Cysylltu'r Gwledydd Cymru yw ein hadroddiad blynyddol ar argaeledd gwasanaethau band eang a symudol yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno rhwydweithiau gigabit-alluog, ffeibr llawn a 5G.
Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar gyfer pob un o wledydd y DU, a hefyd adroddiad ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd (PDF, 3.0 MB) (Saesneg yn unig). Mae ein adroddiad rhyngweithiol yn galluogi pobl i gyrchu data'n hwylus ar gyfer gwahanol rannau o'r DU a mathau penodol o wasanaethau. Rydym hefyd wedi cyhoeddi'r Cerdyn Sgorio Band Eang Rhyngwladol 2023, sy'n cymharu sefyllfa ddiweddar y DU o ran argaeledd band eang â nifer o wledydd eraill yn Ewrop.
Fel y nodwyd yn nhroednodyn 32 o adroddiad y DU ym mis Rhagfyr 2023 (ar dudalen 23), wrth gynnal gwiriadau cywirdeb terfynol, dywedodd BT wrthym y gallai gweithredu model data newydd fod wedi effeithio ar eu hadroddiad ar gyfanswm archebion rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ac adeiladau sy’n cael eu pasio o ganlyniad i'r gwaith adeiladu. Mae BT bellach wedi darparu data wedi’i ddiweddaru i ni. Mae’r data diweddaraf hwn yn effeithio ar y niferoedd a adroddwyd gennym ar gyfer Lloegr a’r Alban yn Nhabl 2.13 Adroddiad y DU, a ddylai gael ei ddarllen fel a ganlyn (mae’r rhifau mewn print trwm wedi cael eu diweddaru ac mae’r ffigurau mewn cromfachau yn dangos maint y cynnydd):
Nifer yr archebion rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol Cyfanswm yr adeiladau wedi’u pasio ar ôl adeiladu | Cyfanswm yr adeiladau wedi’u pasio ar ôl adeiladu | |
---|---|---|
Lloegr | 1,532 (+3) | 7272 (+14 |
Gogledd Iwerddon | 87 | 723 |
Yr Alban | 112 (+1) | 528 (+30) |
Cymru | 241 | 1313 |
Yn ychwanegol, mae’r cyfeiriad at orchmynion Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol ‘111’ yn yr Alban ar dudalen 17 Adroddiad yr Alban wedi cael ei gywiro i gyfeirio at 112 o orchmynion yn lle hynny.
Roeddem hefyd wedi nodi gwall ym mhennawd capsiynau’r map a nodir yn Ffigur 2.6 Adroddiad y DU (tudalen 24) a Ffigur 2.2 Adroddiad Lloegr (tudalen 10). Roedd y pennawd yn cyfeirio at nifer yr ‘adeiladau rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol wedi’u pasio’ yn hytrach na ‘gorchmynion rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol’. Rydym bellach wedi diweddaru’r pennawd hwn i gyfeirio at ‘nifer yr archebion rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol’ yn lle hynny. Nid yw’r diweddariadau i ddata BT yn effeithio ar y map ei hun.
Prif ddogfennau
Cysylltu'r Gwledydd 2023 - Adroddiad Cymru (PDF, 1.4 MB)
Noder bod y dogfennau isod yn Saesneg: