Diffodd 3G a 2G

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 25 Chwefror 2025

Mae darparwyr rhwydweithiau symudol y DU yn diffodd eu rhwydweithiau 3G a 2G yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Cewch wybodaeth a chyngor i'r diwydiant gennym yma.

Mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol y DU wedi cadarnhau i Lywodraeth y DU nad ydynt yn bwriadu cynnig rhwydweithiau symudol 2G a 3G ar ôl 2033 fan bellaf. Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno rhwydweithiau 4G a 5G a fydd yn cynnig gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy i gwsmeriaid. Mae gweithredwyr yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain o ran yr amseriad a’r broses ddiffodd.

Mae Vodafone ac EE wedi gorffen diffodd eu rhwydwaith 3G. Mae Three wedi diffodd ei rwydwaith 3G ar draws y rhan fwyaf o’r DU ac mae O2 yn bwriadu dilyn yn 2025.

Yn 2025, mae O2 hefyd yn bwriadu dechrau ar y gwaith i symud bron yr holl draffig sy’n weddill i ffwrdd o’i rwydwaith 2G. Ni fydd yn diffodd 2G yn llwyr am nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, bydd yn parhau i’w ddefnyddio ar gyfer galwadau brys mewn ardaloedd mwy anghysbell sydd heb 4G. Fel rhan o’r cynlluniau hyn, bydd O2 yn rhwystro mynediad at ei rwydweithiau 2G a 3G i wasanaethau crwydro i mewn o 1 Hydref 2025 ymlaen.

Mae EE wedi cyhoeddi ei fod yn dechrau’r broses o gysylltu â’i gwsmeriaid busnes sy’n defnyddio 2G i’w hannog a’u cefnogi wrth symud. Nid yw wedi pennu dyddiad ar gyfer diffodd 2G ond ni fydd yn digwydd tan yn ddiweddarach y degawd hwn.

Nid yw Vodafone wedi cyhoeddi unrhyw gynlluniau i newid ei rwydwaith 2G hyd yma, ac nid yw Three yn defnyddio rhwydwaith 2G.

Bydd diffodd y rhwydweithiau hyn yn effeithio ar gwsmeriaid sy’n defnyddio dyfeisiau a gwasanaethau symudol hŷn – mae gan y rhan fwyaf o gwsmeriaid ddyfeisiau 4G yn barod (a 5G yn gynyddol) ac ni fydd hyn yn effeithio ar eu gwasanaethau.

Ein rôl a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr symudol

Er bod gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn gyfrifol am amserlen y broses ddiffodd, rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg a’u bod yn gallu parhau i gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi nodi sut rydym yn disgwyl i weithredwyr rhwydweithiau symudol fynd ati i ddiffodd eu gwasanaethau yn y ddogfen ganlynol. Mae'r ddogfen hon hefyd yn nodi’r gofynion rheoleiddio perthnasol y bydd angen i ddarparwyr gydymffurfio â nhw yn ystod y broses hon.

Diffodd 3G a 2G: Ein disgwyliadau o ran darparwyr symudol (PDF, 301.6 KB)

Gweler hefyd:

We have made a correction to a typographical error in footnote 25 of the 3G and 2G switch-off: Our expectations of mobile providers document.

Yn ôl i'r brig