Diffodd rhwydweithiau 2G a 3G: Cyngor i gyflenwyr dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thrydydd parti

Cyhoeddwyd: 8 Medi 2023
Diweddarwyd diwethaf: 25 Chwefror 2025

Bydd darparwyr rhwydweithiau symudol y DU yn diffodd eu rhwydweithiau 3G ac yna 2G dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r dudalen hon yn egluro sut gall cyflenwyr y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a dyfeisiau trydydd parti helpu eu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn o newid.

Beth sy'n digwydd?

Mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol wedi cadarnhau wrth Lywodraeth y DU nad ydynt yn bwriadu cynnig rhwydweithiau 2G a 3G y tu hwnt i 2033 fan bellaf. Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno rhwydweithiau 4G a 5G a fydd yn cynnig gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy i gwsmeriaid.

Mae pob darparwr symudol yn pennu ei amserlen ei hun ar gyfer diffodd ei rwydwaith 3G. Efallai y bydd yr amseroedd hyn yn newid, a dylech wirio gwefan eich darparwr symudol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf:

  • Roedd Vodafone wedi cwblhau'r diffodd yn gynnar yn 2024.
  • Roedd EE wedi cwblhau'r diffodd yn gynnar yn 2024.  
  • Mae Three wedi diffodd ei rwydwaith 3G ar draws y rhan fwyaf o’r DU.
  • Mae O2 yn bwriadu diffodd 3G yn 2025.

Mae pob gweithredwr rhwydwaith symudol wedi ymrwymo i ddiffodd 2G erbyn 2033 fan bellaf, ac efallai y bydd gweithredwyr rhwydweithiau symudol unigol yn penderfynu diffodd gwasanaethau cyn y terfyn amser hwnnw. Bydd angen uwchraddio pob dyfais 2G a 3G i 4G o leiaf. Nid oes yr un gweithredwr rhwydwaith symudol yn y DU wedi cyhoeddi cynlluniau penodol ar gyfer diffodd eu rhwydwaith 2G ar ôl diffodd 3G.

Fodd bynnag, yn 2025 mae O2 yn bwriadu dechrau ar y gwaith i symud bron yr holl draffig sy’n weddill i ffwrdd o’i rwydwaith 2G. Ni fydd yn diffodd 2G yn llwyr am nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, bydd yn parhau i’w ddefnyddio ar gyfer galwadau brys mewn ardaloedd mwy anghysbell sydd heb 4G. Fel rhan o’r cynlluniau hyn, bydd O2 yn rhwystro mynediad at ei rwydweithiau 2G a 3G i wasanaethau crwydro i mewn o 1 Hydref 2025 ymlaen. Mae hyn yn golygu na fydd dyfeisiau 2G (yn ogystal â rhai 3G) sy’n defnyddio SIMs crwydro rhyngwladol gan ddarparwyr tramor yn gallu cysylltu â’r rhwydweithiau O2 hyn mwyach. Nid yw O2 wedi pennu dyddiad ar gyfer diffodd ei rwydwaith 2G eto.

Mae EE wedi cyhoeddi ei fod yn dechrau’r broses o gysylltu â’i gwsmeriaid busnes sy’n defnyddio 2G i’w hannog a’u cefnogi wrth fudo. Nid yw wedi pennu dyddiad ar gyfer diffodd 2G ond ni fydd yn digwydd tan yn ddiweddarach y degawd hwn.

Ein rôl a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr symudol

Er bod gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn gyfrifol am amserlen y broses ddiffodd, rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg a’u bod yn gallu parhau i gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi nodi sut rydym yn disgwyl (PDF, 284.4 KB) i ddarparwyr symudol fynd ati i ddiffodd eu gwasanaethau. Mae’r ddogfen hefyd yn egluro’r gofynion rheoleiddio perthnasol y bydd angen i ddarparwyr gydymffurfio â nhw yn ystod y broses hon.

Bydd diffodd y rhwydwaith yn effeithio ar lawer o ddyfeisiau eraill hefyd

Yn ogystal â ffonau symudol, mae llawer o ddyfeisiau eraill sy’n defnyddio rhwydweithiau symudol i gysylltu. Mae’r rhain yn cynnwys larymau teleofal, larymau diogelwch, larymau tân, peiriannau ATM a therfynellau talu.

Er bod dyfeisiau mwy newydd yn gallu defnyddio 4G yn gyffredinol, mae llawer o ddyfeisiau hŷn yn dal i fodoli sy’n dibynnu ar dechnoleg 2G a 3G hŷn.

Mae Ofcom eisiau gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn gallu parhau i gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, gan darfu cyn lleied â phosibl arnynt. Rydym wedi ymgysylltu â gwahanol sectorau ynghylch y newidiadau i’r rhwydwaith, ac rydym wedi ysgrifennu’r cyngor hwn ar gyfer rheoli’r newid fel cyflenwr.

Cyn darllen y cyngor atodol hwn, darllenwch ein disgwyliadau o ran darparwyr symudol.

Helpu cwsmeriaid drwy’r newid

Os ydych chi'n darparu gwasanaeth (fel teleofal) sy’n dibynnu ar rwydweithiau 2G neu 3G, yna chi sy’n gyfrifol am sicrhau parhad y gwasanaeth ar ôl diffodd y rhwydweithiau 2G a 3G. Gallai’r cyfrifoldeb hwn fod yn rhan o rwymedigaethau cytundebol sydd gennych gyda’ch cwsmeriaid, yn ogystal ag unrhyw ofynion rheoleiddio sydd eisoes yn bodoli.

Bydd y rhan fwyaf o ddyfeisiau 3G yn dal i allu defnyddio 2G ar gyfer galwadau llais a gwasanaethau data cyfyngedig nes bydd y rhwydweithiau 2G wedi’u diffodd. Os oes gan ddyfais SIM sy’n gallu gweithio ar rwydwaith 3G yn unig, bydd angen i chi ei uwchraddio cyn i’r gweithredwr rhwydwaith symudol perthnasol ddiffodd ei rwydwaith 3G.

Os yw dyfais yn defnyddio 2G, neu’n defnyddio 2G ar ôl diffodd 3G, yna bydd angen i chi ddatblygu cynllun mudo gyda’r amser diffodd 2G mewn golwg. Os yw dyfais yn defnyddio SIM crwydro, bydd angen i chi wneud gwaith i ddeall sut gallai’r newidiadau i rwydweithiau 2G a 3G effeithio arnoch chi (mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran isod).

Dylech hefyd ystyried:

  • cyfathrebu â chwsmeriaid i'w gwneud yn ymwybodol o unrhyw newidiadau a allai fod yn ofynnol ac erbyn pryd y gallai fod angen iddynt ddigwydd; a
  • chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ganfod cwsmeriaid y gallai’r diffodd effeithio arnynt a lleihau unrhyw risgiau cysylltiedig.

Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i ddod o hyd i ddyfeisiau addas, fel 4G, ac mewn rhai achosion, newid yr offer rydych chi wedi’i osod eich hun. Felly mae’n bwysig cyfathrebu’n glir a rhoi digon o rybudd, gan ddefnyddio’r cynlluniau a gyhoeddwyd gan weithredwyr rhwydweithiau symudol.

Rhoi mwy o ystyriaeth i SIM crwydro

Mae’r rhan fwyaf o SIMs yn cael eu darparu gan weithredwr rhwydwaith symudol (fel Vodafone, Three, O2 neu EE), neu gan weithredwr neu ailwerthwr rhithiol (fel Lebara, Asda Mobile neu Lycamobile). Rydym yn disgwyl i’r gweithredwyr hyn weithio gyda defnyddwyr trydydd parti eu rhwydweithiau i darfu cyn lleied â phosibl wrth ddiffodd 2G a 3G.

Fodd bynnag, mae rhai o’r dyfeisiau hyn yn ddibynnol ar ‘SIM crwydro’ 2G neu 3G (sydd fel arfer yn SIM o’r tu allan i’r DU y mae pobl wedi dod â nhw i’r DU), sy’n crwydro rhwng y rhwydweithiau symudol sydd ar gael i ddarparu cysylltedd data.

Mae darparwyr gwasanaeth yn aml yn dewis y math yma o SIM fel eu bod yn gallu cael mynediad at rwydweithiau pob gweithredwr, gan gynyddu’r siawns o gael darpariaeth a chysylltedd da ar gyfer eu gwasanaeth.

Gan nad oes gan y darparwyr gwasanaeth hyn berthynas uniongyrchol â gweithredwyr rhwydweithiau symudol, ac yn aml mae cadwyn gyflenwi hir drwy gyfryngwyr amrywiol, nid yw mor hawdd dweud wrth bawb am ddiffodd y rhwydweithiau a gwneud yn siŵr eu bod yn uwchraddio eu dyfeisiau.

Rydym yn deall efallai na fydd hi’n hawdd i weithredwyr rhwydweithiau symudol nodi’r gwasanaethau hyn, gan nad eu cwsmeriaid uniongyrchol ydyn nhw, a gallai’r SIMs fod wedi cael eu cyflenwi gan bartneriaid rhyngwladol.

Mae’n bwysig bod gweithredwyr rhwydweithiau symudol a chyflenwyr gwasanaethau symudol eraill (fel SIMs crwydro) yn gweithio’n agos gyda’u cwsmeriaid i darfu cyn lleied â phosibl ar wasanaethau.

Dylai cyflenwyr a defnyddwyr SIMs crwydro wneud gwaith nawr i ddeall sut y gallai'r newidiadau arfaethedig i rwydweithiau, fel O2 yn rhwystro gwasanaethau crwydro i mewn ar ei rwydweithiau 2G a 3G, effeithio ar eu dyfeisiau a’u cwsmeriaid.

Defnyddio ein data 3G ‘man di-gyswllt’

Wrth i ddarparwyr ddiffodd eu rhwydweithiau 3G, rydym yn amcangyfrif – yn ogystal â’r ‘mannau di-gyswllt’ presennol – y gallai ychydig mwy o eiddo golli mynediad at wasanaeth symudol dibynadwy, dan do, 3G yn unig gan unrhyw ddarparwr rhwydwaith.

Er mwyn helpu darparwyr gwasanaethau (yn enwedig teleofal) i ganfod unrhyw gwsmeriaid a allai golli cysylltiad 3G, rydym wedi cyhoeddi rhestr o godau post yr effeithir arnynt. Nid yw’r data’n berthnasol i ddyfeisiau 3G sydd hefyd yn gallu cysylltu drwy rwydweithiau 2G neu 4G.

O ran teleofal, gallai colli’r ddarpariaeth 3G hon effeithio ar oddeutu 1-3% o nifer fach o ddyfeisiau sy’n dibynnu ar SIMs crwydro 3G yn unig, a gyflenwir gan ddarparwr y tu allan i’r DU.

Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth hon wrth i rwydweithiau eraill gadarnhau eu cynlluniau diffodd.

Paratoi ar gyfer diffodd 2G

Mae’n hanfodol bod darparwyr sy’n defnyddio offer 2G/3G yn paratoi drwy uwchraddio i ddyfeisiau 4G o leiaf er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth. Er mwyn cefnogi’r gwaith o baratoi sectorau’r diwydiant ar gyfer mudo, rydym yn tynnu sylw at y data darpariaeth symudol 2G perthnasol rydym yn adrodd amdano ar hyn o bryd.  

Gallai hyn helpu i nodi ardaloedd lle gall darparwyr gwasanaeth flaenoriaethu uwchraddio dyfeisiau cyn y newidiadau i rwydweithiau 2G. Fodd bynnag, dylid ystyried mai dangosol yn unig yw’r data hwn, ac ni ddylid dibynnu arno at ddibenion nodi union leoliadau. Gall darparwyr ystyried ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith y mae angen iddynt ei wneud i bennu lle dylid rhoi blaenoriaeth i uwchraddio dyfeisiau.

Mae O2 wedi cyhoeddi y bydd yn tynnu ei wasanaethau crwydro i mewn oddi ar ei rwydweithiau 2G a 3G o fis Hydref 2025 ymlaen. Nid oes unrhyw newidiadau i’r rhwydweithiau 2G sy’n cael eu gweithredu gan EE a Vodafone. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd newid arfaethedig O2 yn effeithio ar y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a dyfeisiau trydydd parti sy’n defnyddio SIMs crwydro, yn dibynnu ar y ddarpariaeth 2G sydd ar gael gan bob gweithredwr rhwydwaith symudol yn lleoliad y ddyfais.  

Mae ein ffeiliau data agored yn darparu data ar ddarpariaeth symudol mewn amrywiaeth o ardaloedd daearyddol (etholaeth, awdurdod lleol, Gwlad) ar gyfer amrywiaeth o fetrigau (dan do, yn yr awyr agored, daearyddol), yn ogystal â nifer y gweithredwyr rhwydweithiau symudol sy’n cynnig darpariaeth 2G yn yr ardal benodol. Dydy'r data hwn ddim ar gael ar lefel cod post.  

Er enghraifft, dyma gipolwg ar ffigurau etholaethau ar gyfer darpariaeth 2G dan do: 

  Etholaeth seneddol   2G_prem_in_0 2G_prem_in_1 2G_prem_in_2 2G_prem_in_3
Great Yarmouth 4.24 4.96 22.48 68.32
Greenwich a Woolwich  1.37 22.15 76.48
Guildford 0.59 1.57 19.09 78.75
Hackney North a Stoke Newington 2.14 23.21 74.65
Hackney South a Shoreditch 1.11 13.16 85.72
Halesowen 0.17 5.18 20.45 74.2

Mae’r ffigurau’n ganrannau o eiddo sy’n bodloni’r meini prawf (e.e. mae 5% o eiddo yn Halesowen yn cael darpariaeth 2G dan do gan 1 gweithredwr yn unig). Mae colofn wag yn dynodi 0.0. Data o fis Medi 2024.

Mae gennym hefyd API, sy'n seiliedig ar ddata cod post. Dylai’r canlyniadau llais gyda ‘No4G’ ddangos llais 2G (a, lle bo hynny’n dal yn berthnasol, 3G). Mae’r canlyniad yn dangos pa weithredwr rhwydwaith symudol sy’n darparu gwasanaethau/darpariaeth. Sylwer nad yw’n bosibl ymgymryd â phrosesau lawrlwytho swmp o’r API. 

Mae rhagor o wybodaeth am y setiau data hyn ar gael yma.

Mae’n bwysig nodi mai rhagfynegol yn unig yw’r setiau data darpariaeth hyn a ddarperir gan y gweithredwyr rhwydwaith symudol. Nid yw’r setiau data hyn ychwaith yn defnyddio’r dull mwy ceidwadol o ymdrin â data darpariaeth a ddefnyddiwyd i greu’r data 3G ‘di-gyswllt’ ac felly mae wedi’i deilwra’n llai i risgiau penodol sy’n gysylltiedig, er enghraifft, â theleofal. Nid yw’r setiau data yn derfynol at ddibenion nodi eiddo a fydd yn dod yn fannau di-gyswllt 2G unwaith y bydd O2 yn rhwystro crwydro i mewn ac ni ddylid ei drin felly. Felly, dylid ystyried mai dangosol yn unig yw'r data hwn, a dim ond ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith y mae angen i ddarparwyr ei wneud i bennu lle dylid rhoi blaenoriaeth i uwchraddio dyfeisiau.   

Annog eich corff yn y diwydiant i ddatblygu canllawiau ar gyfer eich sector

Yn eich sector chi, efallai y bydd pethau eraill i’w hystyried wrth nesáu at y cyfnod diffodd 3G a 2G. Felly, rydym yn annog cyrff diwydiant fel cymdeithasau masnach i siarad â’u haelodau a chyhoeddi canllawiau sy’n benodol i’r sector.

Dyma rai mathau (ond nid pob un) o ddyfeisiau y gallai’r diffodd effeithio arnynt:

Larymau

  • Teleofal
  • Tân
  • Diogelwch

Cyfleustodau

  • Mesuryddion clyfar (domestig a busnes)
  • Gosodiadau paneli solar
  • Monitro rhwydweithiau cyfleustodau (dŵr, nwy, trydan)

Cysylltedd sy’n gysylltiedig â cherbydau

  • Gwasanaeth argyfwng eCall
  • Mannau gwefru cerbydau trydan
  • Dyfeisiau telemetreg/tracio
  • Mesuryddion parcio
  • Peiriannau tocynnau bws

Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethom ysgrifennu at sefydliadau llywodraeth leol (PDF, 168.8 KB) a’r sector teleofal (PDF, 148.5 KB), i ailadrodd pwysigrwydd bod darparwyr teleofal a darparwyr gwasanaethau eraill:

  • yn barod ar gyfer y newidiadau; ac
  • yn gweithio gyda sefydliadau sy’n defnyddio eu gwasanaethau i ganfod cwsmeriaid y mae angen uwchraddio eu dyfais.

Rate this page

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig