Cysylltu'r Gwledydd 2022

Cyhoeddwyd: 7 Chwefror 2024

Cysylltu'r Gwledydd yw ein hadroddiad blynyddol ar gynnydd yn argaeledd gwasanaethau band eang a symudol y DU, gan gynnnwys cyflwyno rhwydweithiau cyfradd gigabit, ffeibr llawn a 5G

Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar bob un o wledydd y DU. Mae ein dangosfwrdd rhyngweithiol yn galluogi pobl i gael gafael ar ddata’n hawdd ar gyfer gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig a mathau penodol o wasanaethau. Rydym hefyd yn cyhoeddi Cerdyn Sgorio Band Eang Rhyngwladol 2022, sy’n cymharu sefyllfa ddiweddaraf y Deyrnas Unedig o ran argaeledd band eang â nifer o wledydd eraill yn Ewrop.

Prif adroddiad

Darllenwch adroddiad Cysylltu'r Gwledydd Cymru 2022

Mae'r isod yn Saesneg yn unig:

Connected Nations 2022: UK report (PDF, 2.0 MB)

Methodology (PDF, 287.1 KB)

Mobile performance methodology (PDF, 221.1 KB)

Since we published the December 2022 report we have identified that the 5G outdoor coverage figures for Northern Ireland were reported based on our analysis of operator data of May 2022 instead of September 2022. As a result, the main report (PDF, 2.0 MB) should read as follows:

  • On page 27 – In Figure 3.1, the coverage for 5G outside premises (MNO range) for Northern Ireland should be 21-27%
  • On page 30 – the last paragraph should be:
    Differences in deployment strategies are also reflected in different coverage levels across the UK nations. Currently, 5G coverage outside of premises in each UK Nation ranges across individual MNOs as follows: 42-61% for England; 29-51% for Scotland; 10-46% for Wales; and 21-27 % for Northern Ireland (all based on our High Confidence level).

Ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar 15 Rhagfyr 2022 rydym wedi nodi safleoedd ychwanegol y dylent fod wedi cael eu hadrodd fel derbyn darpariaeth gan rwydweithiau ffeibr llawn a chyfradd gigabit. Er nad yw hyn yn effeithio ar y canrannau a ddyfynnir yn yr adroddiadau, mae'n cynyddu rhai o'r ffigurau darpariaeth ffeibr llawn a chyfradd gigabit a ddyfynnir ar gyfer Lloegr ac ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. O ganlyniad, dylai Tabl 2.3 ym mhrif adroddiad y DU (tudalen 9) nawr ddarllen fel a ganlyn (mae'r rhifau sydd wedi'u italeiddio ac mewn testun bras wedi cynyddu 0.1m oherwydd effeithiau talgrynnu):

Cyfradd gigabit

Ffeibr llawn

Cyfanswm

Trefol

Gwledig

Cyfanswm

Trefol

Gwledig

Lloegr

71% (17.7m)

76% (16.5m)

37% (1.2m)

41% (10.1m)

42% (9.1m)

34% (1.1m)

Gogledd Iwerddon

87% (0.7m)

96% (0.5m)

65% (0.2m)

85% (0.7m)

94% (0.5m)

65% (0.2m)

Yr Alban

64% (1.7m)

72% (1.6m)

26% (0.1m)

41% (1.1m)

44% (1m)

24% (0.1m)

Cymru

52% (0.8m)

58% (0.6m)

34% (0.1m)

40% (0.6m)

41% (0.5m)

33% (0.1m)

Deyrnas Unedig

70% (20.8m)

76% (19.3m)

37% (1.5m)

42% (12.5m)

43% (11m)

35% (1.5m)

Dylid ystyried bod y ffigurau cysylltiedig ar dudalen 1 (Trosolwg) a thudalennau 5 ac 8 (Adran 2) ym mhrif adroddiad y DU wedi'u diweddaru'n unol â'r tabl uchod.

Hefyd, mae'r ffigurau yn Nhabl 2.2 adroddiadau Lloegr a'r Alban ac yn Nhabl 2.3 adroddiad Cymru wedi'u heffeithio, felly dylid defnyddio'r tabl uchod yn lle.

Mae'r diwygiad hwn hefyd yn effeithio ar ein siart ryngweithiol a Ffeiliau Data Agored, sydd wedi cael eu diweddaru a'u hailgyhoeddi fel y bo'n briodol.

Rydym hefyd wedi diwygio'r ffeiliau Data Agored ar gyfer perfformiad sefydlog i gywiro gwall yn y ffigurau defnydd a ddyfynnwyd ar sail 'fesul cyflymder llinell' ar fanylder is-genedlaethol. Nid yw'r newid hwn yn cael unrhyw effaith ar y ffigurau perfformiad/defnydd cyffredinol a ddyfynnwyd yn ein hadroddiadau naratif.

Yn olaf, fel y nodwyd ochr yn ochr â'n siart ryngweithiol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022, rydym wedi adolygu'r sail waelodol a chywiro anghysondeb ynghylch darpariaeth symudol ddaearyddol yn nhudalen 15 ein siart rhyngweithiol – sy'n archwilio darpariaeth 4G ddaearyddol. Nid yw'r diweddariad yn newid gwerthoedd canrannol ar lefelau cenedlaethol, ac mae'n gwneud mân newidiadau ar fanylderau is. Yn gyffredinol, nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar y ffigurau darpariaeth symudol a gyhoeddwyd ym mhrif adroddiad y DU mewn perthynas â darpariaeth ym mis Medi 2022, ac mae ond yn gwneud mân newidiadau i ffigurau darpariaeth symudol blaenorol o fis Mai 2022 yn ein siartiau rhyngweithiol, gan gael eu cyfyngu i rai detholiadau ac opsiynau yn unig.

Yn ôl i'r brig