) |
Ardal Darpariaeth Sefydlog | 202205_fixed_oa11_coverage_r01 (ZIP, 10.4 MB) | About this data: Fixed coverage 2011 census output area (PDF, 175.5 KB) |
Etholaeth Sefydlog San Steffan | 202205_fixed_pcon_coverage_r01 (ZIP, 102.43 KB) | About this data: Fixed coverage parliamentary (PDF, 283.1 KB) |
Awdurdodau lleol ac unedol sefydlog | 202205_fixed_laua_coverage_r01 (ZIP, 63.29 KB) | About this data: Fixed coverage local and unitary authority data (PDF, 174.0 KB) |
Etholaeth Symudol San Steffan | 202205_mobile_pcon_r01 (ZIP, 122.82 KB) | About this data: Mobile coverage parliamentary constituency area data (PDF, 345.0 KB) |
Awdurdod lleol ac unedol Symudol | 202205_mobile_laua_r01 (ZIP, 79.78 KB) | About this data: Mobile coverage local and unitary authority data (PDF, 231.6 KB) |
Yn ogystal â'r ffeiliau Data Agored ar gyfer gwasanaethau sefydlog a symudol yn y DU rydym hefyd yn cyhoeddi rhestr o godau post lle rydym yn amcangyfrif efallai na fydd rhai safleoedd yn gallu cael signal symudol dibynadwy dan do gan unrhyw weithredwr rhwydwaith symudol. Darperir hyn i gynorthwyo'r Darparwyr Cyfathrebu (CP) hynny sy'n mudo cwsmeriaid i wasanaethau llais digidol newydd i nodi'r rhai a allai fod yn ddibynnol ar eu llinell dir. Rydym yn atgoffa gweithredwyr o'n harweiniad a gyhoeddwyd yn 2018, sy'n amlinellu rhai o'r camau y byddem yn disgwyl i CP eu cymryd i bennu a yw cwsmer penodol yn ddibynnol ar eu llinell dir. Gall yr wybodaeth a ddarperir yma gynorthwyo gydag un o'r camau hynny.
Ar nodyn technegol, mae'r rhestr yn cynnwys codau post lle rydym wedi barnu na fydd modd i o leiaf un safle o fewn y cod post dderbyn gwasanaeth llais dibynadwy o unrhyw rwydwaith symudol. O ystyried y rhagdybiaethau sy'n angenrheidiol i amcangyfrif darpariaeth dan do, a mapio data darpariaeth symudol daearyddol i ardaloedd cod post y DU, efallai y bydd safleoedd mewn codau post eraill na fyddant efallai'n derbyn gwasanaeth llais dibynadwy ac i'r gwrthwyneb, safleoedd yn y codau post a nodir yn y rhestr hon a allai dderbyn gwasanaeth llais dibynadwy. O ganlyniad, ni ddylid tybio bod y rhestr yn ddiffiniol at ddibenion nodi eiddo sy'n ddibynnol ar linell dir. Bydd y rhestr hon yn cael ei diweddaru o bryd i'w gilydd ac o leiaf unwaith y flwyddyn.
Not-Spots-By-Postcode (CSV, 210.5 KB) (Saesneg yn unig).