Datganiad wedi'i gyhoeddi 1 Mawrth 2018
Mae band eang yn wasanaeth hanfodol i bobl a busnesau, sy’n dibynnu fwyfwy ar y rhyngrwyd am amrywiaeth eang o weithgareddau.
Mae cyflymder cysylltiad band eang o ran llwytho data i lawr yn ffactor pwysig wrth i gwsmeriaid brynu gwasanaeth band eang. Felly, mae angen gwybodaeth realistig ar gwsmeriaid, ar y pwynt gwerthu a hefyd yn eu contract, ynglŷn â'r cyflymderau band eang y gallant eu disgwyl.
Mae gan Ofcom eisoes godau ymarfer ar gyflymderau band eang ar gyfer cwsmeriaid preswyl a busnes, sy’n ei wneud yn ofynnol i’r rhai sydd wedi ymrwymo iddynt ddarparu amcangyfrifon i gwsmeriaid ynglŷn â'r cyflymderau y maent yn debygol o’u derbyn ar y pwynt gwerthu. At hynny, maent yn rhoi’r hawl i gwsmeriaid adael eu contractau, heb gosb, os bydd eu cyflymder yn syrthio o dan leiafswm lefel.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’n penderfyniadau ar y newidiadau i’r codau ymarfer i wella’r wybodaeth a ddarperir i gwsmeriaid a chryfhau hawliau cwsmeriaid i ymadael.
Diweddariad 12 Tachwedd 2020 – terfyn amser ychwanegol ar gyfer amcangyfrifon cyflymder cydamseru byw
Ym Mawrth 2019, gwnaethon ni newidiadau sylweddol i’n cod ymarfer cyflymderau band eang. Mae’r newidiadau hyn yn golygu bod siopwyr band eang bellach yn cael lleiafswm cyflymder cyn arwyddo cytundeb newydd, ac yn cael gwybod beth i ddisgwyl yn ystod oriau brig pan fydd pawb ar-lein, ac y gallant adael eu contract yn haws os yw’r cyflymder yn syrthio yn is na’r lefel a warantwyd.
Ar hyn o bryd, mae’r wybodaeth hon ar gyfer y mwyafrif o gysylltiadau wedi’i seilio ar ddata gan grŵp o gwsmeriaid sydd ag eiddo â nodweddion tebyg - er enghraifft, pellter o’r gyfnewidfa neu gabinet stryd. Gall y nodweddion hyn gael effaith ar gyflymder llinellau copr. Yn y dyfodol fodd bynnag, bydd llawer o'r cwsmeriaid hyn yn cael amcangyfrif cyflymder wedi’i seilio ar allu’r llinell sy’n mynd i'r tŷ neu swyddfa unigol - amcangyfrifon cyflymder cydamseru byw.
Mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar yr uwchraddiadau angenrheidiol y mae angen i rai darparwyr eu gwneud i roi amcangyfrifon cyflymder cydamseru byw ar waith. Felly, rydym wedi estyn y terfyn amseri wneud hyn ar gyfer darparwyr sydd wedi ymrwymo i'r codau ymarfer, o 15 Tachwedd 2020 i 13 Rhagfyr 2020.