Codau ymarfer

Cyhoeddwyd: 15 Rhagfyr 2023

Mae Ofcom yn ymrwymedig i gynnal sector telathrebu ffyniannus lle gall cwmnïau gystadlu’n deg a busnesau a chwsmeriaid fanteisio ar amrywiaeth eang o wasanaethau. Mae'r adran hon yn ymdrin â'r codau ymarfer.

Rydym wedi diwygio’r codau ymarfer ar gyflymderau band eang. Bydd y codau newydd yn berthnasol i bryniannau band eang o 1 Mawrth 2019 ymlaen. Gweler isod am ragor o wybodaeth.

Crynodeb

  1. Mae adran 52 Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn rhoi dyletswydd ar Ofcom i osod amodau cyffredinol er mwyn sicrhau bod darparwyr cyfathrebiadau yn sefydlu ac yn cynnal gweithdrefnau i ddelio â chwynion a datrys anghydfodau rhyngddyn nhw a’u cwsmeriaid busnesau bach a domestig, ymysg pethau eraill.
  2. Amod Cyffredinol C4 (GC C4) yw’r amod perthnasol ar gyfer delio â chwynion a datrys anghydfod.
  3. O dan Amod Cyffredinol C4.2, rhaid i ddarparwyr cyfathrebiadau gydymffurfio gyda'r amodau sy'n cydymffurfio â Chod Cwynion a gymeradwywyd gan Ofcom wrth ymdrin gyda chwynion gan gwsmeriaid busnesau bach a domestig. Mae copi o’r Cod Ymarfer a’r canllawiau ategol wedi'i gynnwys yn yr atodiad i Amod Cyffredinol C4.
  4. O dan Amod Cyffredinol C4.3, mae’n rhaid i ddarparwyr fod yn aelod o, a gweithredu a chydymffurfio â chynllun datrys anghydfod (‘ADR’).
  5. Bydd cosb am beidio â chydymffurfio ag Amod Cyffredinol C4. O dan Adran 96 o’r Ddeddf, gall Ofcom gyflwyno cosb o hyd at 10% o’r trosiant am beidio â chydymffurfio â hysbysiad ffurfiol o fewn y cyfnod a nodwyd.

Gellir dod o hyd i AC C4 a'r Cod Cwynion a Gymeradwyir gan Ofcom yn y fersiwn cyfunol answyddogol o'r Amodau Cyffredinol (Saesneg yn unig).

O Ebrill 1 2019, bydd cwsmeriaid band eang a llinell gartref yn derbyn iawndal wrth eu darparwr gwasanaeth ar gyfer unrhyw oedi o ran gwaith trwsio, apwyntiadau peirianwyr ac oedi gyda dechrau gwasanaeth newydd.

Mae'r cwmnïau canlynol wedi ymrwymo i'r cynllun:

  • BT (ymunodd 1 Ebrill 2019)
  • EE (ymunodd 4 Mai 2021)
  • Hyperoptic (ymunodd 28 Hydref 2019)
  • Plusnet (gan gynnwys John Lewis Broadband) (ymunodd 4 Mai 2022)
  • Sky (gan gynnwys NOW Broadband) (ymunodd 1 Ebrill 2019)
  • TalkTalk (ymunodd 1 Ebrill 2019)
  • Virgin Media (ymunodd 1 Ebrill 2019)
  • Vodafone (ymunodd 3 Tachwedd 2021) (ar gyfer cwsmeriaid ar y rhwydwaith Openreach yn unig)
  • Zen Internet (ymunodd 1 Ebrill 2019)

Gweler y cod ymarfer llawn (PDF, 208.3 KB) am fwy o fanylion.

Rydym wedi cyhoeddi adolygiad o flwyddyn gyntaf y cynllun iawndal awtomatig.

Mae mwy o wybodaeth ar gael am yr hyn y mae angen i chi ei wybod am iawndal awtomatig.

Ym mis Medi 2022, cafodd y codau ymarfer cyflymderau band eang eu diweddaru. Gallwch ddarllen mwy am y diweddariadau yng nghodau ymarfer cyflymderau band eang 2022 a fydd yn berthnasol i wasanaethau band eang o 21 Rhagfyr 2022 ymlaen. Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllaw cyhoeddedig i ddefnyddwyr ar y codau ymarfer cyflymderau band eang i adlewyrchu’r diweddariadau hyn.

Rydym wedi diweddaru codau ymarfer blaenorol 2018 ar gyflymderau band eang fel bod yr hawl i adael – sy’n berthnasol i wasanaethau band eang a gwasanaethau eraill wedi’u bwndelu – yn unol ag Amodau Hawliau Cyffredinol diwygiedig Ofcom, a gafodd eu rhoi ar waith o 17 Mehefin 2022 ymlaen. Bydd y mesurau diogelu eraill a nodir yng nghodau 2018 wedi cael eu trosglwyddo i godau 2022 heb newid.

Mae'r cwmnïau canlynol wedi ymrwymo i'r cynllun:

Preswyl

  • BT
  • EE
  • NOW Broadband
  • PlusNet
  • Sky
  • TalkTalk
  • Utility Warehouse
  • Virgin Media
  • Zen Internet (ymunodd yn 2021)

Busnes

  • BT
  • Daisy
  • TalkTalk
  • Virgin Media
  • XLN

Os ydych yn ddarparwr ac yn dymuno ymrwymo i'r codau, neu fod gennych unrhyw gwestiynau am fod yn un o'r llofnodeion, gyrrwch e-bost: BBSCOP@ofcom.org.uk

Yn ôl i'r brig