Gall defnyddwyr gyrchu amrywiaeth o wasanaethau rhyngweithiol trwy ei ffonau llinell dir a symudol, cyfrifiaduron a theledu digidol. Pan godir tâl am y gwasanaethau hyn trwy fil ffôn y cwsmer, maent yn cael eu galw'n wasanaethau y telir amdanynt drwy'r ffôn. Maent yn cynnwys rhoddion i elusennau drwy neges destun, ffrydio cerddoriaeth, cymryd rhan mewn cystadlaethau darlledu, ymholiadau'r llyfr ffôn, pleidleisio ar sioeau doniau ar y teledu a phrynu o fewn apiau. Cyfeirir at y gwasanaethau hynny yn gyffredin hefyd fel gwasanaethau cyfradd premiwm (premium rate services - PRS).
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach yn nodi ein cynigion, i bob pwrpas i drosglwyddo swyddogaethau rheoleiddio’r PSA i Ofcom, gan gynnwys newidiadau arfaethedig cysylltiedig i reoleiddio CPRS. O dan y cynigion hyn, bwriadwn dileu ein cymeradwyaeth o God 15 a'i disodli â'n set ein hunain o reolau mewn gorchymyn y bwriadwn ei wneud o dan adran 122 o’r Ddeddf (Gorchymyn PRS drafft). Pan ddaw’r Gorchymyn PRS i rym, bydd Ofcom yn cymryd cyfrifoldeb o ddydd i ddydd fel rheoleiddiwr a gorfodwr rheoleiddio PRS.
Ymateb i'r ymgynghoriad
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 50.7 KB) (Saesneg yn unig).
Prif ddogfennau
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA