Four people using mobile phones in different locations

Gall 24 miliwn o gartrefi gael band eang gigabit

Cyhoeddwyd: 24 Ebrill 2024

Mae wyth o bob 10 cartref yn y DU (80%) bellach yn gallu cael band eang gigabit-alluog, i fyny o 73% yr un adeg y llynedd, yn ôl data newydd Ofcom a gyhoeddwyd heddiw.

Mae'r ffigurau o ddiweddariad gwanwyn Cysylltu'r Gwledydd Ofcom hefyd yn dangos, erbyn mis Ionawr 2024, y gall 62% o gartrefi gyrchu band eang ffeibr llawn, sy'n darparu'r rhyngrwyd i ddefnyddwyr trwy geblau ffeibr-optig ar gyfer gwasanaeth cyflymach a mwy dibynadwy. Mae’n nodi cynnydd sylweddol o 48% y flwyddyn ddiwethaf, wrth i dechnoleg ffeibr llawn gael ei chyflwyno ar garlam ledled y DU.

Bu cynnydd cyson wrth ostwng nifer y safleoedd na allant gael band eang 'digonol', a ddiffinnir gan Lywodraeth y DU fel un sy'n cynnig cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbit yr eiliad, o 68,000 o safleoedd i 57,000 yn ystod y flwyddyn.

Mae darpariaeth symudol yn parhau i wella hefyd, gyda 92% o safleoedd yn y DU bellach yn gallu derbyn signal 5G yn yr awyr agored gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol, i fyny o 82% mewn blwyddyn.

Yn ôl i'r brig